Skip to main content

Spotlight: our Disabled People’s Travel Panel

29 Gor 2026

Mae Mis Balchder Anabledd yn amser i gydnabod, dathlu ac anrhydeddu cyflawniadau a phrofiadau bywyd amrywiol pobl anabl. Mae hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r rhwystrau y mae pobl yn dal i'w hwynebu ac i hyrwyddo cynhwysiant, hygyrchedd a chydraddoldeb ar draws cymdeithas ac yn y gwaith.

Ym mis Gorffennaf eleni, byddwn yn rhoi sylw i waith ein Panel Teithio Pobl Anabl. Mae'n helpu i sicrhau bod ein trenau, bysiau, gorsafoedd, cyfnewidfeydd a safleoedd bws yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb, drwy gydol y flwyddyn.

Mae pobl yn defnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth bob dydd i ymweld â ffrindiau a theulu, cyrraedd y gwaith a chael mynediad at ofal iechyd, addysg a gweithgareddau hamdden. Mae creu rhwydwaith sy'n gweithio i bawb yn ganolog i'r hyn a wnawn. Rydym am i bawb deithio gyda hyder, annibyniaeth ac urddas.

Mae'r 21 o bobl ar y Panel yn rhoi cipolwg hanfodol o'u profiadau bywyd eu hunain o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Maent yn chwarae rhan weithredol yn cynghori ar atebion teithio hygyrch yn ogystal â'u profi, eu gweithredu a'u gwella.

TfW DPTP (1)-7

Dyma rai o'r pethau maen nhw wedi ein helpu i'w cyflawni.

Platfformau mwy diogel

Mae palmant botymog ar ymylon ein platfformau yn fesur diogelwch hanfodol i bobl ag amhariad ar y golwg. Mae rampiau integredig ar ein trenau Dosbarth 756, 231 a 398 hefyd yn gwella mynediad o'r trên i'r platfform.

TfW DPTP (1)-6

Gorsafoedd hygyrch

Mae deuddeg gorsaf ledled Cymru yn cael eu huwchraddio i fodloni safonau hygyrchedd modern drwy’r ymgyrch Mynediad i Bawb. Mae gwaith ar y gweill yn Cathays ar bont droed newydd sbon i alluogi mynediad lifft, heb risiau, i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, llwybrau cerdded gwell a mynediad uniongyrchol i Ganolfan Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Mwy o gwsmeriaid yn teithio gyda hyder

Teithiodd 75,339 o deithwyr, sef nifer record, yn hyderus yn 2024/25, diolch i'n gwasanaeth Cymorth i Deithwyr. Mae'n darparu cefnogaeth ar bob cam o'r daith – o gynllunio teithiau a phrynu tocynnau i ddarparu cymorth wrth fynd ar y trên a dod oddi arno. Mae cydweithwyr yn cael eu hyfforddi i sicrhau bod anghenion cwsmeriaid yn cael eu diwallu wrth archebu a theithio gyda Chymorth i Deithwyr.

Teithio annibynnol yng Nghyfnewidfa Fysiau Caerdydd

Wedi'i gefnogi gan fyrddau mapiau canfod ffordd gydag elfennau Braille a chyffyrddadwy a baeau bws statig. Mae ein fideos iaith arwyddion ynglŷn â chyfleusterau’r safle yn cynnwys disgrifiadau sain yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae yna hefyd gyntedd eang, sy'n ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn symud o gwmpas.

TfW DPTP (3)-2

Hygyrchedd digidol

Mae hygyrchedd wedi'i ymgorffori yn ein hoffer a'n apiau digidol sy'n cael eu defnyddio gan gwsmeriaid. Er enghraifft, rydym wedi defnyddio WhatsApp i alluogi cwsmeriaid (gan gynnwys y rhai a allai ei chael hi'n anodd cyfathrebu â llais) i wneud ymholiadau amser real a derbyn ymatebion amserol.

TfW DPTP (2)-2

Ap Iaith Arwyddion Prydain

Rydym yn defnyddio ap dehongli Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sy'n galluogi cyfathrebu dwyffordd rhwng defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain a phobl nad ydynt yn ei defnyddio. Mae'n diwallu anghenion cwsmeriaid, o faterion brys i gyngor teithio pellach neu ymholiadau am docynnau.

Hyfforddiant

Bob blwyddyn, mae ein Panel Teithio Pobl Anabl yn cefnogi hyfforddiant amrywiaeth a hygyrchedd i 1,200 o gydweithwyr rheilffyrdd. Mae hyn yn cryfhau dealltwriaeth o'r rhwystrau a'r heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth deithio.

Dywedodd Dr Robert Gravelle, Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant:

“Does dim ffordd well o wneud gwasanaeth yn hygyrch ac yn gynhwysol na chynnwys pobl sy’n gwybod pa mor heriol y gall trafnidiaeth gyhoeddus fod os oes gennych chi anabledd. Mae’r cyngor a’r adborth gonest y mae aelodau’r Panel yn eu darparu yn llunio ein gwasanaethau i adlewyrchu anghenion gwirioneddol y bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Rydym yn cael adborth gan gwsmeriaid yn dweud bod mynediad gwastad rhwng y trên a’r platfform, lifftiau newydd i deithwyr, y gwasanaeth cymorth i deithwyr a mesurau hygyrchedd eraill wedi trawsnewid hyder pobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, sy'n foddhaol iawn.

“Bydd cylch gwaith TrC, sydd yn ehangu wrth i fentrau cerdded, olwynio a beicio gael eu hychwanegu at deithiau bws a thrên, yn rhoi heriau newydd inni eu harchwilio yn y dyfodol ond rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wneud teithiau o ddrws i ddrws gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bawb.”

Dywedodd Andrea Gordon, Cadeirydd Panel Teithio Pobl Anabl Trafnidiaeth Cymru:

“Mae’r Panel Teithio Pobl Anabl yn grŵp o bobl anabl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn aml. Mae’r holl safbwyntiau rydyn ni’n eu rhannu gyda Trafnidiaeth Cymru yn dod o brofiad gwirioneddol o’r rhwystrau rydyn ni’n eu hwynebu, yn ogystal â dathlu gofal cwsmeriaid gwych. Gobeithiwn ymestyn ein cyfranogiad i wasanaethau bysiau hefyd a gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod pob elfen o bob taith yn gynhwysol. Credwn fod hyn yn gyraeddadwy ac rydym yn herio pawb sy’n gysylltiedig i chwarae eu rhan.”

I ddysgu rhagor am sut rydym yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth hygyrch, ewch i:
https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch