Skip to main content

Network North Wales: Metro is go!

10 Meh 2025

Fis diwethaf, gwnaethom gynnal ein Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus gyntaf yn ninas Wrecsam, ble daeth cydweithwyr a rhanddeiliaid ynghyd o bob rhan o'r sector trafnidiaeth.

Roedd gan yr uwchgynhadledd bopeth allech ei ddychmygu - popeth o siaradwyr dylanwadol i drafodaethau gyda panel, gweithdai arloesol, parth arddangos bywiog yn arddangos y datblygiadau diweddaraf yn y sector. I ychwanegu at gyffro’r digwyddiad, roedd hyd yn oed Francis Bourgeois ei hun yn bresennol!

Yn ogystal â'r awyrgylch rhagorol, roedd un cyhoeddiad yn sefyll allan - gwelliant i'r rhanbarth a dadorchuddio Rhwydwaith Gogledd Cymru.

Cyflwynwyd y weledigaeth uchelgeisiol gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, gyda digon o wasanaethau ar gyfer Gogledd Cymru, ynghyd â gwasanaethau metro rheolaidd wrth ei wraidd.

Bydd y weledigaeth ar gyfer y rhaglen yn golygu gwasanaethau trên metro yn rhedeg ar hyd brif lein Gogledd Cymru, Lein y Gororau (Caer i Wrecsam) a chyswllt rheilffordd uniongyrchol newydd rhwng Wrecsam a Lerpwl.

Mae'r newidiadau uniongyrchol hyn yn cael eu cyflawni, gyda llu o welliannau wedi'u cynllunio ar gyfer y tymor byr (0-12 mis), y tymor canolig (1-3 a 5 mlynedd) a'r hirdymor (i 2035 a thu hwnt).

Yn ei anerchiad yn yr Uwchgynhadledd, dywedodd Ken Skates “Ymlaen â'r Metro”. Felly, dyma drosolwg i chi o'r newidiadau cyffrous sydd yn yr arfaeth y gallwn edrych ymlaen atynt:

  • Dechrau gwaith ar y lein rhwng Wrecsam a Lerpwl fel y cam cyntaf hanfodol o ddarparu gwasanaethau metro uniongyrchol rhwng y ddwy ddinas.
  • Dyblu gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Chaer fis Mai nesaf.
  • Cyflwyno 50% yn fwy o wasanaethau ar draws prif lein Gogledd Cymru o fis Rhagfyr 2026 i fis Mai nesaf – gan arwain at wasanaeth newydd rhwng Llandudno a Lerpwl ac ymestyn gwasanaeth Maes Awyr Manceinion i Gaergybi yn lle Llandudno.
  • Ar ôl cwblhau'r gwaith rheilffordd yn Padeswood, cynyddu'r gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Bidston i 2 drên yr awr o fewn y tair blynedd nesaf, cyn cyflwyno 4 trên yr awr i redeg yn uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl erbyn 2035.
  • Bydd lein y Gororau gyfredol hefyd yn cael ei hailenwi'n lein Wrecsam - Lerpwl.
  • Gwella'r gorsafoedd allweddol ar lein Wrecsam – Lerpwl yn ystod y 12 mis nesaf.
  • Bydd trenau sy'n rhedeg ar lein Wrecsam – Lerpwl yn cael eu haddurno i adlewyrchu'r cymunedau a'r clybiau pêl-droed y maent yn eu gwasanaethu.
  • Cyflwyno technoleg Talu wrth Fynd Tapio i Mewn Tapio Allan - gan gwmpasu cysylltiadau rhwng Gobowen a'r Rhyl, ac ar hyd lein Wrecsam - Lerpwl
  • Gweithio gyda Network Rail i bennu pa mor ymarferol fyddai cyflwyno gorsaf reilffordd brawf newydd yn gyflym ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, i fesur y galw am wasanaethau parhaol i'r parc.
  • Cronfa arloesi trydaneiddio newydd gwerth miliynau o bunnoedd i ddatblygu cynllun i ddatgarboneiddio'r rheilffordd yn y Gogledd a galluogi rhagor o wasanaethau metro a gorsafoedd ychwanegol
  • Cyllid cyfatebol ar gyfer mynediad di-ris yng ngorsafoedd Shotton a Ruabon.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cyfnewidfeydd aml-ddull yng Nghaergybi, Bangor, Caernarfon a Wrecsam.
  • Gwasanaeth bws T13 newydd - i gysylltu'r Rhyl, Rhuthun, Dinbych a Wrecsam.
  • Archwilio opsiynau i ailagor gorsafoedd ac adeiladu gorsafoedd newydd i wasanaethu ardaloedd twf cyflogaeth.
  • Rhwydwaith bysiau newydd wedi'i chynllunio'n benodol i gysylltu cymunedau ag ystadau diwydiannol ym Mharth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.
  • Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo buddsoddiad o dros £13m i ddechrau cyflawni rhoi'r prosiect hwn ar waith ar unwaith a bydd yn defnyddio ffrydiau ariannu eraill i wireddu'r weledigaeth.

Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn cynrychioli ymrwymiad i newid cynaliadwy hirdymor, gan ddatgloi potensial economaidd aruthrol Gogledd Cymru a'r rhanbarth trawsffiniol. Mae'n ymwneud â chysylltu ein cymunedau, gwella bywydau, a chreu dyfodol mwy ffyniannus a hygyrch i bawb.

I gael rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Gogledd Cymru cliciwch yma https://trc.cymru/prosiectau/rhwydwaith-gogledd-cymru