26 Meh 2026
Yn Trafnidiaeth Cymru (TrC), rydym yn falch o gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog ac i greu cyfleoedd i gyn-filwyr sy'n trosglwyddo i yrfaoedd sifil.
Cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 27 Mehefin. Mae'n gyfle i ni gydnabod cyfraniad cymuned y Lluoedd Arfogy DU, gan gynnwys personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, cadetiaid a theuluoeddd milwro.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog ac i ddarparu llwybrau i gyn-filwyr sy'n trosglwyddo yn ôl i fywyd sifil. I ddangos ein cefnogaeth, rydym wedi bod yn goleuo ein pencadlys yn Llys Cadwyn yn lliwiau'r Lluoedd Arfog bob noson o'r wythnos. Fe wnaethom hefyd fynychu digwyddiad yn y Senedd lle gwnaethom ailddatgan ein hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog a chlywed anerchiadau gan bob un o'r Lluoedd Arfog a chan Aelodau Seneddol Cymru.
Un o'r nifer o gyn-filwyr sydd wedi trosglwyddo'n llwyddiannus i yrfa yn TrC yw'r Rheolwr Cymorth Busnes, Laura Powell.
Ers gadael y Lluoedd Arfog, mae Laura wedi cystadlu yng Ngemau Invictus a gwirfoddoli gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol cyn ymuno â TrC yn y pen draw. Gofynnon ni i Laura rannu ei phrofiad o fod yn y lluoedd arfog, a beth oedd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ei olygu iddi. Dyma beth oedd ganddi i'w ddweud:
Beth wnaeth i chi fod eisiau ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol?
Ymunais â'r fyddin ar ôl gwylio fy mrawd yn llwyddo yn y Fyddin Brydeinig. Ymrestrodd yn 2000, ac rwy'n cofio'n glir pa mor falch oedd fy rhieni o'i gyflawniadau.
Wedi'i ysbrydoli gan hyn, anogodd fy rhieni fi i archwilio fy llwybr fy hun ac, yn 15 oed, aethon i’r swyddfa gyrfaoedd yr Awyrlu Brenhinol yng Nghaerdydd.
Agorodd yr ymweliad hwnnw fy llygaid i gyfle cyffrous. Er fy mod i'n temilo'n nerfus, cymerodd fy nghyffro drosodd - yn enwedig pan, yn ddim ond 16 oed (3 blynedd ar ôl fy mrawd), cefais fy llythyr yn cadarnhau: "Ti fewn!"
O'r eiliad honno ymlaen, nid wyf erioed wedi edrych yn ôl. Fe wnes i adeiladu cyfeillgarwch cryf gyda phobl o bob cwr o'r wlad ac, wrth weithio'n galed, cefais lawer iawn o hwyl ar hyd y ffordd.
Pryd wnaethoch chi ymuno â'r Lluoedd Arfog a pha mor hir wnaethoch chi wasanaethu?
Ymunais â'r Llu Awyr Brenhinol yn 2003 yn 16 oed, gan hyfforddi mewn Gweithredau Hedfan lle gwithiais ar draws Rheoli Traffig Awyr, Rheoli Gofod Awyr, Gweithrediadau a chynllunio hedfan, ochr yn ochr ag amrywiaeth o rolau eraill. Dros yrfa 17 mlynedd, cwblheais 2 leoliad tramor a dal 7 swydd, gan gynnwys aseiniad 3 blynedd yng Nghyprus.
Yn 2020, cefais fy rhyddhau yn feddygol ar ôl diagnosis canser dro ar ôl tro. Yn funal ar ôl gadael y fyddin, cystadlais yng Nghemau Invictus yn yr Hag ac ers hynny, rwyf wedi mynd ymlaen i wirfoddoli fel Llysgennyd i'r Lleng Brydeinig Frenhinol, gan gefnogi cystadleuwyr y dyfodol.
Beth yw rhywbeth nad yw pobl yn ei wybod am fod yn y lluoedd arfog?
Mae'r fyddin yn llawer mwy nag un peth, ond yr hyn nad yw pobl yn aml yn sylweddoli yw pa mor amrywiol a gwerth chweil y gall fod, ymhell y tu hwnt i'r stereoteipiau. Mae'r gwaith ei hun yn ddiddorol. Roedd fy un i, yn arbennig, yn rhywbeth roeddwn i'n ei fwynhau'n fawr.
Y tu allan i'r gwaith, mae'r cyfleoedd yr un mor amrywiol. Mae yna chwaraeon a chlybiau di-ri i gymryd rhan ynddynt. Canolbwyntiais ar chwaraeon, gan gynrychioli fy ngorsaf, fy nghrefft, a'r Llu Awyr Brenhinol mewn pêl-droed, hoci, a ‘Tug of War’. Un uchafbwynt oedd cystadlu yng Nghyprus yn erbyn tîm menywod Llu Awyr yr Unol Daleithiau mewn cystadlaeth 'Tug of War' ar y traeth - roedd yn frwydr galed, ond yn y diwedd, daeth y Prydeinwyr ni i'r brig.
Ond yn anad dim, yr nad yw pobl bob amser yn ei weld yw'r bobl. Mae'r ymdeimlad o gyfeillgarwch heb ei ail. Rydych chi'n cael eich amgylchynu gan unigolion sy'n eich cefnogi, eich tywys a'ch herio. Byddant yn chwerthin gyda chi - ac yn aml arnoch chi - ond byddant bob amser yn sefyll wrth ei ochr. Mae'r profiad a'r ymddiriaeth a rennir hwnnw yn rhywbeth eithaf unigryw, a dyna sy'n gwneud y ffordd o fyw mor werthfawr.
Beth mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ei olygu i chi?
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i mi fyfyrio ar sawl peth. Mae'n gyfle i edrych yn ôl ar fy ngwasanaeth fy hun gyda balchder, tra hefyd yn cofio'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf a'r rhai sy'n dal i fyw gydag effaith eu gwasanaeth.
Mae hefyd yn amser i gydnabod a dathlu'r gwaith hanfodol y mae ein lluoedd arfog yn parhau i'w wneud heddiw. Fel cenedl, mae'n rhywbeth y dylem fod yn hynod falch ohono.
Mae ein lluoedd arfog wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn hanes Prydain, ac mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ymwneud ag anrhydeddu'r straeon hynny yn y gorffennol tra hefyd yn cydnabod y bob sy'n gwanaethu ar hyn o bryd a'r cyfraniadau maen nhw'n eu gwneud bob dydd.
I mi, mae'n ymwneud â balchder, cofio, a chydnabyddiaeth, y gorffennol a'r presennol.
Pa opsiynau gyrfa a chefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr sydd eisiau trosglwyddio i yrfaoedd gyda TrC?
Roeddwn i'n hynod ffodus i dderbyn cefnogaeth gref wrth ymgeisio am fy rôl yn TrC. I ddechrau, cefais fy nghefnogi gan gwmni recriwtio milwrol a weithiodd yn agos gyda TrC, yn ogystal â chyn-filwyr sydd eisoes wedi'u cyflogi yno. Trwy'r cysylltiadau hynny, cefais fy nghyflwyno i'r rôl hon yn y pen draw a'm sicrhau.
Diolch i gefnogaeth TrC, llwyddais i drosglwyddo i'r sefydliad, gyda chefnogaeth cyd-gyn-filwyr o fewn TrC sydd wedi bod yn allweddol wrth agor cyfleoedd pellach i eraill sy'n gadael y gwasanaethau.
Mae TrC yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa i gyn-filwyr sy'n pontio o wasanaeth milwrol. Mae'r sefydliad yn rhychwantu sawl disgyblaeth - gan gynnwys Gweithrediadau, Seilwait, Peirianneg, Rheoli Prosiectau a Chymorth Busnes. Ystyr mae yna rolau sy'n cyd-fynd yn dda â'r sgiliau a'r profiadau amrywiol a gafwyd yn y Lluoedd Arfog.
Yn ogystal â chyfleoedd gyrfa, mae cefnogaeth gref ar gael i gyn-filwyr sy'n gwneud y pontio. Mae TrC yn gweithio'n agos gyda sefydliadau recriwtio milwrol ac mae ganddo rwydwaith presennol o gyn-filwyr ac eiriolwyr o fewn y busnes sy'n cefnogi eraill i sicrhau a setlo mewn rolau.
I gyn-filwyr, mae TrC yn cynnig nid yn unig swydd, ond llwybr cefnogol i yrfa sifil ystyrlon a chynaliadwy. Roedd symud i TrC yn anhygoel, cefnogol a phleserus ac rwyf am ddiolch i bawb a wnaeth hynny'n bosibl.