Skip to main content

Runners choose rail travel for Cardiff Half Marathon.

11 Hyd 2024

Ddydd Sul 6 Hydref, bu nifer syfrdanol o redwyr a gwylwyr yn teithio ar drenau i Gaerdydd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd, a gynhaliwyd am yr 21ain flwyddyn.

Roedd cyflwyno gwasanaethau trên yn gynnar yn y bore, diolch i gytundebau newydd gyda chriw trên o fis Mehefin eleni, yn ei gwneud hi'n haws nag erioed i gyfranogwyr y ras gyrraedd y llinell gychwyn.

Er mwyn darparu ar gyfer y galw cynyddol a sicrhau profiad teithio esmwyth i'r holl gyfranogwyr, cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru naw gwasanaeth trên ychwanegol a naw gwasanaeth bws yn lle trên ychwanegol. Fe wnaeth TrC hefyd wella'r mesurau staffio a diogelwch i ddarparu amgylchedd croesawgar a diogel i bawb.

Ni ellir gwadu poblogrwydd y gwasanaethau trên, wrth i redwyr geisio'n eiddgar i sicrhau eu lle ar y llinell gychwyn. Er i’r galw mawr gyflwyno rhai heriau o ran capasiti, mae cyflwyno mwy o drenau newydd i'r rhwydwaith yn ddiweddarach eleni yn addo lliniaru'r materion hyn a darparu profiad teithio mwy cyfforddus ac effeithlon i bawb.

Rhedwyr yn teithio ar dren i Hanner Marathon Caerdydd

Hoffai TrC ddiolch hefyd i gwsmeriaid a deithiodd ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert i Radur ar wasanaethau bws yn lle trên, ac yna newid i wasanaethau trên er mwyn teithio i Gaerdydd wrth i'r gwaith peirianyddol barhau ar ddydd Sul 6 Hydref ar draws llinellau'r Cymoedd.

Cafodd dros 30 darn o waith peirianyddol eu gwneud yn ystod y cyfnod cau naw diwrnod ar y rheilffyrdd, gan gynnwys cael gwared ar bont droed wreiddiol gorsaf Trefforest yn ogystal â gwaith signalau drwy orsaf Pontypridd a gosod pont droed newydd yn Fernhill ar reilffordd Aberdâr.

Dywedodd trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd, Run 4 Wales:

"Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddarparu trenau ychwanegol ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a ddefnyddiwyd gan lawer iawn o bobl yn effeithiol ar ddiwrnod y digwyddiad ac rydym yn gyffrous i weld sut y gallwn adeiladu ar hyn ar gyfer y flwyddyn nesaf.

"Drwy annog mwy o redwyr i deithio ar y trên, rydym yn cael effaith gadarnhaol ar ein hôl troed carbon ac yn cyfrannu at ddigwyddiad gwyrddach."

Dywedodd Georgina Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau yn Trafnidiaeth Cymru:

"Eleni fe wnaethom gynnal naw gwasanaeth bws yn lle trên ychwanegol a naw gwasanaeth trên ychwanegol o leoliadau ar draws y rhwydwaith.

"Cynyddodd nifer y rhedwyr a ddefnyddiodd y rhwydwaith rheilffyrdd o 5% i 16% gyda'r holl wasanaethau yn cael eu defnyddio'n helaeth, ac roedd y digwyddiad hwn wedi rhoi cipolwg gwerthfawr i ni o ran defnydd y rheilffyrdd ac yn caniatáu i ni nodi meysydd i'w gwella.

Byddwn yn edrych ymlaen at barhau â'n partneriaeth gyda Run 4 Wales ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at ddigwyddiad y flwyddyn nesaf.