Skip to main content

Why you should choose fflecsi this Better Transport Week

16 Meh 2026

Thema Wythnos Trafnidiaeth Well yw dathlu sut mae trafnidiaeth well yn cysylltu pobl a lleoedd. Mae ein gwasanaeth bysiau fflecsi yn enghraifft berffaith o hyn, wrth gysylltu pobl ar draws ardaloedd gwledig Cymru i ddarparu trafnidiaeth well.

Dyma 5 rheswm pam y dylech chi ddewis teithio gyda fflecsi: 

1. Cynaliadwyedd 

P'un a ydych chi ddim yn gyrru neu os hoffech chi yrru llai, mae ein gwasanaeth bysiau fflecsi yn opsiwn cynaliadwy gwych. Drwy optimeiddio llwybrau, mae bysiau fflecsi yn lleihau allyriadau carbon, gan eich cefnogi ar eich taith i fod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd. 

2. Cyfleus a hyblyg 

Mae'r gair yn yr enw – mae ein gwasanaeth bysiau fflecsi yn opsiwn trafnidiaeth hyblyg. Yn hytrach na dibynnu ar amserlenni sefydlog, mae fflecsi yn cynnig cyfleustra trwy eich galluogi i archebu taith pan fydd ei hangen arnoch.* 

3. Hygyrch 

Mae fflecsi yn gwneud teithio'n fwy hygyrch i’r rheini sy’n byw yn ardaloedd gwledig Cymru sydd heb lawer o wasanaethau. O'ch apwyntiad gyda'ch meddyg teulu i deithiau cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, mae ein gwasanaeth bysiau fflecsi yn darparu teithiau hygyrch a fforddiadwy 

4. Mae’n integreiddio trafnidiaeth 

Nid yn unig y mae ein gwasanaeth bysiau fflecsi yn cefnogi teithio'n lleol, mae'n cysylltu â gwasanaethau trên a gwasanaethau bws eraill hefyd. Mae hyn yn helpu cymunedau i gysylltu â lleoedd y tu allan i'w hardal leol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i deithio o amgylch Cymru. 

5. Mae ganddo ap pwrpasol lle gallwch archebu teithiau  

Mae ein ap bysiau fflecsi yn gwneud teithio gyda fflecsi yn syml. Gallwch ddewis eich mannau casglu a gollwng a derbyn diweddariadau byw am eich bws unwaith y bydd eich archeb wedi'i chadarnhau.  

Os nad oes gennych fynediad at ffôn clyfar, gallwch archebu taith trwy ffonio ein tîm cyfeillgar ar 03002 340 300. 

Ydych chi am ddechrau teithio gyda fflecsi? Dysgwch fwy ar ein prif dudalen we yma

*Mae gwasanaethau bws fflecsi yn cwmpasu gwahanol barthau dynodedig sydd ag oriau gweithredu gwahanol. Gwiriwch ymlaen llaw bob amser cyn i chi archebu gwasanaeth.