04 Tach 2021
Ers i ni lansio fflecsi ym mis Mehefin 2020, gwnaed dros 100,000 o deithiau ar ein gwasanaethau peilot yng Nghymru. Rydym nawr yn darparu 4,000 o deithiau bob wythnos ar gyfartaledd, ar draws un ar ddeg o wahanol ardaloedd ledled y wlad.
Dyma ganllaw byr i'n gwasanaeth sy'n ymateb i'r galw, a rhai o'r lleoedd y gallwch chi ddefnyddio gwasanaeth fflecsi yng Nghymru.
Beth yw fflecsi?
Mae fflecsi yn fath newydd o wasanaeth bws lleol. Yn lle codi a gollwng teithwyr mewn arhosfan bysiau fel gwasanaeth bws traddodiadol, mae bysiau fflecsi yn codi ac yn gollwng o fewn ardal gwasanaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes amserlen sefydlog, gan fod bysiau yn eich codi ar eich cais, gan newid llwybr fel y gall pawb gyrraedd eu cyrchfan.
Wedi'i bweru gan dechnoleg o ViaVan, mae'r system ymateb i'r galw a ddefnyddir yn golygu y gall gwasanaethau fflecsi fod yn hyblyg iawn. Mae gwybod faint o deithwyr rydyn ni'n eu codi yn golygu y gallwn ni sicrhau sedd i bawb ac mae gallu newid y llwybr yn seiliedig ar ble mae teithwyr eisiau teithio yn golygu y gall fflecsi eich cludo chi i'r lle rydych chi am fynd pan rydych chi eisiau mynd yno, mewn modd mwy cynaliadwy.
Gallwch archebu tocyn fflecsi ar ap ffôn clyfar neu trwy ffonio'r tîm fflecsi ar 0300 234 0300 - mae ein llinell gymorth ar agor 6am-11pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a 9am-7pm ar ddydd Sul. Gallwch ddarllen mwy ar wefan fflecsi: https://www.fflecsi.cymru/.
Ble mae gwasanaeth fflecsi ar gael?
Ar hyn o bryd rydym yn treialu fflecsi mewn 11 ardal ledled Cymru. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau lleol i ddarparu gwasanaethau ac yn ystyried datblygiadau newydd posibl yn y dyfodol - felly cadwch lygad allan am wasanaeth fflecsi yn eich ardal chi!
Blaenau Gwent
Mae Parth 1 o gynllun fflecsi Blaenau Gwent a weithredir gan Stagecoach yn cynnwys tref Glyn Ebwy, yn ogystal â phentrefi cyfagos Beaufort, Rassau a Garnlydan ac Ystâd Ddiwydiannol Rassau. Mae'r gwasanaeth yn eich helpu i gyrraedd y gwaith, i siopa yng nghanol tref Glyn Ebwy, neu i barhau a'ch taith - mae'r cysylltiadau'n cynnwys gwasanaethau rheilffordd TrC, bws X4 i Gaerdydd a gwasanaethau bysiau i'r Fenni.
Mae Parth 2 yn cynnwys cwm Ebw Fach, sy'n rhedeg o Aber-big i Glyn Ebwy trwy Abertyleri, Blaina, Nantyglo a Brynmawr. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd wedi'i gynllunio i gysylltu â gwasanaethau rheilffordd TrC rhwng Glyn Ebwy a Chaerdydd yn Llanhilledd.
Bwcabus
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Caerfyrddin, Sir Benfro a Ceredigion i wella'r gwasanaeth Bwcabus poblogaidd iawn a ddathlodd 12 mlynedd o weithredu yr hydref hwn. Rhennir fflecsi Bwcabus yn ddau wasanaeth ledled Gorllewin Cymru, gan ddarparu cyswllt hanfodol i gymunedau gwledig.
Mae'r cyntaf o'r rhain yn cynnwys gogledd gwledig Sir Gaerfyrddin a de Ceredigion, gan gynnwys tref brifysgol Llanbedr Pont Steffan, aneddiadau Llanybydder, Llandysul a Chastell Newydd Emlyn, ac atyniadau fel Rheilffordd Dyffryn Teifi, Rhaeadr Cenarth a Phyllau Glo Dolaucothi. Mae'r gwasanaeth yn cysylltu â llwybrau bysiau lleol, yn ogystal â llwybrau bysiau pellter hir TrawsCymru T1, T1C a T5. Mae'r ail wedi'i leoli yn Sir Benfro, yn gwasanaethu pentrefi i'r de o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae'r gwasanaeth hwn yn cysylltu â gwasanaethau TrawsCymru T5 a T11.
Caerdydd
Mae gwasanaeth fflecsi gogledd Caerdydd, a weithredir mewn partneriaeth ag Adventure Travel, yn cynnwys llawer o faestrefi sydd i'r gogledd-orllewin o'r brifddinas. Yn dechrau yn Gwaelod-y-garth yng nghysgod y Garth - ysbrydoliaeth ar gyfer y nofel a'r ffilm The Englishman Went up a Hill but Came down a Mountain - mae'r ardal wasanaeth yn dilyn yr afon Taf i'r de, gan gwmpasu ardaloedd fel Tongwynlais, Coryton, Gogledd Llandaf a'r Eglwys Newydd cyn dod i ben ei daith ar yr A48 yn Gabalfa.
Mae'r gwasanaeth yn darparu cyfnewidfa â gwasanaethau rheilffordd TrC yn Llandaf a Coryton ac yn cysylltu â gwasanaethau bysiau eraill yn yr ardal. Mae hefyd yn darparu cysylltiadau â chyfleoedd gwaith a hamdden, siopau a chyfleusterau iechyd, gan wasanaethu Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, Ysbyty Felindre yn yr Eglwys Newydd, a Pharc Gwledig ac Ystâd Ddiwydiannol Forest Farm.
Dyffryn Conwy
Mae fflecsi yn gweithredu yn Nyffryn prydferth Conwy, gan gwmpasu'r ardal wledig sydd a'i chanolbwynt yn nhref Llanrwst. Mae'r cynllun yn ymestyn i Barc Cenedlaethol Eryri, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer twristiaid sy'n archwilio rhai o dirnodau ac atyniadau'r rhanbarth, gan gynnwys Zip World Fforest a phentref poblogaidd Betws-y-Coed.
Fodd bynnag, mae hefyd yn chwarae rhan bwysig yn darparu teithiau i drigolion lleol pentrefi niferus yr ardal wasanaeth, ac mae'n cysylltu â gwasanaethau rheilffordd Dyffryn Conwy, yn ogystal â gwasanaethau bysiau TrawsCymru T10 (Bangor-Corwen) a T19 (Llandudno-Blaenau Ffestiniog). Ar ddydd Mawrth, dydd Gwener a dydd Sadwrn, mae'r ardal wasanaeth yn ymestyn i redeg ar hyd yr A5 i Gorwen, yn ogystal â phentrefi yn ardal Llyn Brenig, lleoliad poblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr a safle bridio gweilch y pysgod.
Dinbych
Mae fflecsi hefyd ar gael yn nhref hanesyddol Dinbych. Mae'r ardal wasanaeth yn cwmpasu'r dref gyfan, gan gynnwys siopau canol y dref, a hefyd pentref cyfagos Henllan i'r gogledd-ddwyrain. Gweithredir y gwasanaeth gan M&H Coaches.
Sir y Fflint
Yn enwog am Ffynnon Gwenfrewi sy'n ganrifoedd oed, mae Treffynnon bellach yn ganolbwynt i wasanaeth fflecsi Sir y Fflint. Mae'r ardal wasanaeth yn cynnwys pentrefi Caerwys, Afonwen a Nannerch i'r de, a phentref arfordirol Greenfield gerllaw.
Penrhyn Llŷn
Mae Penrhyn Llŷn yn un o ardaloedd mwyaf golygfaol Cymru, gan ei dynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae yno lawer o gymunedau lleol bach tyn yn swatio o fewn y bryniau ysblennydd. Mae gwasanaeth bws O Ddrws i Ddrws fflecsi yn darparu gwasanaeth sy'n ddefnyddiol i drigolion lleol a thwristiaid fel ei gilydd.
Mae'r ardal a gwmpesir gan y gwasanaeth fflecsi yn ymestyn o dref arfordirol Pwllheli - lle mae'n cwrdd â'r orsaf reilffordd ar ddiwedd Rheilffordd Arfordir y Cambrian - a phentref Trefor ar arfordir y gogledd yr holl ffordd i ben gorllewinol y penrhyn, gan gynnwys pentrefi Abersoch, Aberdaron a Nefyn, yn ogystal â phentref pysgota golygfaol a lleoliad ffilmio poblogaidd Porthdinllaen. Gwasanaeth tymhorol yw hwn sy'n gweithredu rhwng Ebrill a Hydref.
Casnewydd
Fel y lleoliad lle lansiwyd y gwasanaeth peilot cyntaf, mae Casnewydd wedi ffurfio rhan allweddol o fflecsi ers mis Mai 2020, ac yn ddiweddar, cafodd maes gwasanaeth y ddinas ei ehangu'n sylweddol. Nawr gallwch archebu gwasanaeth fflecsi yn y rhan fwyaf o ardaloedd preswyl Casnewydd, ac mae'r gwasanaeth yn gweithredu rhwng 06:00 a 23:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a 09:00 i 19:00 ar ddydd Sul. Mae’r gwasanaethu ochr yn ochr â gwasanaethau Bws Casnewydd sydd wedi'u hamserlennu yn y ddinas, a gall yr ap fflecsi argymell ai gwasanaeth wedi'i drefnu neu wasanaeth fflecsi fyddai’r opsiwn gorau ar gyfer eich taith.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys holl dirnodau ac atyniadau'r ddinas, gan gynnwys y Bont Drafnidiaeth, Canolfan Siopa Friars Walk, Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Canolfan Gynadleddau Rhyngwladol Cymru, a'r amffitheatr Rufeinig yng Nghaerllion, yn ogystal ag Ysbytai Brenhinol Gwent, Sant Gwynllyw ac Ysbyty Sant Cadog. Mae hefyd yn darparu cysylltiadau â gwasanaethau rheilffordd yng ngorsafoedd Casnewydd, Pye Corner a Tŷ Du, yn ogystal â nifer o wasanaethau bysiau lleol a rhanbarthol.
Sir Benfro
Mae cynllun fflecsi Sir Benfro yn wahanol i ardaloedd eraill gan ei fod yn gweithredu i fodel sy'n ymateb i'r galw wedi'i seilio ar lwybrau hyblyg. Mae hyn yn cynnwys tri pharth sy'n rhedeg trwy ardal odidog Gorllewin Cymru. Mae Parth Llansanffraid-ar-Elái yn cysylltu Tyddewi, dinas leiaf y DU, a gweddill Bae Llansanffraid-ar-Elái gan gynnwys pentrefi Solfa a Newgale â thref Hwlffordd. Mae Parth St Aidans yn cwmpasu'r un aneddiadau ar Benrhyn Tyddewi â thref harbwr Abergwaun, tra bod Parth Jemima - a enwyd ar ôl yr arwres leol chwedlonol Jemima Nicholas - yn cwmpasu'r ardal rhwng Abergwaun a Hwlffordd, sydd mwy neu lai yn dilyn yr A40.
Yn yr un modd â chynlluniau eraill, mae'r parthau wedi'u cynllunio i wasanaethu siopau, gwasanaethau a gweithgareddau, yn enwedig yn nhrefi Abergwaun a Hwlffordd a ledled Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ymhlith yr atyniadau mae tapestri'r Goresgyniad Olaf yn Abergwaun, Scolton Manor Country a'r eglwys gadeiriol fyd-enwog yn Nhyddewi. Mae'r gwasanaethau hefyd yn cysylltu â gorsafoedd rheilffordd TrC yn Hwlffordd ac Abergwaun a'r Wdig.
Prestatyn
Mae'r gwasanaeth fflecsi hwn a weithredir mewn partneriaeth â Townlynx yn cynnwys tref lan môr gyfan Prestatyn, yn ymestyn o Draeth y Ffrith yn y gorllewin i Glwb Golff Prestatyn yn y dwyrain a phentref Meliden yn y de. Mae hyn yn cynnwys cyfnewidfa â gwasanaethau rheilffordd yng ngorsaf Prestatyn, ac mae hefyd yn darparu mynediad i Ffordd Prestatyn-Dyserth, llwybr teithio llesol poblogaidd ar hyd hen reilffordd y gwnaethom ei chrybwyll mewn erthygl blog flaenorol .
Y Rhondda
Caiff gwasanaeth fflecsi y Rhondda ei weithredu mewn partneriaeth â Stagecoach ac mae’n cwmpasu sawl cymuned rhwng Tonypandy a Hendreforgan, gan gynnwys Penygraig, Williamstown, Penrhiwfer, Tonyrefail a Thomastown. Mae wedi'i gynllunio i ganiatáu cyrraedd y gyfnewidfa yng ngorsafoedd rheilffordd a bysiau Tonypandy, yn ogystal â darparu mynediad i Ganolfan Hamdden Tonyrefail, archfarchnadoedd ac ystadau diwydiannol.