Skip to main content

A day in the life of a Route Controller

01 Medi 2022

Mae Canolfan Gweithrediadau Rheilffyrdd Cymru (WROC) wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ond mae’n gyfrifol am fwy na 1,000 milltir o drac a phob trên sy’n gweithredu arno, gan gynnwys gwasanaethau teithwyr Trafnidiaeth Cymru, GWR, Cross Country ac Avanti, yn ogystal â llu o wasanaethau cludo nwyddau.

Fel un o adeiladau Network Rail, mae’r Ganolfan yn gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ac mae cydweithwyr Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr i sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu teithio gyda chyn lleied o darfu â phosibl.

Pan aiff pethau o chwith ar y rheilffyrdd, sgiliau, arbenigedd a phenderfyniadau tîm agos o reolyddion llwybrau sy’n gwneud y galwadau i helpu i adfer trefn.

Mae un o reolyddion llwybrau TrC, Steve Howard (sydd yn y llun isod) wedi rhannu cipolwg diddorol o “ddiwrnod arferol” ym mywyd y Ganolfan Reoli.

Control 2-2

“Yn gyffredinol, os yw’r rhwydwaith yn rhedeg yn esmwyth, heb unrhyw broblemau o ran seilwaith nac unedau (trenau), gyda’n hunedau’n cyrraedd lle mae angen iddynt fod bob nos gyda digon o danwydd, yna mae ein gwaith yn gallu bod yn eithaf syml,” meddai Steve, sydd wedi gweithio yn y ganolfan ers dwy flynedd.

“Ond, fel y gŵyr pawb sy’n gweithio i’r Rheilffyrdd, rwy’n siŵr, nid yw pethau mor syml â hynny. Dyma lle mae ein gwaith yn mynd yn ddiddorol.

Rydyn ni’n datrys problemau ac, yn y pen draw, ein cyfrifoldeb ni yw rhoi’r gwasanaeth yn ôl at ei gilydd pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le.”

 

Gan fynd â ni drwy rai o’r digwyddiadau y mae wedi delio â nhw, mae Steve yn cofio diwrnod arferol lle’r oedd natur unwaith eto’n gwneud bywyd yn anodd ar y cledrau.

“Roeddwn i newydd gerdded i mewn ar gyfer shifft yn y prynhawn ac wedi eistedd i lawr pan glywais y geiriau ‘Mae i fyny’r Brif Reilffordd yn Llanharan wedi cau oherwydd llifogydd’,” meddai Steve.

“Ti’n gwybod pan fydd y brif reilffordd ar gau, mae’n mynd i fod yn shifft brysur!

“Rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd mae gennym ni’r opsiwn o ddefnyddio rheilffordd Bro Morgannwg, ond mae hwn yn llwybr hirach ac arafach, ac mae gwasanaethau’n aml yn cael eu dal y tu ôl i wasanaethau sy’n stopio ar hyd y Cymoedd, felly bydd gwasanaethau’r Brif Reilffordd yn cyrraedd yn hwyr. Ac nid yw pob un o’n trenau’n gallu defnyddio’r llwybr hwnnw, sy’n achosi problemau gyda gwasanaethau i Faesteg hefyd.”

 

Ar ddiwrnod arall, cafodd Steve wybod fod nam ar ddrws caban ar wasanaeth o Fanceinion i Aberdaugleddau yng Nghaerfyrddin.

“Cawsom wybod gan yrrwr y gwasanaeth blaenorol fod y clo ar un o ddrysau’r caban wedi methu, sy’n golygu nad oedd modd cloi’r drws wrth ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae hyn yn peri risg i ddiogelwch pan nad yw’r goruchwyliwr yn y caban, felly daethpwyd i’r casgliad nad oedd hi’n ddiogel i’r gwasanaeth adael. Roedd hyn yn golygu canslo’r gwasanaeth i Aberdaugleddau.

Mewn trafodaeth gyda Rheolwr yr Orsaf a Rheolwr y Goruchwylwyr yng Nghaerfyrddin, roeddem yn ceisio meddwl am ffyrdd o ddiogelu’r gwasanaeth nesaf a oedd yn mynd i ddechrau o Gaerfyrddin erbyn hyn yn hytrach nag o Aberdaugleddau. Fe wnes i awgrymu eu bod nhw’n defnyddio goruchwyliwr sbâr, os oedd un ar gael, i aros yn y caban ac i’r goruchwyliwr a oedd yn gweithio fod yn y salŵn.”

“Tra bod hyn yn cael ei ystyried, gwelais gyfle i roi uned ychwanegol ar wasanaeth a oedd yn mynd tuag Abertawe o Gaerdydd a allai gael ei datgysylltu gyda’r posibilrwydd o ddechrau gwasanaeth Manceinion o Abertawe yn hytrach nag o Gaerdydd pe na bai modd rhedeg gwasanaeth i deithwyr o Gaerfyrddin.

“Penderfynwyd y byddai’r cynllun i roi goruchwyliwr ychwanegol yn addas, felly roeddem yn gallu rhedeg y gwasanaeth o Gaerfyrddin ar gyfer ein teithwyr, a fyddai wedyn yn gallu newid i uned wahanol yn Abertawe a fyddai’n mynd â nhw ymlaen i Fanceinion. Byddai’r uned a oedd yn cyrraedd o Gaerfyrddin wedyn yn cael ei chysylltu â’r gwasanaeth addas nesaf (175) a oedd yn dod i stop yng Nghaer. Yno, byddai modd trwsio’r clo yn Depo Alstom.”

AdobeStock 317774994-2

Dywed Steve mai dim ond cipolwg bach yw’r uchod o’r hyn y gallen ni ddelio ag ef bob dydd.

Dywedodd: “Mae’n bwysig cofio bod llawer o’r problemau hyn yn digwydd ar fyr rybudd. Gallem fod yn delio â nifer o broblemau ar yr un pryd, yn enwedig pan fydd heriau penodol yn cael eu taflu atom a allai effeithio ar unrhyw le ar y rhwydwaith, fel tywydd garw.

“Er mai ein gwaith ni fel Rheolyddion Llwybrau yn y pen draw yw cael yr unedau lle mae angen iddynt fod, rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gyda’r Rheolwr y Ganolfan Reoli ar Ddyletswydd, y Rheolyddion Cymorth i Gwsmeriaid yn yr adran Reoli a’r holl dimau ar lawr gwlad drwy’r rhwydwaith i ddarparu gwasanaeth diogel a dibynadwy i’n teithwyr. Rydyn ni’n ymwybodol y gall llawer o’n penderfyniadau effeithio ar deithiau cwsmeriaid, ond weithiau bydd angen gwneud penderfyniadau gan ystyried taith pob teithiwr.

“Rwy’n siŵr y bydd pawb yn cytuno, ni waeth pa rôl rydyn ni’n ei chwarae yn y busnes, rydyn ni’n awyddus i orffen ein shifft gan wybod ein bod ni wedi gwneud y penderfyniadau cywir i gadw ein teithwyr i symud yn ddiogel ac yn brydlon, bod ein fflyd ni yn y lle mae angen iddi fod er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg cystal â phosib, a’n bod ni’n darparu’r gwasanaeth gorau posib ar draws y rhwydwaith.”