Skip to main content

James Price on the Future of Rail in Wales: RIA Speech

30 Hyd 2025

Yr wythnos diwethaf, gwnaeth James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru annerch ystafell lawn arweinwyr y diwydiant rheilffyrdd a ysgogwyr newid yn nigwyddiad y Railway Industry Association (RIA).

Dyma'r araith a draddododd James.

Prynhawn da, a diolch am fy ngwahodd i siarad heddiw.

Mae'n wych bod yma. Mae'n dda gallu siarad â rhai ohonoch chi wyneb yn wyneb, a gwrando ar rai o'r dadleuon sy'n procio’r meddwl o ddifri ynghylch dyfodol rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae wedi dod yn dipyn o ystrydeb dweud ei bod hi’n gyfnod cyffrous i reilffyrdd yng Nghymru - ond mewn gwirionedd mae'n wir, ac mae'r ysbryd hwnnw'n fyw ac yn iach yn yr ystafell hon.

Bydd llawer ohonoch chi eisoes yn gweithio gyda ni yn Trafnidiaeth Cymru mewn rhyw ffordd neu'i gilydd - gan gefnogi'r hyn rydyn ni'n ei wneud.

Hoffwn ddiolch i'r bobl hynny. 

Ac i'r unigolion a'r sefydliadau hynny a allai weithio gyda ni yn y dyfodol - mae cyfle go iawn i wneud hynny, felly cofiwch gysylltu. 

Mae tair elfen allweddol i'm haraith y prynhawn yma, ac mae cysylltiad agos rhwng pob un ohonyn nhw.

Yn gyntaf, rydw i eisiau myfyrio ar y daith anhygoel rydyn ni wedi bod arni.

Pacer at Cardiff Central

TfW FLIRTs in cardiff-01-2

Oherwydd, o fewn deng mlynedd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi datblygu o rywbeth nad oedd yn fawr mwy na map meddwl bras o syniadau ar fwrdd gwyn, i gorff llawn sy’n darparu trafnidiaeth: gan gyflogi 4,500 o bobl, rhedeg gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a thrawsnewid rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd, rydyn ni (ynghyd â'n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi) bellach yn berchen arno, yn ei weithredu ac yn ei gynnal a'i gadw.

Gan weithio yn y diwydiant rheilffyrdd - lle nad yw pethau'n symud yn gyflym fel mater o drefn - bydd pob un ohonoch chi’n gwybod ein bod ni wedi mynd yn groes i'r graen o ran sicrhau cymaint o newid, mor gyflym.

Roedd drafft cynnar o'r araith hon yn disgrifio hyn fel 'esblygiad' - rwy'n credu ei bod hi mewn gwirionedd yn fwy o 'chwyldro' pan fyddwch chi'n meddwl am bethau yn y cyd-destun hwnnw.

Rydw i hefyd eisiau canolbwyntio ar rai o'r manylion o ran ble rydyn ni nawr yn Trafnidiaeth Cymru - beth mae ein timau'n gweithio arno ar hyn o bryd, a'r prif heriau rydyn ni'n eu hwynebu. 

Ac er y gallai rhai o'r heriau hynny fod yn eithaf penodol i Gymru, bydd llawer ohonyn nhw’n berthnasol ar draws y diwydiant ehangach.

A bydd rhan olaf yr anerchiad hwn yn edrych tua'r dyfodol a sut beth fydd hwnnw i TrC ac o ran darparu trafnidiaeth yn ehangach yng Nghymru. 

Felly, gallai rhywun grynhoi'r araith hon fel hanes Trafnidiaeth Cymru yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, os hoffech chi.

Taffs Well depot-6

Ond i ddechrau yn y dechrau. 

Yn ôl yn 2015, roedd y syniad o gorff cyflawni trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, fel y dywedais yn barod, yn ddim llawer mwy na geiriau ar fwrdd gwyn ym Mharc Cathays - Pencadlys Llywodraeth Cymru, tua milltir i ffwrdd o'r man lle’r ydyn ni’n ymgynnull heddiw.

A beth oedd gwraidd y syniad?

Wel, llawer o bethau gwahanol, mewn gwirionedd.

Roedd rhan ohono'n ymwneud ag ymateb i rwystredigaeth gynyddol ar ran Gweinidogion - Edwina Hart, deiliad y portffolio trafnidiaeth ar y pryd - a Carwyn Jones fel Prif Weinidog, a oedd yn eithriadol o frwd dros drafnidiaeth a'i photensial i drawsnewid Cymru.

Roedd y ddau yn rhwystredig yn wleidyddol gyda'r gwasanaeth rheilffordd ar y pryd, y contract 'dim twf' enwog a weithredwyd gan Drenau Arriva Cymru, yr oeddem yn arfer clywed cymaint amdano, ac fe wna i ddod yn ôl at hynny'n fanylach cyn bo hir.

Roedd rhwystredigaeth fawr hefyd ynghylch darpariaeth Network Rail ar y pryd, nad oedd fel sefydliad yn camu i'r adwy o ran ymateb i uchelgais Llywodraeth Cymru i adeiladu rheilffyrdd gwell.

I fod yn glir, rydyn ni mewn lle gwahanol iawn heddiw gyda Network Rail yng Nghymru, ond rwy'n meddwl am brosiectau fel gwella amseroedd teithio rhwng gogledd a de Cymru, er enghraifft, lle'r oedd Llywodraeth Cymru yn y bôn yn buddsoddi symiau enfawr mewn asedau heb eu datganoli, yn gyfnewid am gyflawni prosiectau eithaf gwael ac oedi rhwystredig iawn dro ar ôl tro.

Ac wrth gwrs, roedd enw da Transport for London yn uchel iawn. Yn rhannol, diolch i lwyddiant Gemau Olympaidd Llundain o safbwynt trafnidiaeth - roedd hyn yn dal yn fyw ym meddwl pawb ar y pryd.

Ond yn gymaint ag unrhyw beth, roedd TrC yn ymateb technocrataidd i reidrwydd gwleidyddol.

Roedd Gweinidogion yn dweud 'mae'n rhaid gwneud rhywbeth', ac o ystyried y cyfyngiadau: y setliad datganoli, y cyfyngiadau ar recriwtio yn y Gwasanaeth Sifil, yn enwedig yng Nghymru, a gwrthwynebiad gwleidyddol amlwg i ddilyn llwybr neilltuo a phreifateiddio.

Cwmni hyd braich sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru oedd yr ateb y gwnaethom ei gyrraedd, ac mewn dim o dro, daeth yr enw Trafnidiaeth Cymru.

Cafodd ei ysbrydoli'n rhannol hefyd - a gallai hwn fod yn bwynt diddordeb niche iawn - gan yr ymgyngoriaethau yr oedd nifer o awdurdodau lleol wedi eu sefydlu i'w cefnogi i gyflawni prosiectau seilwaith lleol allweddol, mewn lleoedd fel Gwynedd a mannau eraill.

Yr hyn nad oeddem yn ei wybod bryd hynny wrth gwrs oedd, fel pob cynllun da - y byddem yn cael ein bwrw oddi ar y trywydd yn llwyr gan bandemig byd-eang a arweiniodd at newid sylfaenol i batrymau teithio.

Newidiodd hyn yn llwyr y ffordd mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn byw eu bywydau - a thorri model ariannol a oedd eisoes yn ansicr i weithredwyr rheilffyrdd Prydain sydd wedi eu preifateiddio - mae Covid wir yn rhan enfawr o stori TrC.

Wn i ddim a oes unrhyw un ohonoch chi'n gyfarwydd ag athroniaeth fusnes Simon Sinek.

Ef yw'r un a gyflwynodd 'sut', 'beth' a 'pham’ i iaith bob dydd y byd corfforaethol.

Wel, os yw'r 'sut' wedi newid gyda TrC bellach yn gweithredu gwasanaethau rheilffyrdd yn uniongyrchol o dan fodel wedi ei wladoli'n llawn ar ôl Covid, a bod y 'beth' yn newid yn barhaus wrth i ni gwblhau gwahanol elfennau o'r trawsnewid ac yna symud ymlaen i'r nesaf, yna mae'r 'pam' wedi aros yn gyson ac yn rhyfeddol o syml - gwella bywydau pobl yng Nghymru. 

Ac mae hynny'n rhywbeth eithaf diriaethol ar draws y sefydliad. P'un a ydych chi'n siarad â giard ar Linellau Craidd y Cymoedd, cynllunydd trafnidiaeth yn Wrecsam neu Abertawe, neu un o'r uwch dîm arwain. Mae'n ymdeimlad clir o bwrpas sydd wir yn ysgogi popeth a wnawn.

Ac os maddeuwch i mi am ennyd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa pawb pa mor bell rydyn ni wedi dod.

Mae cymaint wedi digwydd, yn enwedig ers 2018 pan ddaethom yn gyfrifol am y gwasanaeth rheilffyrdd gan Trenau Arriva Cymru, mae perygl y bydd pobl yn anghofio pa mor wael oedd y gwasanaeth rheilffyrdd. Ac mae hynny er gwaethaf gwaith caled ac ymrwymiad llawer o bobl sy'n gweithio yn y busnes hwnnw - yn wir, mae llawer ohonyn nhw wedi mynd o nerth i nerth fel aelodau gwerthfawr o dîm TrC.

Ond mae’n bosibl y bydd rhai ohonoch chi’n cofio bod BBC Cymru Wales wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen Week in Week Out yn 2017 - dan arweiniad Nick Servini - flwyddyn cyn i ni gymryd yr awenau gan Trenau Arriva Cymru.

Mae'r teitl ‘Wales has train trouble’ yn dweud y cyfan i raddau. Ond fe wna i ddarllen rhywfaint o'r naratif i chi:

“Felly beth yn union yw'r broblem gyda threnau yng Nghymru?

Maen nhw'n hen, maen nhw'n costio llawer i'w cynnal, does dim digon ohonyn nhw ac mae gorlenwi wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed.

Mae gan Trenau Arriva Cymru, sy'n rhedeg masnachfraint Cymru a'r Gororau, gontract dim twf - sy'n golygu eu bod sownd gyda’r un nifer o drenau ag a oedd ganddynt yn 2003.”

Y Presennol

Class 756-14

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, ers i Trafnidiaeth Cymru gymryd yr awenau gyda’r gwasanaeth rheilffyrdd, ein bod ni wedi newid y naratif hwnnw'n sylfaenol.

Y dyddiau hyn, pan fydd pobl yn fy stopio yn y stryd, maen nhw'n llawer mwy tebygol o siarad am y trenau newydd maen nhw wedi eu gweld neu wedi teithio arnyn nhw na rhannu rhwystredigaethau am oedi neu orlenwi. Dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni wedi datrys pob problem, ond rydyn ni wedi dod yn bell iawn.

Rydyn ni wedi symud o system a ddiffiniwyd gan danfuddsoddi a marweidd-dra i un sydd bellach yn cael ei gyrru gan dwf, uchelgais ac ymdeimlad gwirioneddol o bwrpas.

Mae’n bosibl mai Metro De Cymru yw'r arwydd mwyaf gweladwy o'r newid hwnnw.

Yn dechnegol, mae'n gyflawniad rhyfeddol. Trydaneiddio ysbeidiol, trenau sy'n cael eu pweru gan fatris, a lefel o arloesi sy'n syfrdanu pobl, nid dim ond ledled y Deyrnas Unedig, ond yn rhyngwladol.

Fis diwethaf, fe wnaethon ni groesawu'r Gweinidog Trafnidiaeth o Dde Affrica i'n depo yn Ffynnon Taf, a chredwch fi, doedd gennym ni ddim ymwelwyr rhyngwladol yn curo ar y drws i gael gwybod mwy pan mai’r Pacers oedd prif gerbydau ein fflyd!

TfW South Africa Minister of Transport Taffs Well visit-10-2

Y llynedd, ni oedd y gweithredwr trenau trwm cyntaf y tu allan i Lundain i gyflwyno tocynnau 'Talu wrth Fynd' i 95 o'n gorsafoedd Metro.  Dyma ein tocyn sy'n tyfu gyflymaf, ac rydyn ni'n agos iawn at eu gweld yn cael eu defnyddio ar gyfer 2 filiwn o deithiau cwsmeriaid. 

TfW PAYG Cardiff-12-2

Ond i mi, yr hyn sy'n bwysicach fyth yw'r pwrpas cymdeithasol sy'n sail i'r Metro.

Mae hon yn rheilffordd sy'n gwasanaethu rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn Ewrop. Mae'n golygu mwy na mynd o A i B - mae’n ymwneud ag agor cyfleoedd, cysylltu pobl â swyddi, addysg, a'i gilydd. Mae'n ymwneud â newid bywydau.

Ac rydyn ni eisoes yn gweld arwyddion cynnar y trawsnewidiad hwnnw.

Mae'r Metro wedi cael ei alw'n 'Diwb Cymru' yng nghyfryngau'r Deyrnas Unedig, ac er bod hwnnw'n bennawd bachog, mae hefyd yn arwydd bod pobl yn dechrau gweld beth sy'n bosibl pan fyddwch chi'n datganoli pŵer ac yn ei gefnogi gydag uchelgais.

Rydyn ni'n defnyddio'r un dull gweithredu yng ngogledd Cymru yn awr drwy Rwydwaith Gogledd Cymru, ac rydyn ni'n gwneud hynny gyda'r un brys, yr un egni, a'r un gred ddigyfyngiad yn y gallu i greu.

Ac wedyn mae gennych chi'r fflyd.

Conwy Castle (14)-2

Rydyn ni wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon. Mae hynny'n golygu 148 o drenau newydd ar draws pedwar model gwahanol, ac mae pob un yn newid sylweddol o ran cysur, dibynadwyedd a chynaliadwyedd.

Mae ein trenau Class 197 CAF eisoes yn gwasanaethu pobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru.

Mae trenau Stadler Class 231 a 756 yn trawsnewid teithiau ym Metro De Cymru. A'r flwyddyn nesaf, byddwn yn gweld trenau tram Class 398 yn dechrau cael eu defnyddio.

Mae cyflwyno'r holl drenau newydd hynny a chynnal y rhwydwaith ar yr un pryd yn dipyn o gamp. Roedd yn cynnwys heriau peirianyddol, hyfforddi gyrwyr, amserlenni newydd, a chryn dipyn o gydsymud, chwysu, gwaed a dagrau y tu ôl i'r llenni.

Ond rydyn ni'n gweld ffrwyth ein llafur. Rydyn ni wedi disodli'r rhan fwyaf o'r hen fflyd. Mae'r gwahaniaeth yn un go iawn, ac mae pobl yn sylwi.

TfW Class 756 FLIRT Radyr-5 cropped

Gadewch i mi roi un ystadegyn i chi sy'n crynhoi pethau: pan fydd ein holl drenau newydd yn cael eu defnyddio, bydd gennym 489 o gerbydau. Mae hynny'n 81% o gynnydd ar yr hyn a etifeddwyd gennym yn 2018. A bydd gennym 174 o drenau - i fyny o 128. Mae Llywodraeth Cymru yn haeddu clod enfawr am y lefel hon o fuddsoddiad.

Rydyn ni wedi newid y fflyd. Rydyn ni wedi newid y disgwyliadau. Ac rydyn ni wedi newid y sgwrs.

Ond mae llawer mwy i’w wneud.

Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal ein Huwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus gyntaf yn Wrecsam, ac rydw i'n gobeithio bod llawer ohonoch chi wedi gallu bod yn bresennol. Roedd hon yn foment wych i ddod â'r diwydiant at ei gilydd a lansio Rhwydwaith Gogledd Cymru.

Ac rydyn ni eisoes yn cynllunio'r un nesaf, a fydd yn mynd ymhellach fyth, gan adeiladu ar yr uchelgais sylfaenol hwnnw i dyfu'r economi, darparu swyddi a chartrefi newydd - cysylltu cymunedau, yma yng Nghymru, ac ar draws y ffin hefyd.

Oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy na threnau. Mae'n ymwneud â phobl. Lleoedd. Posibiliadau.

TfW Summit 2025 day 2-84-2

Nid busnes newydd yw Trafnidiaeth Cymru bellach. Rydyn ni wedi tyfu'n sefydliad darparu sydd â gallu a hygrededd o ddifri. Rydyn ni wedi symud o'r cysyniad i'r cam gweithredu, a nawr rydyn ni'n symud o gyflawni i drawsnewid.

Mae Metro De Cymru bron â chael ei gwblhau. Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn dechrau mynd o nerth i nerth. Mae ein fflyd newydd yn cael ei chyflwyno ledled y wlad. Rydyn ni wedi gosod y cledrau, hyfforddi'r gyrwyr, ailysgrifennu'r amserlenni, a chyflwyno'r cerbydau newydd.

Ond mae mwy i'r dyfodol na dim ond mwy o drenau neu fwy o gledrau.

Y dyfodol

Helpwch lunio dyfodol beicio a theithio ar fws yng Nghymru cropped

Mae'n ymwneud ag integreiddio. Mae'n ymwneud â chreu system drafnidiaeth sy'n ddi-dor, yn glyfar ac yn gynaliadwy. Un rhwydwaith. Un amserlen. Un tocyn.

Nid slogan yn unig yw hwnnw. Mae'n addewid - a gyda masnachfreinio bysiau, byddwn yn cymryd cam enfawr tuag at gyflawni'r addewid hwnnw.

Dychmygwch Gymru lle mae bysiau, trenau, tramiau a llwybrau teithio llesol yn gweithio gyda'i gilydd - nid mewn cystadleuaeth yn erbyn ei gilydd, ond mewn cytgord.

Lle mae hybiau gwledig yr un mor gysylltiedig â'n dinasoedd. Lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis naturiol, nid yn ddewis olaf.

Dyna'r Gymru rydyn ni'n ei hadeiladu ac rydyn ni eisoes wedi rhoi enw iddi - y Rhwydwaith-T - rhwydwaith trafnidiaeth cwbl aml-ddull sy'n cysylltu Cymru.

TfW Eisteddfod 2025 Wrecsam-30

Lle mae ein cwsmeriaid yn hyderus wrth ddefnyddio ein dulliau niferus o deithio ledled y wlad, lle mae llwybrau bysiau a threnau wedi eu cysylltu, a lle mae ein llwybrau cerdded ac olwyno yn cysylltu ein cymunedau â chanolfannau trafnidiaeth gyhoeddus.

Rydyn ni'n buddsoddi mewn data amser real, tocynnau integredig, a llwyfannau digidol sy'n gwneud teithio'n haws. Rydyn ni'n meddwl am y daith gyfan o garreg y drws i ben y daith. Ac rydyn ni'n croesawu arloesi, nid er ei fwyn ei hun, ond oherwydd ei fod yn ein helpu i wasanaethu pobl yn well.

Trenau batri-trydan. Tocynnau clyfar. Amserlenni wedi eu pweru gan ddeallusrwydd artiffisial. Nid geiriau ffasiynol mo'r rhain. Maen nhw'n rhan o'n map.

Ac wrth gwrs, rydyn ni'n gwneud hyn i gyd gyda'r hinsawdd mewn golwg. Trafnidiaeth yw un o'r cyfranwyr mwyaf at allyriadau carbon yng Nghymru o hyd. Dyna pam rydyn ni'n trydaneiddio llinellau, yn buddsoddi mewn cerbydau allyriadau isel, ac yn dylunio seilwaith sydd o blaid cerdded, olwyno a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Ond nid yw cynaliadwyedd yn ymwneud â charbon yn unig. Tegwch sy'n bwysig. Mae'n ymwneud ag adeiladu system drafnidiaeth sy'n gweithio i bawb lle bynnag maen nhw'n byw, beth bynnag fo'u cefndir.

Rydyn ni wedi dangos bod cyflawni datganoledig yn gweithio. Pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud yn lleol, pan fydd yr arweinyddiaeth yn gryf, a phan fydd cyllid ac ymdeimlad clir o bwrpas, gall Cymru gyflawni. Yn gyflymach. Yn well. Yn fwy effeithlon.

Ac rydyn ni'n bwrw ymlaen â'r model hwnnw. I mewn i ogledd Cymru. I mewn i ganolbarth Cymru. I mewn i orllewin Cymru. I bob cwr o'r wlad.

Rydyn ni’n adeiladu mwy na seilwaith. Rydyn ni’n adeiladu sgiliau. Creu swyddi. Cefnogi cadwyni cyflenwi lleol. Buddsoddi mewn pobl - oherwydd nhw yw'r rhai a fydd yn cyflawni'r dyfodol.

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth yng Nghymru yn 2015, ac roedd TrC yn sefydliad a aned yn fuan wedyn.

Rydyn ni'n cyd-fynd yn llwyr â'r ddeddf ac yn deall sut rydyn ni fel sefydliad trafnidiaeth yn cefnogi nodau llesiant: Cymru fwy ffyniannus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol, Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu a Chymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Rydyn ni am barhau i gyflawni tuag at yr holl amcanion allweddol hynny.  Ond rhaid i ni fod yn onest. Ni fydd y ffordd ymlaen yn hawdd.

Rydyn ni yn wynebu pwysau o ran cyllid. Targedau hinsawdd sy'n heriol. Newid mewn patrymau teithio. Disgwyliadau uwch. Ond rydyn ni'n barod.

Rydyn ni wedi gwreiddio gwydnwch yn ein sefydliad. Mae gennym y sgiliau, y systemau a'r partneriaethau i addasu ac ymateb. Ac nid ydyn ni’n gwneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae cydweithio yn rhan o'n DNA ni, boed hynny gyda'r llywodraeth, cymunedau, diwydiant neu'r byd academaidd.

Ac wrth i ni edrych ymlaen at Lywodraeth nesaf Cymru, rydyn ni'n gwybod bod newid ar y gorwel. Gweinidogion newydd. Blaenoriaethau newydd. Heriau newydd.

Ond rydyn ni'n gweld hynny fel cyfle.

Cyfle i ail-ymgysylltu. Ailfynegi ein gweledigaeth. Dangos y gwerth rydyn ni'n ei gynnig, ac alinio ag uchelgeisiau gweinyddiaeth newydd, beth bynnag fo'i siâp.

Rydyn ni wedi dechrau ennill ymddiriedaeth. Rydyn ni wedi cyflawni canlyniadau. Ac rydyn ni'n barod i ddal ati.

Oherwydd bod ein cenhadaeth i wella bywydau drwy well trafnidiaeth yn croesi ffiniau pleidiau. Mae'n rhywbeth y gall pob un ohonom ei gefnogi.

Mae'r cwsmer wrth galon popeth a wnawn.

TfW major events 2025-45

Mae hynny'n golygu gwell gorsafoedd. Trenau glanach. System docynnau symlach. Gwasanaethau mwy ymatebol. Mae'n golygu gwrando, dysgu a gwella - bob un diwrnod.

Nid corff cyflawni yn unig yw Trafnidiaeth Cymru. Mae'n ased cenedlaethol. Rydyn ni'n rhan annatod o wead Cymru. Rydyn ni'n cysylltu cymunedau. Rydyn ni’n cefnogi'r economi. Rydyn ni'n galluogi twf.

Ac yn y blynyddoedd i ddod, bydd ein rôl yn tyfu.

Felly sut beth fydd y deng mlynedd nesaf?

Bydd yn cynnwys darparu'r Rhwydwaith T - rhwydwaith trafnidiaeth cwbl integredig.  System werdd, gynhwysol sy'n rhoi blaenoriaeth i gwsmeriaid.  Lle mae ein cwsmeriaid yn gwybod beth i'w ddisgwyl o ran gwasanaeth a dibynadwyedd.

Mae'n ymddangos bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni'n gyflym, gyda phwrpas a balchder.

Felly, i'n partneriaid, ein rhanddeiliaid, a'n cydweithwyr yn y dyfodol, ymunwch â ni. Helpwch ni i siapio'r dyfodol. Helpwch ni i wireddu'r weledigaeth.

Oherwydd mae dyfodol Trafnidiaeth Cymru yn feiddgar, yn uchelgeisiol - ac yn gyraeddadwy.  A gyda’n gilydd, gallwn wneud i bethau ddigwydd.

Tram train (2)-2