Skip to main content

Sam’s story - Military to railway

20 Medi 2023

Ynghyd â'n partneriaid, mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Fel rhan o'n huchelgais i fod yn un o sefydliadau mwyaf cynhwysol Cymru, rydym yn parhau i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth.

Buom yn siarad â Sam Yaw Oppong-Druyeh sy'n gyn-filwr am ei waith yn Siemens Rail, sefydliad sy'n rhan o Gynghrair Craidd.

Dywedwch wrthym am yr amser pan oeddech yn y fyddin

Rwy'n gyn-filwr balch a chefais yrfa ragorol gyda'r Fyddin Brydeinig am dros 15 mlynedd. Fe wnes i wasanaethu gydag Uned Hedfan y Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol (REEM) fel Rheolwr Technegydd Awyrennau ac fel Rheolwr Asedau Cymorth Hedfan.  Fy rôl oedd datrys problemau ynghylch diogelwch ac ansawdd critigol peirianneg mewn amgylcheddau amddiffyn.  Rhoddais y gorau i wasanaethu fel milwr yn y fyddin ym mis Tachwedd 2019 gan ymuno a’r adran Cynnal a Chadw Awyrennau fel contractwr ac yn ddiweddarach, fel Rheolwr Safleoedd Adeiladu.

Sam in the military-2

 

Beth yw eich rôl bresennol gyda Gynghrair Craidd a sut wnaethoch chi ymuno?

Ymunais â Siemens, sy'n rhan o Gynghrair Craidd, drwy'r brosiect Military2Rail ym mis Ionawr 2022 fel cynllunydd prosiect ac rwyf bellach yn gweithio ar Linellau Craidd y Cymoedd (CVL), Treherbert, Aberdâr a Merthyr (TAM) a'r llinell rhwng Caerdydd a Rhymni (CAR).    Mae fy rôl yn cynnwys cydlynu a chynllunio cwblhau prosiectau i sicrhau bod popeth yn rhedeg ar amser yn ogystal ag adolygu ac adrodd ar gynnydd i uwch reolwyr a chleientiaid.  Mae'r rôl wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau yn ymdrin â risg a rheoli rhanddeiliaid.

Beth mae'n ei olygu i chi i weithio eich bod yn gweithio i gyflogwr sy'n cefnogi cymuned y lluoedd arfog?

Rwyf wedi gallu rhwydweithio ac integreiddio gyda thimau o fewn Cynghrair Craidd sydd wedi gwella fy mhroffil ymhellach.  Mae'n galonogol bod mewn amgylchedd lle mae'r diwylliant yn cyd-fynd yn agos â'm gwerthoedd craidd a'm cysylltiad â'r lluoedd arfog.  Mae hefyd yn galonogol gwybod bod y gwerth rydych chi'n ei ychwanegu yn cael ei werthfawrogi.  O weithio gyda'r gynghrair, mae wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod fy nghyflogwr yn gwerthfawrogi bod gan gyn-bersonél y fyddin sgiliau trosglwyddadwy amrywiol sy'n ein gwneud yn ymgeiswyr delfrydol ar gyfer rolau amrywiol o fewn amgylchedd peirianneg a chyflawni prosiectau.  Mae'r gynghrair hefyd yn barod iawn i roi cyfle i bobl.

Os hoffech wybod mwy am weithio i Trafnidiaeth Cymru neu i'n partneriaid, dewch i'n Digwyddiad Recriwtio y Lluoedd Arfog i ddysgu am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i gymuned y lluoedd arfog.