17 Awst 2023
⚠️ Cau ffyrdd oherwydd gwaith hanfodol – Y gyffordd ger Ffordd Ystrad / Ffordd Tyisaf, Pentref y Gelli.
🗓️ 19 Awst – 21 Awst
Bydd gwaith nwy hanfodol yn cael ei wneud yn ardal y gyffordd ger Ffordd Ystrad/Ffordd Tyisaf a bydd yn cael rhywfaint o effaith yn y byr dymor ar ddefnyddwyr ffyrdd yn yr ardal leol. Bydd y gwaith yn digwydd yn ystod oriau dydd rhwng dydd Sadwrn 19 Awst a dydd Llun 21 Awst.
Er mwyn i'r gwaith hwn gael ei wneud yn ddiogel, bydd angen:
- gosod rheolfeydd traffig ar Ffordd Ystrad (A4058). Bydd hyn yn golygu y bydd y traffig ar ran fer o'r lôn gerbydau i gyfeiriad y gorllewin ar gyffordd Ffordd Tyisaf yn cael ei reoli gan fyrddau oedi / mynd yn ystod y dydd a goleuadau traffig dros nos
- cau'r gyffordd ger Ffordd Tyisaf a dargyfeirio defnyddwyr y ffordd. Bydd arwyddion ar waith ar gyfer hyn, a fydd yn dargyfeirio traffig ar hyd Ffordd y Gelli a Heol yr Eglwys (B4223)
Mae'r llun isod yn dangos lle byddwn yn cynnal y gwaith. Gan y bydd angen gwneud gwaith cloddio dwfn, ni fydd modd i unrhyw gerbyd fynd dros yr ardal waith. Felly, bydd yn rhaid i gerbydau gwasanaethau brys hefyd ddilyn y dargyfeiriadau fydd ar waith.
Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd yn rhaid i ni wneud diwygiadau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal yn ystod y dyddiau a nodir uchod. Gwasanaeth bws 130 Stagecoach fydd yn gwasanaethu'r Gelli a Thon Pentre ar hyd Ffordd Nantwyddion a gwasanaeth 120 Stagecoach fydd yn gwasanaethu Llwynypia ac Ystrad.
Bydd y llwybrau troed yn parhau i fod ar agor yn ystod y cyfnod hwn. I gael mynediad rhwng Ffordd Tyisaf a Ffordd Ystrad, dylai beicwyr ddod oddi ar eu beic a defnyddio’r llwybr gyferbyn neu ddilyn y dargyfeiriad.
Diolch i chi ymlaen llaw am eich amynedd a'ch dealltwriaeth ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi i chi.