Skip to main content

Help Shape the Future of Cycling and Bus Travel in Wales

29 Medi 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i wneud teithiau ar fws a beic yn fwy cynhwysol, ymarferol a chyfeillgar i bawb.  P'un a ydych chi'n beicio’n aml, yn teithio ar fws yn rheolaidd, neu'n rhywun sy'n ystyried cyfuno'r ddau, rydyn ni am glywed gennych chi.

Rydym yn lansio astudiaeth archwiliadol newydd i ddeall sut y gallai beicio a theithio ar fws gydweithio'n well ledled Cymru.  A'r cam cyntaf?  Cael eich barn chi. 

Pam bod hyn yn bwysig 

Mae cerdded, olwynio a beicio wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer Cymru wyrddach a iachach ond gwyddom nad yw cyfuno beicio a theithio ar fws bob amser yn hawdd. Hoffem wybod y canlynol: 

  • Sut ydych chi'n cyfuno beicio a theithio ar fws ar hyn o bryd? 
  • A fydd hyn yn ei gwneud yn haws neu'n fwy deniadol? 
  • A allai integreiddio'n well annog mwy o bobl i feicio neu i deithio ar fws? 

Mae hi'n ddyddiau cynnar ar gyfer yr astudiaeth hon — nid ydym wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto.  Bydd eich adborth yn helpu i lywio ein ffordd o feddwl yn y dyfodol a chreu gwelliannau posibl. 

Dweud Eich Dweud 

Rydym wedi lansio arolwg cyhoeddus i gasglu barn amrywiaeth o bobl — pobl sy'n beicio, defnyddwyr bysiau, teithwyr achlysurol, a'r rhai a allai ystyried cyfuno'r ddau yn y dyfodol.  P’un a ydych chi’n teithio bob dydd neu nawr ac yn y man, mae’ch llais yn bwysig. 

Llenwch yr arolwg nawr: https://dweudeichdweud.trc.cymru/beic-a-bws    

Bydd yr arolwg ar agor rhwng 29 Medi ac 19 Hydref.  Mae pob ymateb yn bwysig.  Bydd eich adborth yn dylanwadu'n uniongyrchol ar sut rydym yn gwneud gwelliannau yn y dyfodol i wneud beicio a theithio ar fws yn fwy cysylltiedig, cyfleus a chynhwysol. 

I'r rhai nad ydynt yn gallu llenwi'r arolwg ar-lein, gofynnwch am fersiwn gwahanol ohoni.   

Ymunwch â ni i greu Cymru sydd â chysylltiadau gwell — gyda'n gilydd. 
Llenwch yr arolwg, rhannwch eich barn, a'n helpu i wneud teithio cynaliadwy yn fwy hygyrch i bawb. 

Pam Dewis Beicio? 

Efallai y bydd yn syndod i chi wybod bod y gyrrwr cyffredin yn y DU yn treulio bron i bedair blynedd o'i fywyd y tu ôl i lyw y car — a bod tua wyth mis o'r amser hwnnw yn cael ei dreulio mewn tagfeydd traffig.  Mae hwn yn llawer iawn o amser, amser y gellid ei dreulio yn gwneud pethau pwysicach. 

Mae beicio yn ffordd glyfar, iach a chynaliadwy o deithio.  Gall eich helpu i gadw'n heini, yn lleihau straen, ac mae’n cyd-fynd yn hawdd â'ch diwrnod arferol.  Hefyd, mae’n lleihau traffig, allyriadau carbon a chostau teithio.  Gyda rhwydwaith beicio Cymru yn ehangu, mae defnyddio beic yn hytrach na'r car i deithio pellter byr yn haws nag erioed. Mae'n newid bach sydd â llawer iawn o fanteision - iechyd, lles, a'r blaned. 

Dysgu mwy am feicio: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/beicio 

Pam bod teithio ar fws yn gwneud gwahaniaeth 

P'un ai eich bod yn teithio ar y bws i fynd i’r gwaith, ysgol neu i hamddena, mae teithio ar fws yn ddull glanach a mwy cynaliadwy o deithio na’r car.  Mae teithio ar fws yn lleihau ein hallyriadau carbon helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.  Pob blwyddyn yng Nghymru, mae 70 miliwn o bobl yn teithio ar fws. 

Dysgu mwy am deithio ar Fws: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/bws