Skip to main content

From the gym to the GP: how you can use fflecsi in your everyday life

03 Medi 2026

Efallai y bydd angen cludiant arnoch i fynd i siopa am fwyd, i gyrraedd apwyntiad gyda'ch meddyg teulu neu i fwynhau diwrnod allan gyda ffrindiau. Beth bynnag yw eich rheswm dros deithio, gall ein gwasanaeth bws fflecsi eich cludo yno.

P'un a ydych chi'n defnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd neu am roi cynnig arno am y tro cyntaf, gall fflecsi gael ei blethu i mewn i’ch bywyd bob dydd. Dyma rai o'r ffyrdd y gallwch chi ddefnyddio'ch gwasanaeth bws fflecsi lleol.

Apwyntiadau meddyg teulu ac ysbyty

Mae cael ffordd ddiogel, hygyrch a dibynadwy o deithio i apwyntiadau yn allweddol, yn enwedig os nad oes gennych fynediad at gar neu os oes gennych anawsterau symud. Gall fflecsi ddarparu cludiant diogel a hygyrch, wrth eich casglu a’ch gollwng ble bynnag sy'n gyfleus i chi.

2024 - Jack Abbott - TFW North Wales Mach-06322 (1)-2

Mynd i’ch siopau lleol

Hoffech chi fynd ar drip siopa ond ddim awydd cario bagiau yn ôl? Archebwch fws fflecsi. P’un a ydych chi am grwydro ar hyd eich stryd fawr leol neu fynd i’r archfarchnad i siopa am fwyd, archebwch wasanaethau fflecsi ymlaen llaw fel y gallwch chi fynd â’ch nwyddau adref yn hawdd.

Teithio i’r gampfa

Mae teithio ar y bws a theithio llesol yn mynd law yn llaw. Dyma beth oedd gan un o'n defnyddwyr bysiau i'w ddweud am fflecsi:

“Dyma’r tro cyntaf i mi ei ddefnyddio, mor gyfleus gan fy mod i’n byw ar ben ardal fryniog. Byddaf yn defnyddio’r gwasanaeth hwn eto – bob dydd Gwener rwy’n mynd i’r ganolfan chwaraeon ar gyfer fy nosbarth aerobics dŵr.”

Mae fflecsi yma i'ch cefnogi yn eich bywyd bob dydd, gan eich cysylltu â'r hyn sy'n bwysig i chi.

Parc Cenedlaethol Eryri

Llwybrau cerdded

Ar draws Cymru, mae ein gwasanaeth bws fflecsi yn cysylltu â nifer o lwybrau cerdded:

  • Defnyddiwch ein gwasanaeth fflecsi Sir Benfro i gael mynediad i Lwybr Arfordir Cymru yng ngorllewin Cymru
  • Archwiliwch Barc Cenedlaethol Eryri gyda'n bws fflecsi Dolgellau
  • Cynlluniwch daith i Ynys Enlli flwyddyn nesaf gan ddefnyddio ein gwasanaeth Pen Llŷn
  • Daliwch ein bws fflecsi Prestatyn i archwilio Llwybr Clawdd Offa

Mwynhau diwrnod allan

Mae fflecsi yn cysylltu cymunedau gwledig â rhannau eraill o Gymru. Beth am fwynhau diwrnod allan i rywle nad ydych chi wedi bod iddo o'r blaen? Mae ein gwasanaeth Dyffryn Conwy yn enghraifft wych o hyn; yn cysylltu Betws-y-coed a Llanrwst â'r pentrefi cyfagos.

Ar draws ardaloedd gwledig Cymru, mae fflecsi yma i gefnogi cymunedau. Dysgwch ragor am eich gwasanaeth bws fflecsi lleol a sut i archebu tocyn: https://trc.cymru/fflecsi