22 Meh 2022
Mae’r wythnos hon, rhwng dydd Llun 20 Mehefin a dydd Sul 26 Mehefin, yn Wythnos y Lluoedd Arfog. Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos eich cefnogaeth i’r dynion a’r menywod sy’n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog: milwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr, cadetiaid a theuluoedd y Lluoedd Arfog.
Mae sawl ffordd i bobl, cymunedau a sefydliadau ledled y wlad ddangos eu cefnogaeth a chymryd rhan.
Cafodd Diwrnod y Lluoedd Arfog, Diwrnod y Cyn-filwyr gynt, ei ddathlu am y tro cyntaf yn 2006. Mae dangos cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog yn rhoi hwb mawr ei werth i forâl y milwyr a’u teuluoedd. Mae Lluoedd Arfog y DU yn amddiffyn y DU a’i buddiannau. Maen nhw’n brysur yn gweithio ledled y byd, yn hyrwyddo heddwch, yn darparu cymorth, yn mynd i’r afael â smyglwyr cyffuriau, yn darparu diogelwch, ac yn ymladd yn erbyn terfysgaeth. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff Lluoedd Arfog y DU hefyd wedi cefnogi’r ymateb i bandemig COVID-19, gan gynnwys cyflwyno’r brechlyn ledled y DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn maen nhw’n ei wneud gartref ac o amgylch y byd drwy ymweld â safleoedd swyddogol y Llynges Frenhinol, Byddin Prydain a’r Awyrlu Brenhinol.
Rydyn ni wedi addo cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog drwy lofnodi ymrwymiad i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog. Drwy ddod yn gyflogwr sy’n ystyriol o’r lluoedd, rydyn ni’n cydnabod y gallwn elwa ar yr amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau unigryw y gall milwyr wrth gefn a chyn-filwyr eu cyfrannu at ein sefydliad. Gall aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog hefyd helpu i amrywio’r dalent yn ein gweithlu.
Siaradodd Beth Maclaren, Rheolwr Prosiect, â ni am ei phrofiad o ymuno â TrC drwy ein Cynllun Recriwtio Lluoedd Arfog blaenorol:
“Ymunais â TrC yn 2020 drwy Gynllun Recriwtio’r Lluoedd Arfog a roddodd gyfle i mi drosglwyddo’r sgiliau a’r profiad o’r Lluoedd Arfog a newid fy ngyrfa.
Mae TrC wedi rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd arnaf eu hangen i fod yn Rheolwr Prosiect cymwys ac wedi fy nghefnogi i fel unigolyn a rhiant wrth wneud hynny.
Ers gadael y Lluoedd Arfog, mae wedi bod yn her addasu i fywyd sifil, ond mae TrC a fy Nhîm Seilwaith wedi fy ngalluogi i ragori yn fy ngyrfa newydd.
Mae addewid TrC drwy Gyfamod y Lluoedd Arfog i gefnogi Cyn-filwyr a’r rheini sy’n symud o’r Lluoedd Arfog i yrfa yn y Diwydiant Rheilffyrdd, yn rhywbeth yr oedd ei angen yn fawr iawn yng Nghymru, ac rwy’n gobeithio ei fod yn annog mwy o gyn-filwyr, fel fi, i ddilyn gyrfa yn y Diwydiant Rheilffyrdd.”
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd:
“Fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog TrC, rwy’n frwd dros godi ymwybyddiaeth o gymuned bresennol y Lluoedd Arfog a, lle bo angen, eu helpu i integreiddio yn ein sefydliad yn ogystal â manteisio ar eu sgiliau o’u profiadau blaenorol. Yn TrC, byddwn yn ymdrechu i gyflawni ein rhwymedigaethau o ran ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog ac yn ymdrechu i sicrhau statws aur a thu hwnt. I mi, mae Wythnos y Lluoedd Arfog nid yn unig yn gyfle i ddathlu ond hefyd yn gyfle i fyfyrio.”
“Mae’n gyfle i gofio’r ffrindiau a’r cyd-weithwyr hynny sydd wedi aberthu popeth er mwyn sicrhau ein rhyddid a’n diogelwch byd-eang.”
I gefnogi Wythnos y Lluoedd Arfog, byddwn yn goleuo ein prif swyddfeydd, Llys Cadwyn ym Mhontypridd. Bydd yr adeilad yn cael ei oleuo’n goch, gwyn a glas i gyd-fynd â baner Wythnos y Lluoedd Arfog. Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan a dangos eich cefnogaeth i wythnos y Lluoedd Arfog yma.
Cadwch lygad am ragor o weithgarwch a newyddion Wythnos y Lluoedd Arfog yn nes ymlaen yn yr wythnos.