Skip to main content

Iconic Welsh filming locations from Gavin and Stacey

09 Hyd 2024

Mae Cymru'n enwog am ei thirweddau trawiadol a'i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. Mae wedi bod yn gefnlen ar gyfer sawl cynhyrchiad teledu a ffilm eiconig. Un o'r rhain yw'r comedi sefyllfa boblogaidd, Gavin and Stacey.

Cyflwynwyd y gyfres yn wreiddiol i'n sgriniau ym mis Mai 2007, ac mae'r gyfres yn archwilio'r berthynas ddoniol a chalonogol rhwng dau deulu o Gymru ac Essex.

Yn dilyn y newyddion bod disgwyl i'r sioe deledu eiconig ddarlledu ei rhaglen Nadolig ddiwethaf erioed ym mis Rhagfyr, mae ffans wedi heidio i'r lleoliadau ffilmio enwog yn y gobaith o weld y sêr. Yn wir, mae ymchwil a wnaed ar ran TrC wedi datgelu bod chwiliadau Google am "Gavin and Stacey Barry Island" wedi cynyddu 116% ledled y DU dros y tri mis diwethaf.

Gyda hynny mewn golwg, rydyn ni'n datgelu rhai o leoliadau ffilmio eiconig y comedi sefyllfa sy'n parhau i swyno cynulleidfaoedd ledled y byd. Rydym yn annog ffans Gavin a Stacey i ymweld â Chymru a phrofi ei lleoliadau ffilmio enwog.

Ynys y Barri

Mae Gavin and Stacey yn aml yn dangos glannau, arcedau a thraeth bywiog Ynys y Barri, sy’n ychwanegu at swyn y sioe a’i chymeriad lleol. Mae llawer o olygfeydd yn digwydd yma, gan gynnwys Nessa yn gweithio yn y slotiau a chaffi Marco. Mae ymweld â'r lleoliad eiconig hwn yn hawdd – wrth gyrraedd gorsaf reilffordd Ynys y Barri, byddwch chi yng nghanol y cyffro i gyd.

Heol y Drindod, Y Barri

Gallwch ddod o hyd i'r tŷ a ddefnyddiwyd fel y tu allan i gartref teulu Stacey yn 47 Trinity Street yn y Barri. Os ydych chi'n bwriadu ymweld, efallai y gwelwch chi ddau leoliad ffilmio enwog, gan ei fod hefyd yn cael ei ddefnyddio fel cefnlen i dŷ Uncle Bryn, yr ochr arall i’r stryd.

Sgwâr San Pedr, Dinas Powys

Er bod cartref teuluol Gavin wedi'i leoli yn Billericay, Essex, efallai y bydd ffans sy’n cadw llygad barcud ar y sioe yn gwybod bod y tŷ hwn wedi'i leoli ar Laburnum Way, Dinas Powys. Tŷ’r teulu Shipman oedd lleoliad y rhan fwyaf o raglen Nadolig gyntaf erioed y comedi sefyllfa yn 2007. 

Y Colcot Arms, Y Barri

Bydd ffans y rhaglen yn falch o wybod, er bod Smithy yn byw yn Essex, gallwch ymweld â'r lleoliad ffilmio hwn yng Nghymru, yn The Colcot Arms yn y Barri. Fodd bynnag, rydych yn annhebygol o ddal James Corden yn actio fel holwr y cwis yma!

Y Rhws, Bro Morgannwg

Gallwch grwydro o gwmpas safle carafanau Dave yn y Rhws, lle roedd Dave, Nessa a Baby Neil i gyd yn byw ar un adeg.

Llanfaes, Bro Morgannwg

Yn Llan-faes, gallwch ddod o hyd i St Cattwg, yr eglwys a gynhaliodd seremoni priodas Gavin a Stacey ar ddiwedd y gyfres gyntaf.

-DIWEDD-

Cyswllt Cyfryngau

Emily Salt emily.salt@wearenorth.uk

Ffynonellau

Ynglŷn â Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy, hygyrch ac o ansawdd uchel y mae pobl Cymru yn falch ohono.

Maent am i bobl ymddiried ynddynt a chredu ynddynt ac i ymrwymo i newid eu hymddygiad, teithio'n fwy cynaliadwy a gwneud eu rhan dros bob dyfodol. Bydd y rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull, integredig y maent yn ei adeiladu yn galluogi pobl i wneud hyn.

P'un a yw pobl yn dewis defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, olwynio neu feicio, maen nhw am sicrhau bod teithio'n gynaliadwy nid yn unig yn cael ei ystyried fel y peth iawn i'w wneud ond hefyd y peth hawsaf.

Llwytho i Lawr