Skip to main content

Next stop, the dramatic heart of Wales

27 Tach 2023

Ydych chi’n barod i grwydro’r gaeaf hwn? P’un ai a ydych chi’n heicio neu’n beicio, yn gwersylla neu’n glampio, neu am fynd am dro i weld oriel gelf neu barc gwledig, gall ein trenau a’n gwasanaethau bws lleol fynd â chi i’ch cyrchfan yng nghalon ddramatig Cymru.

I lawer o bobl, Castell-nedd Port Talbot yw calon De Cymru, lle mae’r Gorllewin gwledig a'r De-ddwyrain trefol yn cwrdd. Mae’n ardal llawn drama ac yn bwerdy o oes y Chwyldro Diwydiannol. Dyma gartref gwaith dur mwyaf y DU o hyd.

Ond nid y gwaith dur yn unig sy’n creu’r ddrama. Ceir yma hefyd theatr naturiol ar ffurf mynyddoedd, ogofâu, dyffrynnoedd, rhaeadrau ac afonydd, sy’n cyferbynnu â thwyni tywod noethlwm yr arfordir. Mae’n ymwneud â dramâu a pherfformiadau byw mewn theatrau.

P’un ai a ydych chi’n heicio neu’n beicio, yn gwersylla neu’n glampio, neu am fynd am dro i weld oriel gelf neu barc gwledig, gall ein trenau a’n gwasanaethau bws lleol fynd â chi i’ch cyrchfan yng nghalon ddramatig Cymru.

Cymerwch gipolwg ar rai o’r pethau sydd gan yr ardal hon i’w cynnig isod.

 

Parc Coedwig Afan

Mae’r coetir hynafol hardd hwn yn cynnwys llwybrau cerdded a beicio hamddenol ar hyd glannau Afon Afan, gan gynnwys llwybrau sy’n dilyn hen reilffordd fwynau a arferai wasanaethu diwydiant trwm yr ardal hon. Mae yma hefyd rai llwybrau beicio mynydd heriol sydd wedi’u graddio yn ôl pa mor anodd ydynt.

Dewch â’ch beic ar y trên a dod oddi arno ym Mharcffordd Port Talbot. Nid yw’n rhy bell i feicio o’r fan hon i’r Parc Coedwig, lle gallwch chi fynd ati go iawn i bedlo.

Gallwch hefyd deithio o Bort Talbot ar fws. Mae’r prif safleoedd bws yn y parc ym Mhontrhydyfen/Oakwood, Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan, Cymer a Glyncorrwg.

Cynllunio eich taith.

Parc Coedwig Afan

 

Parc Gwledig Margam

Yn yr ystâd drawiadol hon, sydd wedi’i lleoli mewn 800 erw o gefn gwlad hardd, saif Castell Tuduraidd-Gothig rhyfeddol Margam, cyn-gartref y teulu Talbot, y teulu y mae Port Talbot wedi’i enwi ar ei ôl. Fe welwch hefyd adfeilion hynafol Abaty Margam, sy’n dyddio o’r 12fed ganrif, a’r gerddi addurnol heddychlon, sy’n ddelfrydol ar gyfer dianc rhag holl brysurdeb y byd a mynd am dro bach hamddenol.

Mae digon i aelodau iau’r teulu ei fwynhau yma hefyd, o faes chwarae antur i bentref tylwyth teg gyda’i gastell a’i fythynnod bach.

Mae bysiau o Bort Talbot, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr yn stopio’n aml ger y fynedfa i Barc Margam. Teithio ar y trên? Dewch oddi ar y trên ym Mharcffordd Port Talbot ac yna ar y bws am siwrnai fer i gyrraedd pen eich taith. Neu, fel arall, gallwch deithio yno ar feic - nid yw’n bell.

Cynllunio eich taith.

Parc Gwledig Margam

 

Sgwd Rhyd Yr Hesg (Rhaeadr Melin Y Cwrt)

Wedi’i lleoli ar un o isafonydd Afon Nedd ger pentref Resolfen, mae Sgwd Rhyd Yr Hesg yn plymio 80 troedfedd dros haen o dywodfaen caled, sy’n golygu mai hon yw’r rhaeadr uchaf yn Ne Cymru. Mae’n olygfa drawiadol a mawreddog.

Mae’r rhaeadr wedi’i lleoli mewn gwarchodfa natur sydd wedi’i hamgylchynu â choetiroedd derw aeddfed sy’n ddelfrydol ar gyfer heicio, mynd am dro neu i fwynhau gwylio adar. Mae’n rhaid i chi weld hon os ydych chi wrth eich bodd yn yr awyr agored.

Beth am ddod yma ar fws? Mae gwasanaethau’n rhedeg o Abertawe ac o orsaf rheilffordd Castell-nedd i Felin Y Cwrt . Teithio ar feic? I fynd i Felin Y Cwrt, dilynwch Llwybr Beicio Cenedlaethol 46.

Cynllunio eich taith.

Gwarchodfa Natur Rhaeadr Melin Y Cwrt, Resolfen, Castell-nedd Port Talbot

 

Canolfan Celfyddydau Pontardawe

Dyma le gwych i ymweld ag ef gyda’r teulu cyfan neu fel cwpl. Mae yma theatr, sinema, oriel gelf a stiwdio ddawns. Cynhelir perfformiadau, adloniant a digwyddiadau byw yma drwy gydol y flwyddyn. Boed yn gerddoriaeth glasurol, yn gomedi stand-yp, yn ddawnsio, yn ddrama neu’n ddigwyddiadau i blant, mae gan y Ganolfan Celfyddydau rhywbeth i’w gynnig i bawb.

Mae wedi’i lleoli yng nghanol tref brysur Pontardawe, ac mae digon o leoedd yno i stopio am hoe fach, paned neu damaid i'w fwyta ar ôl eich ymweliad.

Os ydych chi’n teithio ar y trên, dewch oddi ar y trên yng Nghastell-nedd neu yn Abertawe, lle gallwch chi gysylltu â gwasanaethau bws rheolaidd ac uniongyrchol i Bontardawe.

Beth am fynd i'r Ganolfan Celfyddydau ar eich beic? Mae wedi’i lleoli’n agos at Lwybr 43 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ac mae raciau beic y tu allan i’r ganolfan lle gallwch gadw eich beic yn ddiogel.

Cynllunio eich taith.

Canolfan Celfyddydau Pontardawe

 

Hoffech chi gael gwybod mwy?

Darganfod Castell-nedd Port Talbot - pethau i'w gwneud a lleoedd i aros yn Ne Cymru