Skip to main content

Things to do in Wales this Christmas with fflecsi

16 Tach 2026

Chwilio am bethau i'w gwneud yng Nghymru y Nadolig hwn? Mwynhewch farchnadoedd Nadolig, gweithdai gwneud torchau a grotos hudolus ledled Cymru pan fyddwch chi'n teithio gyda fflecsi.

O Fachynlleth a Dolgellau i Ruthun a Dinbych-y-pysgod, mae digon o bethau i'w gwneud yng Nghymru y Nadolig hwn. 

Machynlleth 

Hoffech chi greu torch o blanhigion Nadoligaidd? Ewch i Dŷ Cemaes am weithdy torch gaeaf Peach & Peony. Crëwch dorch hardd eich hun i’ch cartref mewn awyrgylch hamddenol gan ddefnyddio dail wedi'i dyfu'n lleol, blodau sych a rhubanau. 

Gyda digon o siopau annibynnol i'w harchwilio, mae Machynlleth hefyd yn lle gwych i brynu anrhegion i anwyliaid. 

O ddillad lliwgar yn Gweni Gwyllt i'r amrywiaeth o lyfrau yn siop lyfrau Oriel Penrallt, mwynhewch ddiwrnod o siopa pan fyddwch chi'n teithio gyda fflecsi. 

Rhaeadr Gwy 

Royal Welsh Winter Fair Builth Wells-2

Teithiwch i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar ein gwasanaeth fflecsi Rhaeadr Gwy ar Ddydd Llun 30 Tachwedd a Dydd Mawrth 1 Rhagfyr. Mae hwn yn lle gwych ar gyfer diwrnod Nadoligaidd yn Llanfair-ym-Muallt; yn llawn cystadlaethau ac arddangosfeydd. Edrychwch ar y stondinau am anrhegion Nadolig unigryw ac ewch i'r Neuadd Fwyd am ddanteithion coginio lleol gan gynhyrchwyr Cymreig. 

Sir Benfro 

Pembroke Castle-2

  • Marchnad Nadolig Castell Penfro – De Sir Benfro 

Ymwelwch â Chastell hardd Penfro rhwng Dydd Gwener 27 a Dydd Sul 29 Tachwedd a mwynhewch hud yr ŵyl. Bydd carolwyr a cherddorion byw yn cynnig cefndir cerddorol eich diwrnod allan, lle gallwch archwilio dros 80 o stondinau sy'n gwerthu gemwaith, dillad, cynnyrch lleol a mwy.  

Ymweld â phlant? Ddydd Gwener, ewch i Groto Siôn Corn lle gallant gwrdd â Siôn Corn, rhannu eu rhestrau Nadolig a derbyn anrheg. 

  • Dinbych-y-pysgod – De Sir Benfro 

Am hwyl yr ŵyl, mae'n rhaid gweld Goleuadau Nadolig Dinbych-y-pysgod. Ewch ar Ddydd Sadwrn 28 Tachwedd a gwyliwch y Siôn Corn, ymweld â'r Groto, ac ewch i'r farchnad Nadolig dros dro am siopa Nadoligaidd. 

Treffynnon 

Mae Treffynnon yn chwistrellu hud y Nadolig drwy gydol mis Tachwedd a Rhagfyr y tymor Nadoligaidd hwn: 

  • Goleuadau Nadolig – Dydd Gwener 27 Tachwedd 
  • Marchnad Nadolig - Dydd Sul 13 Rhagfyr  
  • Cerddoriaeth fyw bob dydd Sadwrn ym mis Rhagfyr 

Dolgellau 

Chwilio am rywbeth gwahanol i ddathlu'r ŵyl? Ewch i Ddolgellau ar gyfer Gorymdaith boblogaidd y Tractorau gyda Goleuadau ar Ddydd Sul 13 Rhagfyr. Gan ddechrau yn Nolgellau, bydd yr orymdaith yn teithio trwy Lanelltud, Bontddu, Abermaw a Phorthmadog. 

Rhuthun 

Ruthin Castle-4

Gyda swyn canoloesol, siopau annibynnol a chynhyrchwyr bwyd lleol, Rhuthun yw'r lle perffaith ar gyfer y Nadolig.  

Ar gyfer Nadolig arbennig, ewch i'r dref ar 28 Tachwedd. Gyda dros 100 o stondinau crefftwyr i'w darganfod, crwydrwch drwy Gastell Rhuthun a dewch o hyd i anrheg Nadolig unigryw i rywun annwyl.  

Dyffryn Conwy 

688055-walking-on-the-river-conwy-at-llanrwst-north-wales-2

Dewch i ymweld â Betws-y-Coed am ddiwrnod swynol y Nadolig hwn. Mwynhewch olygfeydd hyfryd ar daith gerdded y gaeaf drwy Goedwig Gwydir a phrynhawn clyd yn Ystafelloedd Te Tu Hwnt i'r Bont. 

Llanarmon,  

Cysylltu cefn gwlad Cymru; beth am ddefnyddio fflecsi Llanarmon i deithio i'r Wyddgrug? 

Bydd y Goleuadau Nadolig blynyddol yn dod i rym ar Ddydd Mawrth 24 Tachwedd. Mwynhewch adloniant cerddorol, ffair hwyl a stondinau marchnad, gyda Siôn Corn yn cyrraedd hefyd! 

Bwcle 

Ewch i Farchnad Nadolig Dan Do Tivoli ar Ddydd Sul 29 Tachwedd. Bwyd a diod Nadoligaidd, digon o stondinau a chyfle i fwynhau yr adloniant byw. 

Prestatyn 

Teithiwch i Brestatyn ar Ddydd Gwener 27 Tachwedd ar gyfer y goleuadau Nadolig. Mwynhewch brynhawn llawn hwyl Nadoligaidd, adloniant i'r teulu a pherfformiadau gan gorau lleol. 

Mae digon o bethau i'w gwneud yng Nghymru y Nadolig hwn pan fyddwch chi'n teithio gyda fflecsi. Ffoniwch ein tîm cyfeillgar ar 03002 340 300 i archebu eich taith nesaf, neu archebwch ar ein ap fflecsi.