23 Rhag 2025
Mae gyrru llai yn un o'r Addunedau Blwyddyn Newydd mwyaf poblogaidd, yn ogystal â chynnwys mwy o ymarfer corff yn ein ffordd ni o fyw. Os yw hyn yn swnio fel chi, beth am gynllunio diwrnod allan ym myd natur gyda fflecsi yn 2026?
Mae cysylltu cymunedau wrth wraidd ein gwasanaeth fflecsi ac yn cynnig cyfle i brofi tirwedd Cymru heb gamu i mewn i’ch car. O ymdrochi mewn dŵr oer yn Sir Benfro i fwynhau cyrchfannau cerdded gyda’ch cŵn yn Sir Ddinbych, darllenwch ymlaen i weld ble gallwch archwilio gyda fflecsi.
Y Lagŵn Glas – ger Traeth Abereiddi, Sir Benfro
Dim ond ychydig funudau ar droed o Draeth Abereiddi mae'r Lagŵn Glas, wedi'i amgylchynu gan ddyfroedd gwyrddlas a golygfeydd garw. Dyma'r lle perffaith ar gyfer golygfeydd hardd ac os ydych chi'n ddigon dewr, cyfle i nofio mewn dŵr oer (os yw'r tywydd yn caniatáu ac os ydych chi’n gwisgo siwt wlyb). Yn boblogaidd gyda nofwyr yn yr haf, ewch i ymweld ar ddiwrnod oerach am gyfle i gael y lagŵn i chi'ch hun.
Ffos Anoddun, Betws-y-Coed
Yn swatio ym Mharc Cenedlaethol Eryri mae Ffos Anoddun. Wedi'i drwytho mewn mytholeg, mae'r fan hardd hon wedi bod yn destun barddoniaeth a llên gwerin dros y blynyddoedd. Mwynhewch y cefn gwlad gwyrddlas, y teithiau cerdded prydferth ar hyd yr afon a chewch weld defaid yn pori hefyd. Os penderfynwch ymweld â Ffos Anoddun, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod ag arian parod ar gyfer y blwch gonestrwydd.
Bae Porth Mawr, Tyddewi
Wedi'i bleidleisio fel yr ail draeth gorau yng Nghymru i ymweld ag ef yn y gaeaf, ewch i Fae Porth Mawr am dro hamddenol ar y traeth. Yn adnabyddus am ei dywod gwyn a'i olygfeydd o'r penrhyn, mwynhewch filltiroedd o arfordir a fydd yn sicr o gynnig ychydig o awyr iach mawr ei hangen wedi’r Nadolig. Mae ymdrochi mewn dŵr oer yn weithgaredd poblogaidd ym Mae Porth Mawr – a fyddwch chi'n cael eich temtio?
Taith Pererin Gogledd Cymru, Treffynnon
Yn ymestyn ar draws 135 milltir, darganfyddwch hanes canoloesol a golygfeydd helaeth ar hyd Taith Pererin Gogledd Cymru. Wedi'i leoli yn Nhreffynnon mae'r safle pererinion hynaf a mwyaf poblogaidd ym Mhrydain - Capel a Ffynnon Gwenffrewi. O daith gerdded undydd i'r bererindod lawn, mae digonedd o hanes, llwybrau arfordirol a golygfeydd i'w gwerthfawrogi.
Gwarchodfa Natur Prestatyn
Am brynhawn hamddenol yn llawn bywyd gwyllt lleol, ewch i Warchodfa Natur Prestatyn. Yn wych ar gyfer mynd am dro gyda chŵn (gallwch ddod â nhw ar fysiau
fflecsi), mae'r warchodfa hon yn boblogaidd am ei choetir a'i golygfeydd heddychlon. O'r pwll adar i foch daear, mae Gwarchodfa Natur Prestatyn yn llawn bywyd gwyllt i'w fwynhau.
Muriau Tref Dinbych
Eisiau cynyddu eich camau a dysgu am hanes Cymru ar yr un pryd? Treuliwch y diwrnod yn Ninbych a cherddwch ar hyd Muriau Tref Dinbych. Yn llawn hanes diddorol, casglwch yr allwedd o'r llyfrgell a chamwch yn ôl mewn amser i'r Oesoedd Canol. Mwynhewch y golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd a’r cefn gwlad wrth i chi grwydro.
Mae fflecsi yn ffordd wych o ddechrau ymrwymo i'ch rhestr Addunedau Blwyddyn Newydd. Dysgwch ragor am ble allwch chi deithio gyda fflecsi, a sut i archebu tocynnau: https://trc.cymru/fflecsi