Skip to main content

A taste of summer

31 Mai 2024

Y cyrchfannau bwyd hawdd eu cyrraedd ar drên

Os ydych chi am fynd ar daith fwyd heb ei ail, chwiliwch ddim pellach. Mae Cymru a'r Gororau yn gartref i nifer o farchnadoedd bwyd stryd bywiog a fydd yn sicr o godi chwant bwyd ar bob un ohonoch, ynghyd ag amrywiaeth o siopau a masnachwyr annibynnol fel y gallwch dreulio diwrnod cyfan yn crwydro. O gyros i gelato, bunny chow i bahn mi, mae gwledd o fwyd a diod dafliad carreg o’n gorsafoedd trenau.

Awydd arbed costau teithio? Cynlluniwch eich taith rhwng 3 Mehefin a 5 Gorffennaf i fanteisio ar ein Sêl ar Docynnau Advance*. Prynwch docynnau trên erbyn 2 Mehefin yn uniongyrchol trwy Trafnidiaeth Cymru er mwyn arbed arian ar eich teithiau.

Summer food blog-5

Goodsheds Y Barri

Gorsaf agosaf: Y Barri (9 munud ar droed)

Mae’r pentref bwyd hwn, wedi’i greu o gynwysyddion cludo a cherbyd trên, wedi'i drawsnewid bellach yn gartref i siopau annibynnol, bariau a stondinau bwyd. Cewch flas ar fwydydd o bedwar ban byd, diolch i’r amrywiaeth eang o fwyd stryd a danteithion di-ri sydd ar gael yma. Ar ôl pryd o fwyd blasus, beth am fynd am dro i lan y môr i weld holl hwyl a sbri’r ynys, ac efallai y cewch chi gipolwg o Nessa wrth y peiriannau slot!

Summer food blog-12

Marchnad Caer

Gorsaf agosaf: Caer (18 munud ar droed)

Caer yw'r lleoliad perffaith ar gyfer penwythnos i ffwrdd sy’n canolbwyntio’n llwyr ar fwyd. Dinas gyffrous sy’n ymfalchïo yn yr holl fariau, bwytai a siopau annibynnol sydd ganddi, mae’r farchnad newydd yn goron ar y cyfan. Mae hanes marchnad Caer yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif ac erbyn hyn, diolch i'w chartref newydd, mae'n fwy bywiog nag erioed. Ymlaciwch yn yr ardal agored hon gyda ffrindiau a mwynhau amrywiaeth o fwydydd o bedwar ban byd, o tacos i gyrri Thai.

Summer food blog-3

Neuadd Farchnad Amwythig

Gorsaf agosaf: Amwythig (9 munud ar droed)

Mae’r neuadd farchnad hon yn plethu’r hen a’r newydd ac wedi ennill sawl gwobr.  Mae dros 60 o fasnachwyr unigryw yn y neuadd; dyma gyfle i ddod o hyd i gynnyrch lleol ffres o Swydd Amwythig a fydd yn tynnu dŵr o’r dannedd.  Mae amrywiaeth o stondinau celf a chrefft yno hefyd.

Summer food blog-19

Marchnad Caerdydd

Gorsafoedd agosaf: Caerdydd Canolog (8 munud ar droed) / Caerdydd Heol y Frenhines (14 munud ar droed)

Dyma brifddinas y bwydydd. Mae marchnad Caerdydd yn gartref i gyfoeth o hanes, sy'n dyddio'n ôl i'r 1700au. Dyma'r man perffaith i gymryd egwyl fach yng nghanol diwrnod prysur o siopa neu’r lle delfrydol i fachu pryd o fwyd cyn mynd i sioe neu gêm bêl-droed neu rygbi. P'un a ydych chi'n chwilio am pizza ffres wedi'i bobi ar gerrig, byns bao neu gyrri, cymerwch sedd ar y llawr uchaf a mwynhewch bob dim sydd gan y farchnad hon i'w gynnig. Nid fydd ymweliad â’r farchnad yn gyflawn heb i chi roi cynnig ar y pice ar y maen a gaiff eu pobi’n ffres!

Summer food blog-15

© Hawlfraint y Goron (2024) Cymru Wales

Founders&Co

Gorsaf agosaf: Abertawe (12 munud ar droed)

Wedi'i lleoli yng nghanol Abertawe, mae'r ardal amlbwrpas unigryw hon yn lle perffaith i ymlacio a hamddena wrth fwynhau bwyd annibynnol o safon. Mae Founder and Co yn cynnwys amrywiaeth o ardaloedd - yn ystod y dydd mae modd i chi fwynhau tamaid o fwyd tra’n anfon cwpl o e-byst yn yr ardal weithio. Gyda'r nos, dyma ardal wych i wledda gyda ffrindiau, beth bynnag fo’r achlysur.

Summer food blog-2

Cynlluniwch eich taith nesaf gan ddefnyddio ap TrC a chofiwch ein tagio ar eich anturiaethau bwyd ar Instagram - @transport_wales.

*Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar faint sydd ar gael ar wasanaethau penodol TrC yn unig. Yn ddilys ar gyfer tocynnau a brynwyd rhwng 21 Mai a 2 Mehefin 2024 yn unig. I ddarllen y telerau ac amodau llawn, ewch i trc.cymru/sel