03 Gor 2026
Teithiwch o gwmpas y Sesiwn Fawr gyda fflecsi
Mae gŵyl eiconig y Sesiwn Fawr yn dychwelyd i Ddolgellau fis Gorffennaf eleni. Beth am archebu gwasanaeth fflecsi i deithio o gwmpas?
Wrth drawsnewid y dref yn ganolfan gerddorol fywiog, mae'r Sesiwn Fawr flynyddol yn dathlu'r gorau o gerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth werin. Wrth i’r ŵyl lenwi tafarndai, lleoliadau cymunedol a mannau awyr agored, gallwch fwynhau amrywiaeth o berfformiadau cerddorol lleol a chyfoes. Mae'r Sesiwn Fawr yn gyfle i ymgolli yn niwylliant Cymru trwy gelfyddydau, treftadaeth a naws gymunedol.
Yn ogystal â mwynhau perfformiadau cerddorol, gallwch archwilio Dolgellau. Rhowch gynnig ar y cacennau mêl eiconig o Popty'r Dref, ewch i fynydda ar Gader Idris a chrwydrwch o gwmpas y siopau annibynnol i brynu cofrodd.
Mae ein gwasanaethau fflecsi Dolgellau yn darparu teithiau hyblyg a fforddiadwy ac mae'n gyfle perffaith i deithio heb gar.
Dysgwch ragor am archebu taith fflecsi yma.