Skip to main content

On the right track for a good story

15 Rhag 2022

Dihangwch i fyd llyfrau’r gaeaf hwn gyda menter lenyddol ddiweddaraf Cyngor Llyfrau Cymru a Rheilffordd y Cambrian.

Gyda nofelau gan awduron sy’n gwerthu orau o bob rhan o’r byd, mae’r cynllun llyfrau rhad ac am ddim yn gwahodd teithwyr ar hyd lein y Cambrian i fwynhau stori fer ar eu taith trên nesaf. O ddramâu dystopaidd i straeon caru dod i oed, anturiaethau teithio a straeon bywyd go iawn emosiynol, mae rhaglen Stori Sydyn yn cynnwys cyfres o lyfrau sydd fel arfer yn llai na 100 tudalen o hyd.

Eleni bydd pedwar teitl newydd yn cael eu hychwanegu i’r gyfres, gan gynnwys dau deitl Cymraeg newydd – Un Noson a Dau Frawdm Dwy Gem: Stori’r Carabangos.

SS 2022 FB 788x940px2

Edrychwch ar rai o'r llyfrau anhygoel sydd ar gael isod:

Return to the Sun gan Tom Anderson

Brawd a chwaer ag obsesiwn syrffio yn cychwyn ar daith mewn fan wersylla. Rhoddwyd y fan iddynt gan eu tad Geoff, a’i gais olaf oedd i’w fab a’i ferch fynd â’r fan i Foroco, trwy Ffrainc a Sbaen. Eu nod yw dod o hyd i'w berchennog saithdegau.

 Un Noson gan Llio Elain Maddocks

Nofel fywiog ar gyfer darllenwyr anfodlon ac unrhyw un sy'n mwynhau stori gyfoes, ysgafn! Mae’r stori’n dilyn dau brif gymeriad, Jacob a Cadi, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer priodas ffrind. Gan ddechrau saith diwrnod cyn y briodas, mae'r stori yn dilyn y paratoadau tan y diwrnod mawr ei hun.

The Replacement Centre gan Fflur Dafydd

Wedi'i osod mewn realiti ychydig yn wahanol, pan fydd gŵr neu wraig yn y gymuned yn marw gall y partner sy'n galaru gael rhywun yn ei le; maen nhw'n cael dewis un sy'n edrych yn debyg ac yn teimlo'n debyg. Ond mae dirgelwch ynghylch o ble y daw'r rhai sy'n cymryd eu lle ac a ydynt yn fodlon chwarae'r rôl hon. Neu a ydynt yn hytrach yn cynllunio dihangfa?

Dau Frawdm Dwy Gem: Stori’r Carabangos gan Dylan Ebenezer

Mae Ben a Theo Cabango yn ddau frawd hil-gymysg o Gaerdydd, ac mae'r ddau yn sêr y byd chwaraeon. Mae Ben yn chwarae pêl-droed i Glwb Pêl-droed Abertawe ac wedi cael ei gynnwys yng ngharfan tîm Cymru, tra bod y brawd iau, Theo yn chwaraewr rygbi addawol. Dilynwn eu straeon trwy bedwar persbectif gwahanol – y ddau frawd a’u rhieni.

Mae llyfrau ar gael yng ngorsafoedd Aberystwyth a Machynlleth a gellir eu dychwelyd ar ddiwedd eich taith neu eu cadw i’w mwynhau yn y dyfodol.

Y tro nesaf y byddwch ar Reilffordd y Cambrian, gwnewch yn siŵr eich bod yn stopio ac archwilio’r byd o gysur eich sedd trên.

Mae crynodeb o'r llyfr wedi'i ddarparu gan Cyngor Llyfrau Cymru