Skip to main content

Celebrating TfW’s STEM women - Fleet Support Engineer Chloe Thomas

09 Chw 2024

Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Merched a Genod mewn Gwyddoniaeth eleni, rydym yn clywed gan y Peiriannydd Cymorth Fflyd, Chloe Thomas, am ei rôl yn TrC.

Chloe Thomas-2

Dyfarnwyd Peiriannydd Rheilffyrdd y Flwyddyn i Chloe yng Ngwobrau RailStaff yn 2022. Fel y fenyw gyntaf yn brentis yn nepo Treganna TrC yng Nghaerdydd, cyngor Chloe i unrhyw fenywod eraill sy’n chwilio am yrfa mewn peirianneg yw torri’r stereoteip a pheidio â gadael i’ch rhyw ddal chi'n ôl o'r yrfa rydych chi'n ei dymuno. Dywed Chloe:

Pan oeddwn mewn addysg amser llawn, doeddwn i ddim yn siŵr beth fyddai llwybr fy ngyrfa. Roeddwn i'n gwybod fy mod i'n dda mewn gwyddoniaeth a mathemateg felly roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth lle gallwn i ddefnyddio fy sgiliau.

Roeddwn mewn addysg amser llawn cyn ymuno â TrC, yn ogystal â chael 2 swydd ran-amser. Roeddwn wedi cwblhau fy Lefel A ond penderfynais nad oeddwn am fynd i’r brifysgol, felly dewisais wneud cwrs mewn Peirianneg Awyrofod. Fe wnes i fwynhau ochr beirianyddol yn ofandwy ond doeddwn i ddim yn caru’r ochr awyrofod. Unwaith eto, roedd prifysgol yn opsiwn posibl, ond fe wnes i fwynhau ochr ymarferol yn fawr iawn felly edrychais ar lwybrau eraill.

Y cyfle perffaith

Nid oedd prentisiaeth yn rhywbeth yr oeddwn erioed wedi’i ystyried ond pan welais yr hysbyseb a’r disgrifiad swydd yn y papur newydd ar gyfer prentisiaeth ar y rheilffordd, roedd yn ymddangos fel y ffit perffaith. Cyflwynais fy nghais ac yn 2015 ymunais â TrC fel prentis cynnal a chadw fflyd.

Ar ôl cwblhau fy mhrentisiaeth, cefais rôl fel technegydd cynnal a chadw amser llawn, ac rwyf bellach wedi symud ymlaen i fod yn Beiriannydd Cefnogi Fflyd.

Pan ymunais i fel prentis, fi oedd y fenyw gyntaf a’r unig fenyw ar lawr y siop yn nepo Nhreganna. Yn gyffrous, mae gennym bellach fwy o fenywod sydd wedi ymuno fel technegwyr, arweinydd tîm a phrentis. Mae’n wych gweld mwy o fenywod yn gweithio ar y rheilffordd.

Ymgymryd â heriau a dod o hyd i atebion creadigol

Mae fy rôl o ddydd i ddydd yn amrywiol iawn. Mae gennyf rai cyfrifoldebau craidd, sy’n cynnwys ateb ymholiadau technegol a rheoli ein system rheoli cynnal a chadw, ond mae yna hefyd dasgau a heriau dyddiol yn dod i’m rhan yn ogystal â materion ac ymchwiliadau y mae’n rhaid eu cynnal.

Mae fy ngwaith yn cael ei wneud ar sail blaenoriaeth - felly os oes digwyddiad diogelwch, dyna fydd fy ffocws ar gyfer y diwrnod. Enghraifft o un o fy mhrosiectau presennol yw ysgrifennu gweithdrefn diogelwch trydanol newydd wrth i’n trenau newydd harneisio rhai folteddau/cerryntau pwerus iawn.

Rwy'n mwynhau'r amrywiaeth yn fy rôl yn fawr. Rwy'n mwynhau ymgymryd â heriau a dod o hyd i'r atebion creadigol sy'n aml yn gorfod mynd trwy dreialon neu gymeradwyaethau peirianneg.

Effaith gadarnhaol ar fy uchelgeisiau

Mae gweithio mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion wedi cael effaith gadarnhaol ar fy uchelgeisiau, gan fy mod yn credu ei fod wedi gwneud i mi weithio’n galetach ac ymdrechu’n uwch.

Byddwn hefyd yn annog unrhyw un i fynd am brentisiaeth. Roeddwn i’n meddwl bod yn rhaid i mi fynd i’r brifysgol, ond a dweud y gwir, yn ystod fy mhrentisiaeth enillais gymwysterau hyd at lefel HNC mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig, NVQ, ac ers hynny rwyf wedi cwblhau fy BSc mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig gyda chefnogaeth TrC.

 

I ddarllen rhagor o blogiau, cliciwch ar newyddion.trc.cymru/blog/dathlu-menywod-stem-trc.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwaith sydd ar gael yn TrC, ewch i trc.cymru/ceiswyr-swyddi.