16 Ion 2026
Mae dechrau blwyddyn newydd yn gyfle perffaith i ailosod, ailfeddwl ac adnewyddu'r ffordd rydym yn symud drwy'r byd. P'un a ydych chi'n edrych i hybu eich lles, archwilio mwy o Gymru neu wneud dewisiadau gwyrddach, daw 2026 â digonedd o gyfleoedd i feithrin arferion teithio gwell.
Dyma ein rhestr o ddewisiadau teithio da a drwg i ysbrydoli eich teithiau eleni.
Da
🚶♀️Teithio ymwybodol, manteision mawr
Eleni, rydym yn croesawu’r llawenydd o deithio'n fwy ymwybodol. Mae Cymru yn llawn tirweddau godidog, ac weithiau'r ffordd orau o'u profi yw ar droed. O lwybrau ar hyd camlesi heddychlon i lwybrau ucheldir garw, mae cerdded yn ffordd syml o gefnogi eich iechyd ac ailgysylltu â natur. Am ysbrydoliaeth o ran ble i fynd, archwiliwch lwybrau cerdded sy'n gysylltiedig â'n gorsafoedd neu darganfyddwch anturiaethau newydd trwy apiau a grwpiau cerdded lleol ledled Cymru.
🏞️ Anturiaethau bach ar eich stepen drws
Does dim angen i chi deithio'n bell i deimlo eich bod wedi dianc. Mae Cymru a'r gororau yn llawn trefi swynol, perlau arfordirol a mannau poblogaidd diwylliannol sy'n berffaith ar gyfer gwyliau dros benwythnos neu ddiwrnod allan digymell. Neidiwch ar drên i ddarganfod rhywle newydd - boed yn gaffi clyd yn Llandudno, llwybr treftadaeth yn Henffordd neu dro arfordirol yn Sir Benfro. Gall archebu tocynnau ymlaen llaw eich helpu i arbed arian ar deithiau hirach, gan wneud cynlluniau munud olaf yn haws fyth.
🚴Teithiau a bwerir gan bedalau
Mae beicio’n parhau i dyfu ledled Cymru, a 2026 yw’r flwyddyn i ymuno â’r gamp. Ffarweliwch â theithiau byr mewn car a chofleidiwch daith ar ddwy olwyn a mwynhewch y rhyddid, yr awyr iach a’r fantais ffitrwydd sy’n dod gyda hi. Mae llawer o’n gwasanaethau yn cynnig lleoedd beicio pwrpasol, gan eich helpu i gyfuno teithiau trên a beic i’ch galluogi i fwynhau anturiaethau hirach. Archebwch le i’ch beic yn hawdd trwy ap TrC pan fyddwch chi’n archebu’ch tocyn.
🚌 Dewis trafnidiaeth gyhoeddus wyrddach
Gyda mwy o fysiau trydan, gwasanaethau rheilffordd gwell a chysylltiadau gwell ledled Cymru, nid yw teithio cynaliadwy erioed wedi bod yn fwy hygyrch. P'un a ydych chi'n
teithio i'r gwaith, yn archwilio neu'n ymweld â theulu, mae dewis trafnidiaeth gyhoeddus yn helpu i leihau tagfeydd ac yn cefnogi Cymru lanach a gwyrddach.
Drwg
🚗 Dibynnu ar y car i wneud pob taith
Tagfeydd traffig, y straen o barcio a chostau tanwydd cynyddol - mae'n bryd gadael y rhain ar ôl. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig ffordd dawelach a mwy cynhyrchiol o deithio. Gyda Wi-Fi a phwyntiau gwefru ar gael ar lawer o'n trenau, gallwch ddefnyddio'ch taith i ymlacio, gweithio neu fwynhau'r olygfa.
💸 Methu allan ar arbedion cerdyn rheilffordd
Os ydych chi wedi bod yn bwriadu cael cerdyn rheilffordd ers sbel, gadewch i 2026 fod y flwyddyn y byddwch chi, o'r diwedd, yn ei sortio. Mae cardiau rheilffordd yn cynnig arbedion gwych ar draws y rhwydwaith, ac rydym hefyd yn darparu cardiau rheilffordd TrC unigryw ar gyfer llwybrau penodol. P'un a ydych chi'n deithiwr rheolaidd neu'n awyddus i gynllunio rhagor o ddiwrnodau allan eleni, gall cerdyn rheilffordd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch cyllideb.
🛣️Teithiau hir pan fo ffordd well yn bodoli
Pam treulio oriau wrth y llyw pan allech chi fod yn ymlacio ar fws cyfforddus, modern? Mae rhwydwaith pellter hir TrawsCymru yn cysylltu cyrchfannau allweddol ledled Cymru, gan gynnig dewis arall hawdd, cynaliadwy â golygfeydd gwych yn lle gyrru. Mae rhai gwasanaethau hyd yn oed yn cynnwys bysiau trydan gyda chyfleusterau cysurus ychwanegol fel gwefru di-wifr a goleuadau darllen - sy'n berffaith ar gyfer ymlacio gyda llyfr neu ddal i fyny â'ch hoff gyfres.
Dechreuwch eich teithiau yn 2026 gyda ni
P'un a ydych chi'n teithio ar gyfer gwaith, i gael antur neu unrhyw reswm rhwng y ddau, rydyn ni yma i'ch helpu chi i wneud y gorau o bob taith. Cynlluniwch eich teithiau, archebwch le ar gyfer eich beic, gwiriwch ddiweddariadau byw a bwciwch docynnau i gyd mewn un lle gan ddefnyddio ap neu wefan TrC. Blwyddyn newydd, arferion teithio newydd - gadewch i ni wneud 2026 eich blwyddyn rwyddaf a gwyrddaf hyd yma.