Skip to main content

Local and Community History Month

05 Mai 2023

Mae Mis Hanes Lleol a Chymunedol yn ddathliad o hanes lleol a chymunedol sy’n cael ei gynnal ledled y DU am fis. Fe’i trefnir gan y Gymdeithas Hanesyddol, ac mae gweithgareddau’n digwydd ledled y wlad bob mis Mai i godi ymwybyddiaeth o gymuned gref ac i dynnu sylw at hanes lleol. 

Yma yn TrC, mae ein gwaith treftadaeth yn anelu at warchod, diogelu a hyrwyddo ein treftadaeth gyfoethog a threftadaeth y lleoedd a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar yr un pryd â gweithredu arferion effaith cynaliadwy ar draws y sector trafnidiaeth

Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion parhaus i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cymdeithasol gynaliadwy a diwylliannol gyfrifol sydd o fudd i’r amgylchedd ac i’r bobl a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Mae trafnidiaeth wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o siapio hanes amrywiol a threftadaeth gyffredin Cymru a’r gororau. Mae gan y fenter agwedd gyfannol at dreftadaeth, gan gwmpasu nid yn unig yr amgylchedd adeiledig ond hefyd arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol safleoedd a chymunedau. Er mwyn cyflawni ein nodau, rydyn ni’n cydweithio â’r byd academaidd, grwpiau treftadaeth a chymunedol, a sefydliadau eraill i nodi, gwarchod, diogelu a chynnal treftadaeth yn ogystal â hyrwyddo arferion effaith cynaliadwy sy’n creu gwerth, yn gweithredu newid cadarnhaol, ac yn sicrhau manteision mesuradwy y gellir eu cynnal dros y tymor hir.

 

Newport City-2

 

Mae pawb yn byw mewn ardal o dreftadaeth leol a chymunedol gyfoethog, hyd yn oed os nad ydynt yn gwybod amdani eto!

Mai yw’r amser i ymchwilio, archwilio a darganfod hanes y byd o’ch cwmpas. Rydyn ni wedi llunio rhestr o lefydd gwych i ddechrau ymchwilio sy’n canolbwyntio ar hanes lleol a chymunedol trafnidiaeth.

  • Archwiliwch hanes eich teulu a’ch hynafiaid fu’n gweithio ar y rheilffyrdd. Dechreuwch yma.
  • I weld cofnodion staff cwmnïau rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr, ewch i’r canllaw cofnodion staff rheilffyrdd yn yr Archifau Cenedlaethol.
  • A oes gennych chi Hynafiaid fu’n gweithio ar y Rheilffyrdd neu ydych chi’n meddwl bod gennych chi? Hoffech chi gael gwybod mwy am agwedd wahanol ar hanes lleol a chymunedol yn eich ardal chi? Neu ddim ond eisiau gwybod mwy am fywyd ar y rheilffyrdd? Yna, ewch i Railway Work, Life & Death. Mae’r prosiect yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Portsmouth, yr Amgueddfa Rheilffyrdd Genedlaethol (NRM) a’r Ganolfan Cofnodion Modern ym Mhrifysgol Warwick (MRC) a gwirfoddolwyr anhygoel ledled y DU sy’n ei gwneud yn haws cael gwybod am ddamweiniau i weithwyr rheilffordd ym Mhrydain ac Iwerddon o ddiwedd y 1880au i 1939. Mae gan y prosiect gronfa ddata y gellir chwilio drwyddi am bwy oedd yn gysylltiedig, beth oedden nhw’n ei wneud ar y rheilffyrdd, beth ddigwyddodd iddyn nhw a pham.
  • Mae mapiau’n hanfodol i hanes lleol a chymunedol ac yn lle gwych i ddechrau ar gyfer edrych ar gymunedau rheilffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth dros amser 
  • Mae trafnidiaeth wedi creu, llunio a siapio #cymunedau lleol ledled Cymru a’r DU. Cymerwch ardal gorsaf i weld sut mae wedi newid gan ddefnyddio papurau newydd, cyfnodolion a chylchgronau, cofnodion cyfrifiad a hanes adeiladau/tai.
  • Chwilio archifau lleol yng Nghymru Storfeydd Archifau Cymru ac Chwilio’r Catalog Ar-lein

Mae ein rhwydweithiau trafnidiaeth a theithio llesol hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i archwilio hanes a threftadaeth, o lwybrau i gestyll i dirweddau hanesyddol. Dechreuwch arni yma.

 

Aerial view of Chirk aqueduct  Wales-2