03 Hyd 2024
Mae pentref prydferth sy’n swatio yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig tirweddau godidog a hanes cyfoethog.
Mae’r pentref bach ond cyfeillgar hwn yn enwog yn chwedloniaeth Cymru fel man gorffwys Gelert, ci ffyddlon Llywellyn Fawr. Wedi'i adeiladu â cherrig lleol mae'r pentref hwn yn cynnig teithiau cerdded golygfaol ar hyd yr afon yn ogystal â siopau lleol, caffis a nifer o dafarndai.
Mae Beddgelert yn hawdd ei gyrraedd ar fws, felly os ydych chi’n cynllunio taith yno, ystyriwch yr opsiynau teithio bws isod i wneud eich taith yn gyfleus ac yn bleserus.
· Gwasanaeth Bws Sherpa S3 ac S4
Mwynhewch rai o olygfeydd mwyaf dramatig a hardd Cymru o Barc Cenedlaethol Eryri ar eich ffordd i Feddgelert. Mae'r bws Sherpa yn cynnig llwybr uniongyrchol i Feddgelert o wahanol leoliadau yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Caernarfon a Phorthmadog.
Mwynhewch y golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri wrth i chi deithio trwy gefn gwlad Cymru. Cynlluniwch eich ymweliad: https://snowdonia.gov.wales/visit/plan-your-visit/snowdon-sherpa/
Gallwch ddod o hyd i rwydwaith o wasanaethau bws cyswllt i'ch tywys o amgylch Eryri yma
· Tocyn 1bws ar gyfer gwasanaethau yng Ngogledd Cymru
Os ydych yn bwriadu teithio i gyrchfannau lluosog yn y rhanbarth, gall y tocyn 1bws fod yn werth da. Mae’n docyn aml-weithredwr sy’n eich galluogi i deithio ar bron pob gwasanaeth bws yng Ngogledd Cymru.
Mae'r tocyn yn caniatáu i chi ddefnyddio gwasanaethau bws amrywiol yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Bws Sherpa a Llyn fflecsi.
Os nad ydych yn siŵr ble fydd y diwrnod yn mynd â chi, talwch trwy Tapio ar a Tapio i ffwrdd a bydd eich pris yn cael ei gyfrifo ar sail y teithiau rydych chi wedi’u cymryd, neu wedi’i gapio ar bris tocyn 1bws, pa un bynnag sydd isaf.
https://tfw.wales/north-wales-1bws-fare-capping
Unwaith i chi gyrraedd Beddgelert, fe'ch cynghorir yn gryf i fynd am dro i fedd chwedlonol Gelert. Dywedir bod ci ffyddlon wedi aberthu ei fywyd i amddiffyn plentyn ei feistr. Gallwch ddarllen y chwedl yma
Neidiwch ar fws a byddwch chi'n rhyfeddu at faint yn fwy y gallwch chi ei archwilio a'i fwynhau trwy adael y car gartref.
Mae bysus yn cynnig llawer mwy o ryddid i gerddwyr a dringwyr archwilio’r parc cenedlaethol ac i grwydro’n rhydd gyda hyder heb boeni am ffioedd parcio neu lefydd cyfyngedig.
Mae gan Feddgelert rywbeth i'w gynnig i bawb! Cynlluniwch eich taith i Feddgelert gan ddefnyddio ap neu wefan TravelineCymru.