Skip to main content

Places to explore on our Network for World Public Transport Day.

17 Ebr 2026

Mae llawer o bethau yn dod yn fyw yn y gwanwyn, y bywyd gwyllt a'n hymdeimlad o antur. Ar 17eg o Ebrill mae hi'n Ddiwrnod Cludiant Cyhoeddus y Byd, diwrnod sy'n dathlu ffyrdd mwy gwyrdd a symlach o deithio.

P'un a ydych chi'n hoff iawn o arfordiroedd, cestyll a gerddi lliwgar, gall ein rhwydwaith eich cysylltu â lleoedd i godi'r galon i fwynhau'r tymor.

Isod mae pum cyrchfan hawdd cyrraedd ar y trên gyda ni.

Amwythig

Daw'r adeiladau yn yr Amwythig sydd â ffrâm bren, y lonydd cerrig crynion a chorneli llawn blodau yn fyw yn y gwanwyn.

Ymlwybrwch drwy The Quarry, parc glan yr afon y dref a Gardd 'Dingle'  fydd yn llawn o liwiau'r adeg hon o'r flwyddyn. Beth am weld Amwythig o'r dŵr drwy deithio ar Gwch Sabrina mordaith ar hyd Afon Hafren – perffaith ar gyfer diwrnod o wanwyn.

IMG 2039-3

Os hoffech chi wybod mwy am hanes yr ardal, galwch i mewn i Amgueddfa ac Oriel Gelf Amwythig  - munudau yn unig o'r orsaf. O ymweld ag Eglwys y Santes Fair gallwch weld gwydr lliw canoloesol hardd eithriadol. Os hoffech chi wneud rhywbeth ychydig yn wahanol, mae Carchar Amwythig  yn cynnig teithiau tywys a phrofiad ymgysylltiol o fewn ei waliau hanesyddol. Mae ein trenau yn rhedeg i’r Amwythig o Gaerdydd, Casnewydd, Henffordd, Wrecsam a mwy.

Mwy o bethau i'w wneud yn Amwythig | TrC 

Henffordd

Mae’n hawdd ymlwybro o amgylch dinas Henffordd ac mae’n wyrdd iawn ac yn gyrchfan ddelfrydol i ymweld â hi yn y gwanwyn. Mae taith gerdded (neu ar feic) ar hyd Afon Gwy yn hanfodol, gyda phlanhigion gwyrdd trawiadol ar hyd lan yr afon a digon o fannau tawel i fwynhau'r heulwen. Mae Eglwys Gadeiriol Henffordd  yn gartref i'r enwog Mappa Mundi, map canoloesol o'r byd sy'n ennyn y gorffennol.

Mae Henffordd yn gyfeillgar ac yn groesawgar, gyda chaffis a siopau annibynnol – sy'n berffaith i'w harchwilio ar ôl ymlwybro ar hyd lan yr afon. Mae ein trenau yn teithio i Henffordd o Gaerdydd, Casnewydd a Y Fenni, Amwythig a mwy.

Mwy o bethau i'w gwneud yn Henffordd | TrC

Llandudno

Mae Llandudno yn gyrchfan delfrydol i'w harchwilio ar ddiwrnod braf o wanwyn. Mae'r promenâd Fictoraidd hir yn berffaith ar gyfer taith gerdded llawn egni. Mae'r Gogarth, sy'n frith o flodau gwyllt yn y gwanwyn, yn gormesu dros y dref ac yn llwyfan gwylio naturiol.

Llandudno morning-10-2

Eisiau dringo'r Gogarth ar hyd llwybr haws? Mae'r tram yno yn un o'r ychydig dramffyrdd stryd cebl yn y byd ac mae'n dechrau ar ei daith o'r gwanwyn ymlaen. Mae'n ffordd hyfryd o gyrraedd y copa a mwynhau golygfeydd ysgubol.

Mae ein trenau yn teithio i Landudno  o Gonwy, Shotton, Caer a mwy.

Mwy o bethau i'w gwneud yn Llandudno | TrC

Caerdydd

Mae'r gwanwyn yn trawsnewid Caerdydd yn ddinas o liw ac mae digonedd o fannau gwyrdd hardd i chi eu mwynhau. Mae Parc Bute, sydd y tu ôl i Gastell Caerdydd, yn dod yn dod yn fyw o flodau gyda llwybrau ar hyd glan yr afon sy'n teimlo'n bell i ffwrdd o fwrlwm y ddinas.

Mae Parc y Rhath yn ffefryn arall sy'n cael ei fwynhau yn ystod y gwanwyn. Mae yno lyn, ystafell wydr Fictoraidd a lawntiau llydan; y lle perffaith ar gyfer prynhawn hamddenol. Os bydd y tywydd yn newid, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gallwch fwynhau celf, hanes naturiol a digon o ysbrydoliaeth dan do.

Roath park 2

© Crown Copyright

Mae ein trenau yn rhedeg i Gaerdydd Canolog  o orsaf Heol y Frenhines Caerdydd , Pen-y-bont ar Ogwr , Abertawe  a mwy.

Mwy o bethau i'w gwneud yng Nghaerdydd | TrC 

Criccieth

Ychydig iawn o leoedd sy'n teimlo mor hudolus yn y gwanwyn â'r Lein ar hyd Arfordir y Cambrian, ac mae Criccieth yn un o'r mannau disgleiriaf. Mae'r trên yn teithio ar hyd y draethlin, gan gynnig golygfeydd o ddŵr pefriog a gwrychoedd llawn blodau cyn cyrraedd y dref glan môr odidog hon.

Mae Castell Criccieth yn gogoneddu ar y pentir. O ddringo ato, bydd golygfeydd panoramig rhagorol o'r arfordir a'r mynyddoedd yn eich disgwyl. Mae'r gwanwyn hefyd yn amser perffaith ar gyfer taith gerdded hamddenol tuag at Dywod y Graig Ddu neu gallwch alw yn Cadwaladers  am hufen iâ a mwynhau golygfa o'r môr ar yr un pryd.

Criccieth Castle

Mae ein trenau yn rhedeg i Griccieth  o Bwllheli, Porthmadog, Abermaw, Machynlleth  a mwy.

Mwy o bethau i'w gwneud yng Nghriccieth | TrC

Cynlluniwch antur y gwanwyn hwn

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd syml o deithio sydd hefyd yn well i'r blaned. Mae'n lleihau tagfeydd mewn mannau prydferth, yn gostwng allyriadau ac yn gwneud y daith yn rhan o'r profiad yn hytrach na rhuthro i gyrraedd eich cyrchfan.

P'un a ydych chi'n dilyn yr arfordir, yn croesi'r ffin neu'n archwilio parc mewn dinas, ar y trên, gallwch ymlacio a mwynhau'r golygfeydd.

Cynlluniwch eich taith a phrynwch docynnau trên nawr yn trc.cymru.