Skip to main content

Introducing our new trains: frequently asked questions

03 Meh 2024

Bellach, mae dros 60 o'n trenau newydd sbon ar waith ar ein rhwydwaith – dros 40% o'r cyfanswm terfynol. Caiff mwy a mwy o'n gwasanaethau eu gweithredu gan drenau newydd, a bydd hyn yn parhau i gynyddu yn ystod y flwyddyn.

Cawsom sgwrs â Colin Lea, ein Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad, i ddarganfod beth rydyn ni'n ei wneud i ymateb i rai o'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu, ac i ateb rhai cwestiynau cyffredin ein cwsmeriaid.

Fe wnaethoch chi addo y byddai trenau newydd ar waith erbyn hyn – ble maen nhw?

Mae hyn yn gywir.  Nôl yn 2018, pan drosglwyddwyd gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau i Trafnidiaeth Cymru, y cynllun gwreiddiol oedd y byddai llawer mwy o'r trenau newydd ar waith erbyn hyn. Effeithiodd sawl ffactor ar hyn gan yn ei dro, effeithio ar gadwyni cyflenwi ein cyflenwyr a’n gweithgynhyrchwyr, CAF a Stadler, sy'n adeiladu'r trenau newydd.  Ymysg y ffactorau oedd pandemig Covi 19, Brexit a'r rhyfel yn yr Wcrain.

Mae'r ffactorau hyn hefyd wedi effeithio ar uwchraddio'r seilwaith – gan gynnwys trydaneiddio, gosod trac newydd, ac adeiladu'r depo newydd yn Ffynnon Taf – sy'n angenrheidiol er mwyn gallu rhoi ein trenau trydan ar waith.

Beth yw'r amserlenni ar gyfer cyflwyno trenau newydd ar fy lein i?

Mae gennym ddwy rwydwaith - Cymru a'r Gororau a Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd, a bydd gan bob un ei fflyd benodol ei hun o drenau.

Mae dros hanner ein fflyd arfaethedig o 77 o drenau Dosbarth 197 ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau bellach wedi dechrau gwasanaethu. Rydym wedi eu cyflwyno ar draws y rhan fwyaf o'r rhwydwaith hwn, gan ddechrau ar lwybrau yng Ngogledd Cymru a bellach yn ymestyn i Orllewin Cymru, y Gororau, i Faesteg ac, yn fwy diweddar, Glynebwy. Y llwybr nesaf fydd y trenau newydd hyn yn eu gwasanaethu fydd Lein Doc Penfro ym mis Mehefin.

Y gwasanaethau olaf i weld y trenau Dosbarth 197 newydd sbon yn gwasanaethu arnynt fydd lein y Cambrian sy'n teithio rhwng Birmingham International a Chaergybi, Pwllheli ac Aberystwyth. Y rheswm mai'r gwasanaethau hyn fydd y rhai olaf i gael eu trosglwyddo yw gan fod ganddynt system signalau unigryw ETCS yn y caban a ddefnyddir ar y lein. Mae'r system hon yn gofyn am fflyd benodol o drenau Dosbarth 197 ETCS ar gyfer y gwasanaethau hyn, trenau fydd yn cael eu cynnal yn nepo Machynlleth. Mae CAF wrthi’n adeiladu ac yn profi’r trenau hyn ar hyn o bryd.

O ran Llinellau Craidd y Cymoedd, rydym ar hyn o bryd yn cynnal profion ar ein trenau Dosbarth 756 tri-dull. Unwaith y bydd y cyfnod pontio wedi'i gwblhau, bydd y rhain yn rhedeg yn barhaol ar y gwasanaethau i Rymni, Coryton, Penarth, Ynys y Barri, a Phen-y-bont ar Ogwr trwy Rhws a Llanilltud Fawr. Fodd bynnag, gyda gwaith parhaus i gwblhau gwaith trydaneiddio ar Lein Rhymni, caiff rhai o'r gwasanaethau hynny eu gwasanaethu ar hyn o bryd gan drenau disel Dosbarth 231.  O ran pryd a gwedd, maen nhw'n union yr un fath â'r trenau Dosbarth 756. Mae cwsmeriaid ar lein Rhymni wedi cael budd yn llawer cynt o'r trenau newydd hyn.  Mae'r capasiti a'r hygyrchedd wedi gwella.

Tra bydd y gwaith trawsnewid yn cael ei gwblhau, byddwn yn dechrau defnyddio ein trenau Dosbarth 756 dros dro ar Linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr yn ddiweddarach eleni, unwaith y bydd y profion a'r gwaith o hyfforddi staff wedi'i gwblhau. Drwy wneud hyn, byddwn yn gallu tynnu rhai o'n trenau hyn o wasanaeth heb effeithio'n ormodol ar wasanaethau, a rhoi budd teithio ar drenau newydd i'n cwsmeriaid, fel sydd wedi digwydd ar Lein Rhymni.

Bydd trenau tram Dosbarth 398, y bwriedir iddynt fod yn drenau parhaol newydd ar gyfer Llinellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr, yn dechrau gwasanaethu ar y llwybrau hyn y flwyddyn nesaf. Unwaith y bydd digon o'r trenau tram hyn ar gael, bydd y trenau Dosbarth 756 yn trosglwyddo i Lein Rhymni, a bydd y trenau Dosbarth 231 yn trosglwyddo i Linellau Glynebwy, Maesteg a Cheltenham.  Bydd dyfodiad trenau tram Dosbarth 398 hefyd yn ein galluogi i gynnig gwasanaethau cyflymach, amlach, gan gynyddu i bedwar trên yr awr rhwng Caerdydd a blaenau'r cymoedd.

Mae trenau newydd wedi'u parcio o amgylch y rhwydwaith. Pam ei bod yn cymryd cymaint o amser i roi'r gwasanaethau hyn ar waith?

Cyn dechrau gwasanaethu, mae'n rhaid i ni gynnal rhaglen brofi helaeth i sicrhau y gallan nhw wasanaethu yn ddibynadwy ar y rhwydwaith. Ar rwydwaith Linellau Craidd y Cymoedd, mae hyn yn arbennig o gymhleth gan ein bod hefyd yn cyflwyno seilwaith newydd fel gwifrau uwchben. Mae profion sylfaenol eisoes wedi cael eu cynnal ar ein holl fflydoedd newydd, ond mae llawer mwy o waith i'w wneud cyn y gallant ddechrau gwasanaethu. Gan mai ond gyda nifer fach o drenau y mae hyn yn bosibl ar unrhyw adeg, mae'n rhaid i eraill gael eu storio mewn gwahanol fannau ar hyd y rhwydwaith.

Unwaith y cwblheir y profion, mae'n rhaid i ni hyfforddi ein gyrwyr a'n rheolwyr trenau i'w gweithredu hefyd. Mae pob trên yn wahanol, felly mae'n rhaid hyfforddi gyrwyr a rheolwyr ar bob math o drên y maen nhw'n ei weithredu. Mae hyfforddi gyrrwr ar fath newydd o drên yn cymryd tua phum diwrnod, gan gynnwys wyth awr o amser gyrru gyda hyfforddwr. Gyda channoedd o yrwyr a rheolwyr trenau ledled ein rhwydwaith, mae hyn wedi golygu bod y broses hyfforddi wedi cymryd nifer o flynyddoedd. Fe ddechreuodd yn 2022 gyda dyfodiad y trenau Dosbarth 197 cyntaf, ac ni chaiff ei chwblhau nes bod yr olaf o'r trenau newydd ar waith.

Bydd y trenau dosbarth 231 newydd yn rhoi'r gorau i wasanaethu ar Lein Penarth - beth yw'r rheswm dros hyn?

Fel rhan o newid amserlen mis Mehefin, roedd rhaid i ni newid strwythur amserlen Llinellau Craidd y Cymoedd. Yn yr amserlen flaenorol, roedd gwasanaethau dwyffordd o Benarth yn gyffredinol yn rhedeg fel rhan o wasanaethau Rhymni. Yn gynnar yn 2023, fe wnaethon ni ddechrau defnyddio trenau Dosbarth 231 newydd ar y lein hon, gan ddisodli'r trenau Dosbarth 769 blaenorol.

Fodd bynnag, fel rhan o'r newidiadau i'r amserlen, bydd gwasanaethau Rhymni nawr yn rhedeg ymlaen i Ynys y Barri neu Ben-y-bont ar Ogwr drwy Rhws a Llanilltud Fawr. Bydd y trenau dosbarth 231 yn gwasanaethu ddwyffordd o Ynys y Barri. Mae gwasanaethau Penarth nawr yn teithio trwy Coryton a Chaerffili, a chant eu gweithredu dros dro gan drenau ‘Sprinter’ hŷn.

Unwaith y bydd y gwaith trawsnewid ar Reilffordd Rhymni wedi'i gwblhau, bydd gwasanaethau Penarth yn cael eu trosglwyddo i drenau Dosbarth 756 newydd sbon – y gobaith yw y bydd hyn yn digwydd yn 2025.

Er eich bod wedi cyflwyno trenau newydd, mae rhai o'r trenau ar y gwasanaethau hyn yn parhau i fod yn orlawn. Pam na wnaethoch chi archebu mwy ohonyn nhw?

Er ein bod wedi rhoi dros 60 o drenau newydd sbon ar waith ar ein fflyd, ynghyd â 7 o drenau set rhyng-ddinas Mark 4 wedi'u hadnewyddu ar Reilffordd y Gororau a phum trên Dosbarth 230 wedi'u hailadeiladu ar Reilffordd y Gororau, dim ond hanner ffordd drwy gyflwyno'r set lawn o 148 o drenau newydd ydyn ni.

Bydd y rhan fwyaf o'r trenau sydd eto i'w cyflwyno ar Linellau Craidd y Cymoedd, a fydd yn ein galluogi i drawsnewid gwasanaethau rhwng Caerdydd a'r cymoedd trwy ddarparu gwasanaethau amlach a chynyddu capasiti'n sylweddol.

Mae gennym hefyd fwy o drenau Dosbarth 197 i'w cyflwyno i wasanaethau Cymru a'r Gororau. Bydd hyn yn ein galluogi i gynyddu gwasanaethau De Cymru - Manceinion i bum cerbyd ar bob trên yn y flwyddyn nesaf, gan ddarparu cynnydd sylweddol mewn capasiti ar lwybr lle mae'r rhan fwyaf o'r trenau wedi bod a naill ai dau neu dri cherbyd a hynny ers blynyddoedd lawer.

Mae 148 o drenau newydd yn fuddsoddiad mawr o £800 miliwn gan Trafnidiaeth Cymru i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd ar draws rhwydwaith cyfan Cymru a'r Gororau. Rydym wedi defnyddio model i ragweld nifer teithwyr ac mae maint y fflyd yn addas iawn er mwyn cyd-fynd â'r niferoedd hyn yn y dyfodol.

Bydd ein fflyd o 173 o drenau yn y pen draw yn rhoi i ni gapasiti absoliwt o ran nifer y trenau y gallwn eu gweithredu ar y rhwydwaith yn ei ffurf bresennol - po fwyaf o drenau sydd gennym, y mwyaf o le sydd gennym i'w 'cadw' dros nos, a'r mwyaf heriol yw cynnal y fflyd gyfan yn ein depos. Byddai mwy eto o drenau nid yn unig yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol o ran eu prynu, ond byddai hefyd angen buddsoddiad sylweddol o ran adeiladu cyfleusterau newydd i'w rheoli ac i adeiladu trac i'w 'cadw'.  Byddai hyn yn golygu cyflogi mwy o staff i'w cynnal a'u cadw, ac ehangu gorsafoedd i allu rhedeg trenau hirach yn ddiogel.

Math o drên Rhwydwaith Nawr Yn y dyfodol
Mark 4 *WCB 7 7
150 CVL/WCB 34 0
153 CVL/WCB 26 13
158 WCB 24 0
197 WCB 51 77
230 WCB 5 5
231 CVL/WCB 11 11
398 **CVL 0 36
756 CVL 0 24

*

WCB – (Cymru a’r Gororau | Wales & Cross Borders)

**

CVL – (Llinellau Craidd y Cymoedd | Core Valley Lines)

Beth sy'n digwydd i'r hen drenau sy’n rhoi’r gorau i wasanaethu ar y rhwydwaith? Pam na allwch chi ddefnyddio'r trenau hyn hefyd?

Rydym eisoes wedi tynnu llawer o'n fflyd “etifedd” oddi ar ein cledrau – y trenau a etifeddwyd gennym pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb am wasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn 2018 i ni. Mae hyn yn cynnwys yr holl drenau ‘Pacer’ a threnau pellter hir Dosbarth 175. Gan nad yw'r rhan fwyaf o'r trenau yn eiddo i ni, gwnaethom ddychwelyd y trenau hyn i'w perchnogion unwaith nad oedd eu hangen arnom mwyach, ac maent naill ai wedi cael eu sgrapio, wedi caul eu storio neu wedi cael eu perchenogi gan grwpiau treftadaeth rheilffyrdd.

Y trenau sy’n weddill yn ein fflyd etifedd yw’r trenau Sprint Dosbarth 150 a 153 a threnau pellter hir Dosbarth 158. Rydym bellach wedi dechrau'r broses o dynnu'r trenau Dosbarth 150 oddi ar ein cledrau ac o hyn ymlaen,  byddan nhw'n diflannu o'n rhwydwaith ar gyfradd o tua un bob dau fis. Mae'r trenau hyn yn 40 oed ac maen nhw wedi cyrraedd diwedd eu hoes gwaith. Er eu bod yn ddiogel i'w gweithredu a'u rhedeg ac yn bodloni safonau'r diwydiant, mae'r gost o'u cynnal a'u cadw yn uwch a chyda threnau newydd ar y gorwel, ni fyddai'n ffordd fuddiol o ddefnyddio arian cyhoeddus i gynnal gwaith adeiladu costus arnynt unwaith yn rhagor. O ganlyniad, byddwn yn eu tynnu oddi ar y cledrau o dipyn i beth wrth iddynt gyrraedd cerrig milltir cynnal a chadw allweddol. Bydd yr olaf o'r trenau hyn yn cael eu tynnu oddi ar y cledrau pan fydd yr olaf o'r trenau newydd ar Linellau Craidd y Cymoedd wedi cyrraedd. Disgwylir y bydd y rhan fwyaf o'r trenau hyn yn cael eu sgrapio.

Byddwn yn cadw rhai o'r trenau Dosbarth 153 yn yr hirdymor ar gyfer Llinell Calon Cymru. Mae chwech o'r cerbydau hyn yn cael eu trosi i gludo nifer cynyddol o feiciau er mwyn ateb y galw am fwy o leoedd ar y llwybr gwledig godidog hwn. Bydd y rhain yn rhedeg yn lled-barhaol ynghyd â cherbyd safonol i ddarparu gwasanaeth dau gerbyd ar holl wasanaethau Calon Cymru.

Bydd y trên Dosbarth 158 yn parhau i weithredu ar wasanaethau Birmingham - Caergybi/Pwllheli/Aberystwyth hyd nes y cyflwynir y trenau Dosbarth 197 ar y gwasanaethau hynny.  Wedi hynny, byddwn yn eu dychwelyd i'w perchenogion.

Llwytho i Lawr