Skip to main content

Changing Places Awareness Day

18 Gor 2024

Heddiw, 'ryn ni'n dathlu Diwrnod Ymwybyddiaeth Changing Places ac rydym yn falch o gyhoeddi bod Toiledau Changing Places newydd ar draws y rhwydwaith sy'n gwneud teithio'n fwy hygyrch a chyfforddus i bawb.

Beth yw Toiledau Changing Places?

Toiledau sydd â mwy o gyfarpar arbennig ynddynt na thoiledau hygyrch safonol Toiledau Changing Places. Mae mwy o le ynddynt yn ogystal ag offer hanfodol er mwyn bodloni anghenion pobl sydd ag anableddau dysgu dwys a niferus neu sydd ag anableddau corfforol,  anafiadau i'r asgwrn cefn, dystroffi'r cyhyrau a sglerosis ymledol er enghraifft. 

Ym mhob un o'n toiledau Changing Places, mae offer priodol, gan gynnwys mainc newid ag offer codi, offer sydd wedi'i gynllunio i gynorthwyo pobl anabl.

Ble alla i ddod o hyd i Doiled Changing Places?

Bellach, mae gennym 10 Toiled Changing Places ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, gan gynnwys:

  • Aberystwyth
  • Bangor
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerfyrddin
  • Caer
  • Llandudno
  • Parcffordd Port Talbot
  • Y Rhyl
  • Amwythig
  • Abertawe

Mae ein Toiled Changing Places diweddaraf ar gael yn ein Cyfnewidfa Fysiau newydd yng Nghaerdydd.

TfW CBI changing places-4-2

Dyma Dr Robert Gravelle o adran Mynediad a Chynhwysiant Aml-ddull TrC:

“Mae'r cyfle i'r gymuned anabl gael mynediad at doiledau changing places diogel ac o ansawdd uchel oddi cartref yn hanfodol.  

“Mae TrC yn awyddus i sicrhau bod mwy o’r cyfleusterau cymunedol pwysig hyn ar gael ar hyd rhwydwaith cyfan TrC. Mae hyn i gefnogi annibyniaeth ein cwsmeriaid, nid yn unig yn eu defnydd o'n rhwydwaith trafnidiaeth sy'n ehangu; ond hefyd i gydnabod y manteision y mae Toiledau Changing Places yn eu darparu o ran cynhwysiant a chyfleoedd ar gyfer cymdeithasu, addysg a chyflogaeth.” 

Ychwanegodd Alun o Banel Hygyrchedd TrC;

“Yn ein Toiledau Changing Places, mae digon o le ynghyd â thoiled penrhyn (peninsular) (toiled gyda lle bob ochr iddo i gadair olwyn neu gymorth gofalwr), mainc newid, offer codi, addaswyr uchder a rheiliau llaw.

Amcangyfrifir bod chwarter miliwn o bobl yn y DU yn dibynnu ar doiledau Changing Places er mwyn gallu teithio'n gysurus a diogel. Maent yn arbennig o bwysig i bobl sydd angen newid padiau anymataliaeth a bagiau stoma ac i sicrhau bod gan bobl ifanc ac oedolion y toiledau priodol i allu ymdrin â'u hanghenion toiled heb effeithio ar eu 'hurddas' a chael eu gorfodi i ddefnyddio cyfleusterau newid babanod.”