07 Maw 2024
Mae nifer yn ystyried ein gwasanaethau i fod yn ffordd o deithio o bwynt A i bwynt B yn unig; ond beth am iddo hefyd fod yn gyfle ichi dreulio bach o amser yn darllen!
P’un ai ydych ar daith fer neu ar daith hirach, ymgollwch eich hunain ym myd ffuglen, dysgwch rywbeth newydd, neu darllenwch lyfr rydych wedi eisiau’i ddarllen ers oesoedd. Mae ein gwasanaethau’n galluogi ichi ddianc rhag y byd digidol a threulio amser yn darllen heb unrhyw darfu.
Mae yna lyfr i bawb, beth bynnag eich awydd. Pam ddim mwynhau felly siffrwd hyfryd tudalennau’ch llyfr yn troi wrth deithio ar fws neu ar drên? Gall y ffordd gyfannol hon o deithio’ch ail-egnïo a gallai’ch ysbrydoli i ddarllen wrth deithio yn lle sgrolio’n ddiddiwedd ar eich ffonau.
Pam ddim archwilio’r cyfoeth sydd i dreftadaeth lenyddol Cymru? Ewch i lefydd a ysbrydolodd awduron megis Roald Dahl, a chyfunwch antur teulu â chariad at ddarllen. Ewch i: Roald Dahl | Cardiff, Llandaff, Laugharne, Tenby | Visit Wales
Cofiwch fod plant yn teithio’n rhad ac am ddim ar ein gwasanaethau gydag oedolyn sy’n talu am docyn.
Diwrnod y Llyfr eleni, anghofiwch y car ac ailddarganfyddwch lawenydd darllen wrth deithio.
Llyfrau a llawenydd - mwynhewch y darllen!