Skip to main content

Building confidence through Welsh: Corrie and Ethan's learning journey

06 Awst 2026

Mae'r Gymraeg yn ganolog i bopeth a wnawn yn TrC (Trafnidiaeth Cymru). P'un a yw'n cyfathrebu â chwsmeriaid, cefnogi cymunedau neu ddathlu ein diwylliant, rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i gydweithwyr fagu eu hyder a datblygu eu sgiliau Cymraeg. 

Eleni, mynychodd gydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad gwersi Cymraeg gyda Menter Iaith RhCT, a ddaeth â dysgwyr o wahanol dimau at ei gilydd i ymarfer yr iaith mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol. Dyma isod drosolwg o brofiadau Corrie o'r tîm Cyfryngau Cymdeithasol ac Ethan o'r Tîm Cerdyn Teithio Rhatach. 

Cymraeg lessons-6

Corrie – Meithrin hyder trwy gyfathrebu 

O ran Corrie, roedd ymuno â'r cwrs yn benderfyniad ymarferol a fyddai'n ei helpu hi yn ei rôl beunyddiol. 

"Mae angen i ni gyfathrebu â'n cwsmeriaid yn ddwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydw i’n defnyddio templedi Cymraeg yn fy rôl bob dydd, felly roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig datblygu fy sgiliau fel fy mod i’n gallu cyflawni fy rôl yn fwy effeithiol." 

Roedd hi hefyd eisiau teimlo'n fwy hyderus wrth gyfathrebu â'i chydweithwyr Cymraeg, gan wneud y cwrs yn gyfle gwerthfawr i wella'n broffesiynol ac yn bersonol. 

"Yn bendant, mae wedi rhoi hwb i'm hyder i gael y dewrder i geisio siarad Cymraeg gydag eraill, ac wedi fy atgoffa fy mod i'n gwybod mwy nag yr oeddwn i'n meddwl. Dw i wastad wedi dymuno siarad Cymraeg, felly roedd yn gam gwych i'r cyfeiriad cywir." 

Pan ofynnwyd iddi beth fyddai'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried cofrestru ar gyfer y cwrs nesaf, roedd cyngor Corrie yn syml: 

"Byddwn yn bendant yn ei argymell. Mae'n ddelfrydol i unrhyw un sydd heb ddechrau, newydd ddechrau neu gyda sgiliau sylfaenol yn yr iaith. Mae'n bendant wedi fy sbarduno i eisiau dysgu mwy." 

Ethan – Ailddarganfod angerdd am y Gymraeg 

Mynychodd Ethan ysgolion dwyieithog cyn parhau â'r iaith yn nosbarthiadau Dysgu Cymraeg. Fel llawer o bobl eraill, roedd bywyd yn brysurach iddo ar ôl y brifysgol wrth iddo gamu i’r byd gwaith, felly pan oedd yna wersi Cymraeg ar gael trwy TrC, roedd hyn yn gyfle perffaith i ailgysylltu â'r iaith a oedd mor bwysig iddo. 

"Dw i wastad wedi edmygu pobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Mae gweithio i TrC wedi dangos i mi pa mor bwysig yw'r Gymraeg wrth gefnogi ein cwsmeriaid, felly roeddwn i eisiau gwella fy hyder." 

Efallai y bydd un o hoff ymadroddion Ethan o'r cwrs yn syndod i rai: 

"Sori. Dw i ddim yn deall. Gawn ni barhau yn Saesneg os gwelwch yn dda?"   

Roedd hyn oherwydd; 

"Roedd yn gysur i mi – rhoddodd yr hyder i ni roi cynnig arni, gan wybod bod gennym ffordd gwrtais o barhau â'r sgwrs yn Saesneg." 

Yn fuan ar ôl y cwrs, cafodd Ethan gyfle i ddefnyddio’r ymadrodd uchod pan ofynnodd cwsmer a oedd yn ymweld â Llys Cadwyn a oedd yn siarad Cymraeg. 

"Atebais i, 'Shwmae, Ethan dw i, a tipyn bach. Dw i'n dysgu Cymraeg ond gawn ni barhau yn Saesneg os gwelwch yn dda?' Roedd y cwsmer yn gwerthfawrogi fy mod wedi ymateb yn Gymraeg yn gyntaf ac yn hapus i barhau yn Saesneg. Fe wnaethon nhw hyd yn oed ddysgu rhai geiriau newydd i mi a allai helpu yn fy rôl." 

"Rydw i wedi dysgu peidio byth â bod ofn ceisio oherwydd byddwch chi bob amser yn dysgu rhywbeth newydd gan bobl eraill." 

Ei neges i unrhyw un sy'n ystyried y cwrs nesaf? 

"Ewch amdani! Byddwch chi ddim yn difaru; byddwch chi'n dysgu iaith hardd, yn cwrdd â phobl wych ac yn adeiladu eich hyder. Os oes mwy o gyrsiau yn y dyfodol, byddwn i'n cofrestru ar unwaith." 

Mae dysgu Cymraeg yn ymwneud â mwy na dysgu geiriau ac ymadroddion newydd; mae'n ymwneud â dathlu diwylliant unigryw Cymru a rhoi'r hyder i fwy o bobl ddefnyddio'r iaith bob dydd. Mae pob sgwrs yn helpu'r iaith i ffynnu, ac rydym yn falch o gefnogi cydweithwyr wrth iddynt barhau â'u taith iaith.

Cymraeg lessons-5