22 Mai 2024
Mae'r haf ar y gorwel, a phan ddaw’r haf daw'r ysfa am antur.
Dafliad carreg o orsaf Penarth, fe welwch fan cychwyn yr hen lwybr rheilffordd, trysor cudd wedi'i droi’n llwybr cerdded a beicio heddychlon. Y ddihangfa berffaith ar drên ac ar droed, mae'r llwybr hardd hwn yn ddelfrydol i deuluoedd.
Oeddech chi’n gwybod y gall plant deithio am ddim pan fydd oedolyn sy’n talu am docyn yn teithio gyda nhw? Bargen a hanner, heb os nac oni bai!
Mae'r llwybr yn dirwyn ei ffordd tuag at lynnoedd hyfryd Cosmeston. Mae'r parc prydferth hwn yn cynnwys dau lyn, sy'n berffaith ar gyfer bwyta picnic neu werthfawrogi bywyd gwyllt yr ardal.
Ydych chi’n awchu am antur? Beth am grwydro o gwmpas Pentref Canoloesol Cosmeston tra byddwch chi yma (taith gerdded fer o'r llynnoedd) i gael cipolwg diddorol ar y gorffennol. Mae'n un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Cymru ac yn atyniad treftadaeth poblogaidd ym Mro Morgannwg.
Os bydd amser gennych, beth am barhau ar eich antur a darganfod mwy ynglŷn â’r hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig? Peidiwch â methu’r cyfle i fynd am dro i lawr Pier eiconig Penarth. Teimlwch awel y môr, mwynhewch hufen iâ (rwm a rhesin, efallai?), ac ymgollwch yn y golygfeydd panoramig o Fôr Hafren.
Felly beth am adael y car gartref a mentro ar antur fythgofiadwy yr haf hwn!