Skip to main content

Temporary timetable changes due to hot weather

22 Meh 2026

Gall tywydd poeth effeithio ar seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys y cledrau, llinellau uwchben a'n trenau.

Yn dilyn tarfu diweddar, rydym yn gwneud newidiadau dros dro i amserlenni tan ddydd Sadwrn 27 Mehefin er mwyn darparu gwasanaeth cyson, tra hefyd yn creu rhywfaint o le ychwanegol yn ein hamserlen i ddelio â phroblemau'n gyflym a lleihau'r tarfu ar gwsmeriaid. 

Rydym yn gwybod y gallai'r newidiadau hyn effeithio ar eich taith, ac rydym yn diolch i chi am eich amynedd. Os ydych chi'n teithio gyda ni yr wythnos hon, cofiwch yfed digon o ddŵr, gwiriwch cyn i chi deithio, caniatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith a siarad ag aelod o staff os oes angen cymorth arnoch neu os ydych chi'n teimlo'n sâl. Bydd gwasanaethau i gyrchfannau poblogaidd, gan gynnwys Ynys Barri, yn debygol o fod yn brysurach na'r arfer, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi amser ychwanegol ar gyfer eich taith. 

Am wybodaeth ddiweddaraf, ewch i: http://trc.cymru/cynllunio-taith   http://livemap.tfw.wales/#/aw_cy/mapview

Newidiadau i wasanaethau tan ddydd Sadwrn 27 Mehefin: 

Llinell Coryton  

  • Bydd gwasanaethau'n rhedeg bob 30 munud rhwng Coryton a Lefel Isel y Mynydd Bychan  
  • Ar gyfer gwasanaethau i Gaerdydd, newidiwch yn Lefel Isel y Mynydd Bychan a defnyddiwch wasanaethau Lefel Uchel y Mynydd Bychan 
  • Gan nad yw'r llwybr cerdded rhwng Lefel Isel y Mynydd Bychan a Lefel Uchel y Mynydd Bychan yn gwbl hygyrch, rhowch wybod i'r gyrrwr neu'r staff yn y gorsafoedd hyn os oes angen cymorth arnoch. Neu cysylltwch â Chymorth i Deithwyr 
  • Derbynnir tocynnau trên ar wasanaethau Bws Caerdydd  

 

Llinell Penarth  

  • Bydd gwasanaethau Penarth yn cael eu lleihau i ddau drên yr awr i/o Gaerffili 
  • Ni fydd gwasanaethau Penarth–Coryton yn rhedeg 

 

Bae Caerdydd 

  • Ar ddydd Llun 22 Mehefin, ni fydd y gwasanaethau bob hanner awr o Bontypridd i Fae Caerdydd yn rhedeg 
  • O ddydd Mawrth 23 Mehefin, bydd y gwasanaethau hyn yn rhedeg tan 13:26 bob dydd. Ar ôl hyn, defnyddiwch wasanaethau eraill i Gaerdydd Heol y Frenhines a newidiwch am wasanaethau i Fae Caerdydd