Skip to main content

Keiran's Story

10 Chw 2023

Dyma Keiran, ein prentis Dadansoddi Risg, yn adrodd sut beth yw bod yn rhan o raglen brentisiaeth TrC.

Dechreuais fy mhrentisiaeth gyda Trafnidiaeth Cymru ar ddechrau mis Ionawr 2023. Yn y cyfnod byr hwnnw, rwy’n falch o ddweud fy mod i’n aelod o dîm anhygoel Dadansoddi Risg. Mae wedi bod yn chwa o awyr iach i weithio gyda’r tîm, sydd wedi gwneud yn siŵr fy mod i’n gyfforddus ac maen nhw yno i fy nghefnogi unrhyw dro.

 

Kieran-6

 

Mae’r croeso wedi bod mor gadarnhaol, ac rwyf eisoes yn teimlo’n rhan o deulu ac o dîm TrC yn ehangach. Roedd yr holl brofiad yn y cyfnod cyn cael fy newis fel prentis yn rhywbeth nad wyf erioed wedi’i gael yn bersonol, ond roedd y broses yn hwylus iawn. Roedd hyn yn cynnwys cwrdd â’r bobl y byddwn efallai yn cydweithio â nhw, yn ogystal â chael y cyfle i ddangos fy sgiliau mewn ffyrdd unigryw a llawn hwyl. Cefais hefyd ymweld â swyddfeydd newydd TrC ym Mhontypridd a chael gweld y cyfleusterau anhygoel sydd ganddyn nhw.

Rwy’n gweld hwn yn gyfle gwych i ehangu a datblygu fy sgiliau mewn nifer o ffyrdd, yn ogystal â chael gyrfa a datblygu yn fy rôl. Byddwn i’n wir yn argymell i unrhyw un ystyried gwneud prentisiaeth, boed hynny ar ôl gadael yr Ysgol/Coleg neu’r Brifysgol, i newid gyrfa, neu os nad ydych chi’n siŵr o beth i’w wneud nesaf.

 

A allai prentisiaeth TrC fod y llwybr iawn i chi? Gallai prentisiaeth gyda ni fod yn berffaith i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau o ran gyrfa. Cadwch lygaid ar: https://trc.cymru/gwybodaeth/ceiswyr-swyddi/prentisiaethau