Skip to main content

Hidden gems in Dolgellau

20 Tach 2026

Eisiau cefnogi busnesau annibynnol? Mae yna lond y lle ohonyn nhw yng Nghymru. Ar gyfer Dydd Sadwrn Busnesau Bach, rydyn ni'n tynnu sylw at Ddolgellau. 

Mae Dolgellau ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac felly’n adnabyddus am ei golygfeydd mynyddig hardd, llwybrau cerdded a threftadaeth gerddorol y Sesiwn Fawr.  Digon i ddarganfod felly; caffis clyd a chynnyrch lleol o Gymru gan gynnwys nwyddau pobi unigryw wedi'u creu â llaw.  Mae Dolgellau yn lle gwych i ymweld pan fyddwch yng ngogledd-orllewin Cymru. Dyma diléits Dolgellau y gallwch eu darganfod pan fyddwch yn teithio gyda ni. 

Dylanwad  

Mae'r mewnforiwr gwin annibynnol a'r deli Dylanwad yn gyntaf ar ein rhestr. Yn gartref i boteli lleol a byd-eang, mae'n lle gwych i ddod o hyd i anrheg i garedigion gwin eich bywyd.  

Fe welwch hefyd amrywiaeth o eitemau eraill gan gynhyrchwyr Cymreig; hamperi Nadoligaidd, craceri, caws, a'r siocled eiconig Coco Pzazz – ni fyddwch yn gadael yn waglaw. Mwynhewch wydraid o win neu ddiod boeth yn eu seddi ffenestr wrth edrych allan i’r stryd. 

Dylanwad-2

Ystafelloedd Te a Siop Gwyndy 

Camwch i mewn i'r tymor Nadoligaidd yn y Gwyndy sy’n llawn anrhegion unigryw. Dyma'r lle perffaith ar gyfer siopa Nadolig; clustogau lliwgar, darnau i’r cartref wedi’u creu â llaw. 

Mwynhewch de prynhawn clasurol, neu ystyriwch eu dewis Nadoligaidd. Mwynhewch ciabatta twrci rhost a llugaeron, sgons ffrwythau wedi'u socian mewn brandi, pasteiod briwgig a mwy.   

 

Gwyndy Tearooms-2
 

Popty'r Dref 

Pe baech yn hoff o felysfwyd, ewch i Popty'r Dref am fynsen fêl eiconig Dolgellau,  

Dim dyna’r cyfan – ystyriwch sgons clasurol llawn jam a sleisys cwstard neu gacennau bisgedi miliwnydd.  Mae'n bur amhosib i wwrthsefyll temtasiwn yr holl ddanteithion! 

Popty'r Dref-6

Fforc, Corc a Phlu 

Chwilio am le tawel i fwynau llyfr? The Fork, Cork and Feathers yw'r man i chi.  

Ymgartrefwch gyda choffi Rhostwyr Eryri a llyfr da. Ceisiwch eu deli am gynnyrch lleol Cymreig, o jam chilli Mwg Cymru i rym a charamel hallt Crwst. 

Mae'r caffi hefyd yn cynnal nosweithiau bistro â thema – ewch i'w tudalen Facebook i gynllunio eich ymweliad. 

 

Fork Cork and Feathers-2

Sut i gyrraedd Dolgellau 

TaithCymru 

Mae gan ein gwasanaeth coets TaithCymru newydd o Gaerfyrddin i Fangor arhosfa yn Nolgellau.  Byddwch chi angen archebu tocynnau o flaen llaw, gallwch wneud hynny yma. 

TrawsCymru 

Gall ein bysiau TrawsCymru fynd â chi i Ddolgellau. Neidiwch ar y: 

  • T2, yn gweithredu rhwng Bangor ac Aberystwyth. Y cysylltiadau rheilffordd ar hyd llwybr T2 i Ddolgellau yw Machynlleth a Morfa Mawddach  
  • T3/T3C, sy'n gweithredu rhwng Wrecsam a’r Bermo. Y cysylltiad rheilffordd agosaf ar hyd llwybr T3/T3C yw Y Bermo. 

T2 double deckers (24)-2

fflecsi 

Gallwch hefyd ddefnyddio ein gwasanaeth bws fflecsi Dolgellau, sydd yn darparu teithio hyblyg o amgylch yr ardal.  

Dolgellau yw un o’r mannau mwyaf atyniadol yn Eryri, dechreuwch gynllunio eich taith gyda ni yma.