Skip to main content

Celebrating TfW’s STEM women - Head of Finance Stephanie Raymond

09 Chw 2024

Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Merched a Genod mewn Gwyddoniaeth eleni, clywn gan y Pennaeth Cyllid - Gweithrediadau Stephanie Raymond am ei rôl yn TrC.

Stephanie Raymond-2

Enillodd Tîm Stephanie yn gwobrau Cyllid Cymru mawreddog yn 2022. Ei chyngor i unrhyw fenywod eraill sy’n chwilio am yrfa mewn mathemateg yw - ie, gallwch chi. Mae digon o gyfleoedd yn Trafnidiaeth Cymru ac mae dod yn rhan o’n teulu yn golygu eich bod yn helpu i ddarparu system drafnidiaeth ddiogel, fforddiadwy, hygyrch a chynaliadwy i bobl Cymru. Dywed Stephanie:

Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i wastad eisiau bod yn ysbïwr. Yn anffodus, nid yw hynny wedi gweithio allan (er efallai bod amser o hyd) ond mae'n ymddangos bod fy rôl bresennol yn gofyn am rai o'r sgiliau a fyddai'n gwneud unrhyw ysbïwr yn falch - meddwl dadansoddol a beirniadol, y gallu i gynnal cyfrinachedd a thrin gwybodaeth sensitif , creadigrwydd a dyfeisgarwch i ddatrys problemau, perthnasoedd rhyngbersonol i ennill ymddiriedaeth, yn ogystal â gwytnwch emosiynol i ymdrin â sefyllfaoedd pwysedd uchel a chynnal hunanfeddiant o dan straen.

Nid yw bob amser yn wyddoniaeth fanwl gywir

Astudiais Gweinyddiaeth Busnes yn y brifysgol yn yr Almaen. Mae pobl yn aml yn synnu faint o gyfrifo nad yw bob amser yn wyddor fanwl gywir ond yn llawer mwy o 'fusnes' na 'mathemateg'. Gweithiais yn un o fanciau mawr yr Almaen i’m tywys drwy’r brifysgol ond dechreuais fy ngyrfa mewn trafnidiaeth gyhoeddus - rwyf wedi gwirioni ers hynny.

Fy swydd ‘go iawn’ gyntaf oedd fel Partner Busnes Cyllid gyda Transdev (Veolia Transport neu Connex yn flaenorol), cwmni trafnidiaeth gyhoeddus rhyngwladol o Ffrainc. Yn ogystal â’r Almaen a Ffrainc, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i fod wedi gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus ar draws llawer o wledydd eraill gan gynnwys Sweden, yr Unol Daleithiau a Tsieina cyn i mi symud i’r DU.

Taenlenni enfawr.

Pan gyrhaeddais i Gymru, dechreuais chwilio am y prif weithredwr trafnidiaeth yn y cylch ac ymunais â TrC yn 2019. Mae fy rôl yn cynnwys gofalu am a grymuso fy nhîm fel y gallwn ddarparu cyngor arbenigol dibynadwy i Trafnidiaeth Cymru ar bob mater ariannol. Rwy'n gweithio ar daenlenni enfawr ac mae llawer o'r hyn da ni’n neud (yn dal i fod) yn seiliedig ar EXCEL ond rwyf hefyd yn treulio llawer o amser mewn cyfarfodydd ac yn siarad â phobl.

Does byth eiliad ddiflas yn fy rôl a does dim un diwrnod yn edrych fel y nesaf. Rwy’n mwynhau’n arbennig y dyddiau lle gall fy nhîm a minnau wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chefnogi Trafnidiaeth Cymru i gyflawni ein nod busnes, sef darparu system drafnidiaeth gwbl integredig ar gyfer pobl Cymru. Gallai hyn fod drwy strwythuro ein taliadau cytundebol fel y gallwn alinio ein gwariant cyfalaf (yr arian rydym yn ei wario ar bethau fel ein hadeiladau neu offer) â’r cyllid sydd ar gael i ni. Neu drwy roi mewnwelediad ariannol i Trafnidiaeth Cymru ar wahanol lwybrau ar y rhwydwaith fel y gellir gwneud penderfyniadau ar y ffordd orau o weithredu’r llwybr hwnnw ar lefel leol.

Mae’r pwysau ariannu ar Trafnidiaeth Cymru a’r diwydiant rheilffyrdd ehangach yn heriol iawn ond mae hyn yn ein gwthio i edrych yn gyson ar sut y gallwn wneud pethau’n well yn hytrach na’u derbyn fel y maent.

 

I ddarllen rhagor o blogiau, cliciwch ar newyddion.trc.cymru/blog/dathlu-menywod-stem-trc.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwaith sydd ar gael yn TrC, ewch i trc.cymru/ceiswyr-swyddi.