Skip to main content

Get to February half term activities with Transport for Wales

17 Chw 2026

Angen ysbrydoliaeth ar sut i ddiddanu’ch plant yr hanner tymor hwn? O Furiau Rhufeinig Castell Caerdydd i weithdai yng Nghaer wedi'u hysbrydoli gan Aardman, cynlluniwch eich diwrnodau allan gyda ni.

Caerdydd

Castell Caerdydd

Oeddech chi'n gwybod y gall pobl dan 16 oed gael Allwedd y Castell ar gyfer Castell Caerdydd am ddim?

Mae Allwedd y Castell yn caniatáu i drigolion lleol Caerdydd fwynhau Castell Caerdydd am ddim, am 3 blynedd. Archwiliwch y Muriau Rhufeinig, y Gorthwr Normanaidd a'r Llochesi Rhyfel wrth i chi gamu'n ôl mewn amser i gyfnodau gwahanol. Os yw'r tywydd ar eich ochr chi, mae'r gerddi cyfagos yn lle gwych ar gyfer picnic.

Cardiff-castle-2

Teithiau BBC

Teithio i Gaerdydd ar y trên? Cewch ostyngiad o 15% ar Deithiau Stiwdios y BBC gyda'ch tocyn trên.

Ychydig funudau o orsaf Caerdydd Canolog, ewch y tu ôl i'r llenni ar deithiau arobryn y BBC. Darganfyddwch sut mae eich hoff raglenni’n cael eu gwneud, archwiliwch dechnoleg arloesol a gallwch hyd yn oed roi cynnig ar gyflwyno'r newyddion neu'r tywydd. Darganfyddwch sut i fachu’r gostyngiad yma.

BBC Studios-2

Techniquest

Gyda dros 100 o arddangosfeydd ymarferol a hwyliog i bobl o bob oed eu harchwilio, yn Techniquest fe all pawb ddod â gwyddoniaeth yn fyw. Ewch i wylio un o'r sioeau

gwyddoniaeth byw neu mwynhewch weithdy Labordy sy’n cynnig gweithgareddau rhyngweithiol i ddiddanu'r teulu cyfan.

Ewch i'r siop anrhegion am i brynu cofroddion â thema wyddoniaeth i bobl o bob oed a mwynhewch ostyngiad o 25% pan fyddwch chi'n dangos eich tocyn trên TrC wrth y ddesg dalu.

Techniquest - TfW header-2

Aberhonddu

Theatr Brycheiniog

Yn edrych dros y gamlas mae Theatr Brycheiniog. Mae hon yn cynnig amrywiaeth o sioeau a digwyddiadau i'r gymuned leol a gall teuluoedd weld sioeau fel y sioe syrcas-gomedi ‘Out of the Box’ ddydd Gwener 20 Chwefror. Ewch i'r caffi wedyn am fyrbryd llwyr haeddiannol a mwynhewch olygfeydd heddychlon o'r gamlas.

Theatr Brycheiniog-2

Y Gaer

Mae'n rhaid ymweld â thrysor cudd Y Gaer yn ystod yr hanner tymor eleni. Mae'n fach ond yn llawn arddangosfeydd, archwiliwch y llys Fictoraidd, gwisgwch wisg draddodiadol Gymreig ac ewch i ystafelloedd yr hen ysgol. Crwydrwch o amgylch yr oriel gelf yna ewch i lawr y grisiau i'r llyfrgell lle gallwch archwilio'r amrywiaeth o lyfrau ac ymweld â'r caffi.

Canolfan Ymwelwyr Garwnant

Wedi'i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant yn cynnig diwrnod allan gwych dros hanner tymor. Darganfyddwch lwybrau cerdded, canolfan chwarae, gweithgareddau peintio crochenwaith a mwy. Galwch heibio i'r siop anrhegion a'r caffi ar y safle am damaid blasus i’w fwyta.

Abertawe

Plantasia

Mae Sŵ Trofannol Plantasia yn sŵ fforest law go iawn yng nghanol Abertawe. Gan gynnig yr unig brofiad bwydo crocodeiliaid yng Nghymru, mae hon yn ffordd wych o dreulio diwrnod glawog yn ystod hanner tymor.

Plantasia Meerkat-2

Amgueddfa Abertawe

Ymwelwch ag amgueddfa hynaf Cymru yn ystod hanner tymor. Mae Amgueddfa Abertawe ond 3 munud ar droed o'r safle bws agosaf ac mae ganddi arddangosfeydd sy'n cwmpasu canrifoedd o hanes, o fwmï Eifftaidd i gegin Gymreig.

Llyfrgell Abertawe

Mae taith i'r llyfrgell leol yn ffordd wych o dreulio diwrnod yr hanner tymor hwn. Ewch i'r clwb LEGO, y clwb stori a chrefft neu porwch yr amrywiaeth o lyfrau a dewiswch un gyda'ch gilydd i’w ddarllen gyda’ch plentyn dros hanner tymor.

Wrecsam

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore

Mae Xplore yn berffaith ar gyfer diwrnod glawog. Mae'r amgueddfa wyddoniaeth hon yn llawn dros 85 o weithgareddau rhyngweithiol i'w mwynhau, o losgfynyddoedd a deinosoriaid i sioe wyddoniaeth fyw. Am antur awyr agored, ewch i'w sesiwn Aros a Chwarae y gwanwyn, ddydd Sadwrn 21 Chwefror.

Xplore Wrexham-2

Llyfrgell Wrecsam

Am weithgareddau hamddenol sy’n addas i’r teulu, ewch i Lyfrgell Wrecsam. Ewch i’w sesiwn grefftau Dydd San Ffolant, sesiwn gemau bwrdd i’r teulu cyfan, Amser Rhigwm a mwy.

Caer

Storyhouse

Yn Storyhouse yng Nghaer, mae gennych chi ddigonedd o ddewis o hwyl dros hanner tymor. Mae Sioe Lindysyn Llwglyd Iawn ar 21 a 22 Chwefror, gan ddod â'r llyfr plant clasurol yn fyw. Mae digwyddiadau am ddim yn cynnwys gweithgareddau crefft dros y penwythnos ac amgueddfa dros dro o Amgueddfa Grosvenor a'r Eglwys Gadeiriol.

Cadeirlan Caer

Ewch i Gadeirlan Caer am Weithdy Gwneud Modelau Lleuad a gynlluniwyd gan arbenigwr gwneud modelau Aardman. Ewch i’r orsaf glai â thema’r Lleuad a lluniwch eich cymeriad plastisin eich hun, wedi’i ysbrydoli gan anturiaethau Wallace a Gromit. Mae hwn yn weithgaredd gwych i’r teulu cyfan ac yn rhoi cofrodd hanner tymor i chi fynd adref ag ef.

Cynlluniwch eich taith i weithgareddau hanner tymor yma: https://trc.cymru/