Skip to main content

Transport for Wales CEO James Price updates us on TfW’s plans to create a more sustainable transport network in Wales.

16 Meh 2023

Yr wythnos hon, ledled y DU, rydyn ni’n falch o gymryd rhan yn Wythnos Trafnidiaeth Well – dathliad wythnos o drafnidiaeth gynaliadwy sy’n canolbwyntio ar wahanol themâu bob dydd. 

James Price Headshot (1)-2

 

Rydyn ni i gyd yn ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu cymdeithas mewn perthynas â’r argyfwng hinsawdd a’r cyfrifoldeb sydd gennym i ddiogelu a chynnal ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Mae hefyd yn amlwg bod trafnidiaeth yn chwarae rhan bwysig iawn o ran helpu i ddarparu atebion, er mwyn i ni allu symud ymlaen i ddyfodol sy’n fwy gwyrdd a chynaliadwy o lawer.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad nid-er-elw sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru.  Mae ein cylch gwaith yn parhau i ehangu a datblygu, ac er bod llawer o gymhlethdodau o ran yr hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n ei wneud, mae’r rheswm ‘pam’ yn dal yn eithaf syml.

Mae angen gwell opsiynau trafnidiaeth ar Gymru.  Er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, mae angen lleihau nifer y bobl sy’n teithio mewn car.  Er mwyn gwella ein heconomi, mae arnom angen trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy mewn cymunedau gwledig a threfol.  Er mwyn newid ymddygiad teithio, mae angen mwy o opsiynau ar gyfer beicio, cerdded a theithio ar olwynion.

Er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae angen i ni allu cystadlu â’r car preifat ac mae hyn yn golygu gwella ein darpariaeth.  Rydyn ni eisoes wedi dechrau gwneud hyn drwy fuddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon ac rydyn ni wedi cyflwyno tri math newydd o drenau i’n rhwydwaith eleni.  Drwy wella capasiti a chadernid ar draws ein rhwydwaith a thrawsnewid profiad cwsmeriaid, rydyn ni’n gobeithio y bydd y trenau hyn yn dechrau darparu dewis amgen cystadleuol yn lle’r car preifat.

TfW 197 Conwy Valley Line Blaenau Ffestiniog (7)-2

Fodd bynnag, rydyn ni’n gwbl ymwybodol mai dim ond dechrau’r daith yw hyn a bydd yn cymryd 18 mis arall i ni drawsnewid yr hyn rydyn ni’n ei gynnig ar ein rhwydwaith trenau’n llwyr ac, ar yr adeg honno, gallwn ddechrau gwneud addasiadau mawr i amserlenni trenau a darparu gwasanaeth lle nad oes angen trefnu ymlaen llaw, yn enwedig ar gyfer y Metro.

Metro De Cymru yw ein prif brosiect ac ers prynu’r rheilffordd gan Network Rail ym mis Mawrth 2020, rydym wedi bod yn trawsnewid seilwaith gwerth biliwn o bunnoedd sy’n cynnwys gosod llinellau trydaneiddio uwchben ac ailwampio rheilffordd o'r 18fed ganrif.  Mae llawer o rwystrau heriol wedi codi, fel pandemig byd-eang a rhyfel Wcráin, sydd wedi effeithio ar ein cadwyn gyflenwi. 

Metro works Pontypridd - Porth May 23-150

Fodd bynnag, rydyn ni wedi parhau i symud ymlaen, a’r mis hwn, rydyn ni wedi llwyddo i drydaneiddio rhan o reilffordd Metro De Cymru ac rydyn ni nawr yn profi ein trenau tram ysgafn ar y llwybr.  Mae hon yn garreg filltir gyffrous ar ein taith i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy. Y cerbydau hyn fydd y cerbydau ysgafn cyntaf ar y rheilffordd yng Nghymru a byddant yn gallu rhedeg ar draciau rheilffordd a thramiau, gan weithredu ar linellau trydan a phŵer batri.

Mae’r diwydiant bysiau’n wynebu heriau parhaus ac rydyn ni’n cydnabod pa mor bwysig yw bysiau o ran creu rhwydwaith trafnidiaeth cwbl integredig. Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau ledled Cymru i wella gwasanaethau.

Drwy gymryd yr awenau a rheoli ein rhwydwaith TrawsCymru cenedlaethol, a gyda rhagor o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gallu cyflwyno 8 bws trydan newydd sbon ar ein llwybr T1 rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Rydyn ni hefyd wedi dechrau treialu tocynnau integredig sy’n cysylltu rheilffyrdd a bysiau. Ein gweledigaeth yn y tymor hwy fydd ymestyn ein cynnig ‘un tocyn’ y mae modd ei ddefnyddio ar draws ein rhwydwaith aml-ddull cyfan.

Traws Cymru Nant y Ci Depot (2)-2

Mae Fflecsi, sef ein gwasanaeth bws sy’n ymateb i’r galw, wedi parhau i ehangu ac rydyn ni nawr yn rhedeg 11 o gynlluniau ledled Cymru. Mae gennym gynlluniau ym Mlaenau Gwent, Bwcle, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Dinbych, Treffynnon, Penrhyn Llŷn, Sir Benfro, Prestatyn, Rhondda Cynon Taf a Rhuthun. Mae Fflecsi Sir Benfro bellach yn gwasanaethu’r sir gyfan ac mae’r parthau yn Rhuthun, Dinbych a Bwcle wedi ehangu, sy’n dangos pa mor llwyddiannus ydyn nhw.

3.02 29 56 04.Still122

Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe wnaethom hefyd lansio Sherpa’r Wyddfa, gwasanaeth bws wedi’i ailwampio ym Mharc Cenedlaethol Eryri sy’n fwy cysylltiedig ac yn rhedeg yn amlach.  Drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gwynedd, rydyn ni wedi gallu gwella’r gwasanaeth hwn a chreu dewis ymarferol yn lle’r car preifat ar gyfer twristiaid a phobl leol, gan helpu i leddfu tagfeydd ar y ffyrdd.

Teithio llesol yw rhan olaf y jig-so yn ein cynlluniau i greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig, aml-ddull a chynaliadwy.  Rydyn ni eisiau i deithio llesol (cerdded, beicio a theithio ar olwynion) fod yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio ar gyfer teithiau byr bob dydd yng Nghymru ac rydyn ni’n cydweithio â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Sustrans Cymru i gyflawni prosiectau teithio llesol.

Ramblers Cymru-2-2

Drwy reoli rhaglen y Gronfa Teithio Llesol ar ran Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni dros 250 o gynlluniau ac rydyn ni wedi dyfarnu £48.1 miliwn o gyllid. 

Rydyn ni hefyd wedi arwain yr adolygiad o’r Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol sydd wedi cael eu datblygu gan awdurdodau lleol ac rydyn ni’n defnyddio ein gwybodaeth strategol am deithio aml-ddull i wella a chryfhau cynigion.

Rwy’n falch o’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud yn TrC, sydd ar adegau wedi bod dan amodau anodd a heriol.  Rydyn ni wedi parhau i symud ymlaen, cyflawni ein cynlluniau a sefydlu ein hunain fel partner dibynadwy Llywodraeth Cymru o ran cyflawni prosiectau trafnidiaeth a’r ymrwymiadau perthnasol yn Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021.

Fodd bynnag, mae llawer iawn i’w wneud o hyd ac mae’n bwysig fy mod yn diolch i bobl Cymru a’r gororau am eu hamynedd wrth i ni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus.  Yn y tymor byr, mae rhai o’n newidiadau seilwaith yn tarfu ar bethau.  Yn y tymor hir, bydd mesurau fel trydaneiddio traciau, adeiladu pontydd troed ac ehangu gorsafoedd yn darparu opsiwn teithio cynaliadwy ac yn cysylltu cymunedau am genedlaethau i ddod.