18 Tach 2025
Os ydych chi'n awyddus i gofleidio ysbryd yr ŵyl, gall fflecsi eich helpu i wneud hynny. O Abergwaun i Ruthun, mae digon o ddigwyddiadau y gallwch eu cyrraedd gyda fflecsi.
Troi'r Goleuadau Nadolig Ymlaen yn Abergwaun | Dydd Sadwrn 22 Tachwedd
Dathlwch y Nadolig drwy fwynhau Troi'r Goleuadau Nadolig Ymlaen yn Abergwaun. Mae'r digwyddiad yn cynnwys marchnad yn neuadd y dref gyda llawer o elusennau, Groto Siôn Corn yn y llyfrgell, adloniant cerddorol a mwy. Os mae siopa Nadolig sy’n mynd a’ch bryd, mae amrywiaeth o siopau annibynnol lleol i'w harchwilio.
Troi'r Goleuadau Nadolig Ymlaen yng Nglynebwy | Dydd Gwener 28 Tachwedd
Hwyl Nadoligaidd i'r teulu yng Nglynebwy. Beth am ymweld â Glynebwy i weld y Goleuadau Nadolig yn cael eu Troi Ymlaen a hefyd i fwynhau adloniant cerddorol gan Radio Cymunedol Blaenau Gwent, ymweliad gan Siôn Corn, a ffair hwyl.
Ecstrafagansa Nadoligaidd Rhuthun | Dydd Sadwrn 29 Tachwedd
Beth am ymweld â marchnad gwneuthuriadau â llaw fwyaf y DU yn Rhuthun. Wedi'i wasgaru ar draws 6 safle hanesyddol, mae dros 150 o stondinau i'w harchwilio. O gelf a chrefft wedi'u gwneud â llaw i fwyd a diod blasus, dyma'r lle perffaith i siopa'n lleol a darganfod trysorau Nadoligaidd.
Marchnad Crefftau Nadolig Tŷ Ddewi, Sir Benfro | Dydd Sadwrn 29 Tachwedd
Beth am groesawu hud Nadoligaidd ail ddinas leiaf y DU, Tŷ Ddewi. P'un a ydych chi am brynu anrheg i chi'ch hun neu i rywun arall, ewch i Farchnad Grefftau Nadolig Tŷ Ddewi yn Oriel y Parc. Yna, fe gewch fwynhau amrywiaeth o stondinau crefft a bwyd lleol. Mwynhewch y gerddoriaeth fyw a tamaid i'w fwyta o'r caffi a’r awyrgylch Nadoligaidd.
Marchnad Nadolig Llanrwst | Dydd Sadwrn 29 Tachwedd
Cynhelir y Farchnad Nadolig gan Gyngor Tref Llanrwst yn Sgwâr Ancaster. Galwch heibio i fwynhau amrywiaeth o stondinau Nadoligaidd ac i gefnogi busnesau lleol.
Gŵyl Nadolig Abersoch | 5 Rhagfyr – 7 Rhagfyr
Dros gyfnod o 3 diwrnod, mae Gŵyl Nadolig Abersoch yn addo penwythnos hudolus o ddathliadau'r Nadolig. Roedd digwyddiad y llynedd yn cynnwys ffair Nadolig, gwneud llusernau, cerddoriaeth fyw, Groto Siôn Corn, a llawer mwy.
Os hoffech archebu gwasanaeth fflecsi i'ch cludo i ddigwyddiadau'r Ŵyl, porwch y gwahanol leoliadau a lawrlwythwch yr ap i'w archebu: https://trc.cymru/fflecsi/lleoliadau