09 Ebr 2025
Ydych chi byth wedi teimlo fel bod ffawd yn eich gwthio i’r cyfeiriad cywir?
Dyna’n gwmws sut y teimlodd Hannah Price wrth ddod ar draws rôl brentisiaeth gradd peirianneg gyda ni ar Facebook. Sgrolio yn arwain at swydd eich breuddwydion – pwy fyddai wedi gwybod!
Ynghyd â’i chydweithiwr Jacob Green, ymunodd Hannah â’n Rhaglen Brentisiaeth Gradd Peirianneg Rheilffyrdd ym mis Medi 2024. Maent bellach wedi cwblhau 6 mis o’r rhaglen 4 mlynedd i ennill BSc mewn gradd Peirianneg Rheilffyrdd (Systemau Electromecaneg ac Electroneg) gan gael ystod o brofiad gwaith galwedigaethol ar yr un pryd.
Gwnaethom siarad â Hannah i glywed am ei phrofiad cyn belled:
Beth wnaeth dy annog i wneud cais am y Rhaglen Brentisiaeth Gradd Peirianneg Rheilffyrdd?
Gwnes i ond clywed am radd-brentisiaeth yn y flwyddyn ddiwethaf ac roedd gen i ddiddordeb yn y syniad yn syth – cael sgiliau ymarferol wrth weithio gan ennill cymhwyster proffesiynol a gweithio o fewn cwmni ar yr un pryd (yn ogystal â chael fy nhalu!).
Roedd gwyddoniaeth a pheirianneg, deall sut a pham y mae prosesau yn gweithio a sut i wella ac arloesi systemau sy’n barod yn bodoli bob amser wedi fy niddori. Gwelais yr hysbyseb swydd ar Facebook a meddyliais taw ffawd ydoedd. Roedd y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb y person yn cyd-fynd a’m sgiliau a diddordebau.
Disgrifia ddiwrnod arferol ym mywyd Prentis Gradd Peirianneg
Mae pob dydd yn amrywio! Rwy’n gweithio fel arfer yn Nepo Cynnal a Chadw Treganna a bydda i’n cyrraedd rhwng 7-8am yn barod ar gyfer cyfarfodydd tîm boreol.
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio o fewn tîm Trawsffiniol Cymru, lle rwy’n dysgu’r cyfan oll am drenau Dosbarth 197. Mae gen i ffrydiau gwaith fy hun megis newidiadau mewn peirianneg, tasgau dadansoddi data, asesu risg… ac enwi dim ond rhai.
Rydyn ni hefyd yn mynychu’r brifysgol unwaith yr wythnos yng Nghampws Trefforest, Prifysgol De Cymru i astudio tuag at ein cymhwyster BSc.
Ein modiwl cyntaf oedd Mathemateg Peirianneg, ac rydyn ni wedi sefyll dau arholiad. ‘Channel Compliance’ sy’n rhedeg ein modiwl cyfredol, lle rydyn ni’n gwneud modiwl mewn Tyniant Trên a Stoc Rholio ac rydyn ni wrthi’n gwneud traethawd ysgrifenedig y pwnc hwn.
Beth wyt ti wedi’i ddysgu dros y 6 mis diwethaf?
Fel y gellir dychmygu, mae ein blwyddyn gyntaf wedi bod yn gyflwyniad i TrC. Rydyn ni wedi bod ar leoliadau gwaith gwahanol i gael mewnwelediad i ystod o rolau gwahanol.
Gwnaethom ymweld â’r Ganolfan Gweithredu Trenau Cymru (Wales Rail Operating Centre WROC) i dreulio amser â’r tîm rheoli gwaith cynnal a chadw, rydyn ni wedi gwneud lleoliad gwaith â’r tîm cynllunio fflyd i ddeall yr amserlenni/profion cynnal sydd ar drenau yn ogystal â lleoliad gwaith ar y rheng flaen ac rydyn ni wedi rhannu’n hamser rhwng Llinellau Craidd y Cymoedd a trawsffiniau Cymru dros y misoedd diwethaf, gan ddod i’r afael â phynciau fel newidiadau peiriannol, moderneiddio a deall agweddau masnachol.
Rwy’n teimlo fel fy mod i’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.
Cyn belled, beth wyt ti wedi’i fwynhau mwyaf a pham?
Mae’r cyfle i ymweld â depos eraill ym Machynlleth, Caer, Crewe a Birkenhead wedi bod yn brofiad dysgu gwych ond ar wahân i’r ymweliadau hyn, yr hyn dwi wedi mwynhau mwyaf yw dadansoddi data – edrych ar ddata o hydref 2023 v 2024 yn nhermau cynnal teiars a gwneud awgrymiadau ar welliannau pellach ar gyfer 2025 i sicrhau bod cyn lleied o drenau allan o wasanaeth ar gyfer gwaith cynnal ar yr un pryd, i wella argaeledd ein fflyd.
Sut wyt ti’n cydbwyso agweddau ymarferol y swydd â’r gwaith theori?
Dwi wedi ffeindio taw’r ffordd orau o gydbwyso pob dim yw drwy fod yn drefnus a pheidio â gadael gwaith prifysgol tan y funud olaf.
Mae cydweithwyr yn deall ein bod ni’n gweithio swydd llawn amser gan astudio ar gyfer gradd ar yr un pryd ac mae’n bosib teimlo fel ein bod wedi ein llethu weithiau. Yn yr achos hwn, mae’n bwysig bod yn onest a gofyn am help os oes angen.
Sut ydy’r gefnogaeth gan gydweithwyr wedi bod?
Galla i ddim pwysleisio digon pa mor gefnogol mae fy nghydweithwyr i gyd wedi bod. Maent wedi rhoi croeso cynnes imi ers fy niwrnod cyntaf ar y depo. Pan fydda i ar leoliadau gwaith gyda’r tîm, mae pawb yn awyddus i helpu ac ateb unrhyw gwestiynau – hyd yn oed y rhai twp!
Dwi wedi teimlo fel bod aelodau o’r tîm yn gyffrous am y ffaith ein bod ni yma, yn hytrach na’n gweld ni fel baich, sy’n gwneud i TrC deimlo fel teulu mawr.
Sut olwg sydd ar y chwe mis nesaf a beth yw dy uchelgeisiau am y dyfodol?
Yn ystod mis cyntaf ein prentisiaeth, roedd gennym leoliad gwaith mwy ymarferol ar y rheng flaen, er nad oedd gennym wybodaeth ymlaen llaw am drenau.
Yr haf hwn, mae gennym leoliad gwaith ar y rheng flaen unwaith eto, a fydd yn dechrau ar ddiwedd mis Mehefin (gan gynnwys sifftiau nos!) ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut fydd fy ngwybodaeth a dealltwriaeth wedi gwella dros y chwe mis diwethaf.
Wedi imi gwblhau fy ngradd-brentisiaeth, dwi’n gobeithio cael swydd beirianneg barhaol yn yr adran beirianneg yn TrC.
Mae’r cwmni’n tyfu, newid a gwella’n gyflym ac rwy’n gyffrous felly i weld sut fydd y cwmni’n datblygu a’r cyfleoedd y bydd efallai’n dod o’r rhain.
Bydda i hefyd yn ystyried gwneud siarter ar ôl fy ngradd.
Pa gyngor fyddet ti’n ei rhoi i unrhyw un sy’n meddwl ymuno â’r rheilffordd?
Byddwn i’n ei argymell i unrhyw un!
Gyda’r holl newidiadau a gwelliannau sydd wrthi’n digwydd, nawr yw’r amser i weithredu.
Dyma’r cyngor y byddwn yn ei roi: byddwch yn fentrus, hyderus, a byddwch ynoch chi’ch hunain. Does dim angen arbenigo mewn trenau er mwyn bod yn llwyddiannus yn y diwydiant hwn. Peidiwch ag ofni gofyn ac nad ydych yn gwybod rhywbeth a bydd cymaint o bobl o’ch cwmpas a fydd yn hapus i’ch helpu a digonedd o gyrsiau dysgu a datblygu mewnol i’ch helpu ar hyd y ffordd.
Mae stori Hannah yn pwysleisio pwysigrwydd dod i’r afael â chyfleoedd a’r boddhad y mae gradd brentisiaethau’n eu rhoi. Rydyn ni’n gyffrous i’w gweld hi a Jacob yn parhau i ddatblygu a chyfrannu at ddyfodol ein rheilffyrdd.