16 Ion 2023
Mae dechrau'r flwyddyn newydd yn gyfle perffaith i roi cynnig ar arferion newydd, yn enwedig o ran ein hiechyd a'n lles.
Rydym wedi llunio rhai camau syml i'w hychwanegu i'ch diwrnod i ddechrau'r flwyddyn newydd yn iachach a gwyrddach.
Ewch am dro pob dydd
Fel un o’r lleoedd harddaf yn y byd, mae gan Gymru ddigon i’w gynnig o ran teithiau cerdded. O gerdded yn hamddenol ar hyd camlas i heiciau mynydd mwy anturus, teithiau cerdded ar lan y traeth neu lwybrau tref hanesyddol, mae rhywbeth at ddant pawb, beth bynnag fo'u ffitrwydd. Cymerwch olwg ar Cerddwyr Cymru am deithiau cerdded lleol gwych, neu ewch i Llwybr Arfordir Cymru i ddarganfod amrywiaeth o lwybrau sydd â chysylltiad trên.
Ffordd hawdd o gynyddu eich camau yw cerdded teithiau byrrach. Mynd i’r siop, i giniawa neu i ymweld â theulu a ffrindiau? Wfft i’r car, gwisgwch eich ‘sgidiau cerdded, cyrraedd am ymbarél a mwynhau'r awyr iach a cherdded i ben eich taith.
Ar y beic i'r orsaf
Ewch ar y beic i fod yn iachach trwy feicio i'ch gorsaf agosaf. Gall ymarfer corff ysgafn helpu i leihau lefelau straen a phwysedd gwaed, mae hefyd yn ffordd wych o greu endorffinau fel y gallwch ddechrau eich diwrnod gyda meddwl clir ac agwedd gadarnhaol.
Mae gan lawer o'n gorsafoedd le diogel i gadw eich beic. Os ydych chi'n teithio i Gasnewydd neu Gaerdydd i gyrraedd eich trên, mae Hyb Beicio Casnewydd a'r Clo Beic yng Nghaerdydd yn ddwy fenter gymdeithasol wych sy'n cynnig cyfleusterau storio beiciau sydd â lle i chi storio eich beic yn ddiogel. Mae cawod, locer a hyd yn oed caffi yno felly cofiwch alw heibio y tro nesaf y byddwch yn y ddinas. Awyddus i logi beic? Gallwch ddarllen am feiciau Ovo yma.
Mae rhai o'n gwasanaethau yn cynnig lle i feiciau hefyd. Mae'r rhain yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin, gyda rhai gwasanaethau yn eich galluogi i gadw lle ymlaen llaw wrth brynu tocyn. Gallwch ddarganfod mwy am fynd â beiciau ar drenau yma.
Dal y trên i'r gwaith
Bob blwyddyn ledled y DU, mae pobl yn treulio 80 awr gaeth mewn traffig! Mynnwch amser i ymlacio a dal trên i'r gwaith. Does dim rhaid poeni am dagfeydd traffig na chost parcio. Gyda Wi-Fi a phwyntiau gwefru ar gael ar y rhan fwyaf o’n gwasanaethau, gallwch roi dechrau da i'ch diwrnod gwaith, dal i fyny â’ch hoff sioe neu bodlediad, ymdoddi mewn llyfr da neu fwynhau golygfeydd Cymru cyn dechrau ar eich diwrnod.
I'ch helpu i wneud y newid, rydym yn cynnig 12 tocyn am bris 6! Edrychwch ar ein sêl ddiweddaraf ar brisiau tocynnau trên Multiflex yn.
Felly, rhowch wfft i'r car ym mis Ionawr a chroesawu blwyddyn a dechrau newydd.