Skip to main content

Hiking the Preseli Hills and Mountains this Easter!

28 Maw 2024

Antur yw hanfod penwythnos y Pasg ac mae Sir Benfro'n cynnig llawer mwy na thraethau trawiadol yn unig; gwisgwch eich esgidiau cerdded ac archwiliwch fynyddoedd godidog y Preseli!

Cerdded a Chrwydro:

Mae Preseli yn cynnig hafan i gerddwyr o bob gallu. O ymlwybro'n hamddenol gyda'r teulu i deithiau cerdded heriol, mae llwybr sy’n addas i bawb.

Lawrlwythwch ap GoJauntly a threfnu eich taith heddiw.

Mae llawer iawn o lwybrau cerdded ar gael, rydych yn siŵr o ddarganfod un sy'n addas i chi!

Dyma rai syniadau i'ch ysgogi:

  • Yn llai na milltir o hyd, Foel Eryr yw'r daith gerdded fyrraf yn y Preseli. Yn sicr, dyma'r daith gerdded orau i chi os ydych chi am fwynhau golygfeydd gwych, heb orfod gweithio'n rhy galed.
  • I gyrraedd pegwn Moel Drygarn, byddwch yn cerdded tua milltir a hanner (mae pawb yn hoffi hunlun ar bwynt uchaf taith gerdded!) a bydd golygfeydd bendigedig yn eich disgwyl.

Yn teimlo'n anturus ac eisiau cerdded pellter hirach? Gallwch ddal bws T5 TrawsCymru i Eglwyswrw a cherdded 4 milltir i'r pwynt uchaf.

  • Moel Cwmcerwyn yw copa uchaf bryniau'r Preseli. Dyw’r daith i'r copa ddim yr hawsaf, byddwch yn dringo 300 metr mewn 2 filltir, ond mae'n werth pob cam!

Foel Cwmcerwyn-2

P'un a ydych chi'n dechrau neu'n gorffen eich taith gerdded yn Rosebush beth am ddysgu rhywfaint am hanes yr ardal ac archwilio gweddillion Gorsaf Rosebush a gaeodd yn barhaol i deithwyr ym 1937.

Gorsaf Rosebush

Cyngor defnyddiol: Paratowch bicnic a mwynhewch seibiant yn mwynhau golygfeydd rhagorol ymysg llonyddwch y mynyddoedd.

Gadewch eich car gartref y Pasg hwn!

Ymlaciwch ar Drafnidiaeth Gyhoeddus a mwynhewch olygfeydd gwledig hardd. Ewch i'n gwefan: https://trc.cymru neu Traveline Cymru: https://www.traveline.cymru/ i drefnu eich taith.

Y Pasg hwn, mwynhewch harddwch Sir Benfro trwy archwilio Mynyddoedd y Preseli. Mae'n antur a fydd yn eich adfywio, yn eich bywiogi ac yn creu atgofion bythgofiadwy!