Skip to main content

Easter rail to trail adventure

17 Ebr 2025

Mae hi’n wanwyn, mae’r cennin Pedr yn blaguro, ac mae’r gwyliau Pasg wedi cyrraedd!

Pa ffordd well o ddathlu na dianc rhag prysurdeb y ddinas ac archwilio prydferthwch syfrdanol Cymru?

Anghofiwch am y tagfeydd traffig a’r meysydd parcio orlawn, gadewch lonydd i’r car a dewch inni fynd ar antur Pasg gyda’n gilydd.

O’r cledrau i’r llwybrau: cyrraedd ar drên, archwilio ar droed.

Mae nifer o’n gorsafoedd yn byrth i lwybrau cerdded cenedlaethol enwog drwy gydol rhwydwaith Cymru a’r gororau.

Am beth ydych chi’n aros? Paciwch eich gwarfag, rhowch eich esgidiau cerdded amdanoch ac ewch yn syth o’r cledrau i’r llwybrau ar un o’m trenau.

Dewch o hyd i’r man cychwyn perffaith ar gyfer eich antur gan ddefnyddio’r adnodd gwych hwn:

Teithio ar drên ac ar droed | Mynd am heic yng Nghymru | Trafnidiaeth Cymru

Ysbrydoliaeth ar gyfer crwydro llwybrau dros y Pasg

Gyda chymorth Ramblers Cymru a GoJauntly, rydyn ni wedi rhestri ychydig orsafoedd sy’n fannau cychwyn gwych ar gyfer eich antur o’r cledrau i’r llwybrau.

  • Llwybr Arfordir Cymru

Yn un o drefi prydferthaf Cymru, mae strydoedd cul a chastell canoloesol hyfryd Conwy yn fan cychwyn gwych ar gyfer eich taith gerdded arfordirol.

Lawrlwythwch yr ap GoJauntly i ddechrau archwilio’r llwybrau lleol.

  • Gorsafoedd i Glawdd Offa

Dechreuwch eich diwrnod ar Glawdd Offa yng ngorsafoedd Rhiwabon neu’r Waun a cherddwch 13km o un orsaf i’r llall. Ar hyd y llwybr, mwynhewch olygfeydd o’r clawdd megis castell Y Waun a thraphont ddŵr Pontycysyllte sy’n safle Treftadaeth Byd UNESCO.

  • Parc Cenedlaethol Eryri

Mae llinellau trên Cambrian a Chwm Conwy yn rhedeg i mewn i’r Parc Cenedlaethol ei hun. Ynghyd â bws Sherpa’r Wyddfa, mae ein gwasanaethau trên yn ffyrdd gwych o deithio o amgylch y parc.

Gorsaf drenau Bangor – O’r fan hon, ewch ar fws Sherpa S2 i Lanberis.

Gorsaf drenau Porthmadog – O’r fan hon, ewch ar fws Sherpa S4 a fydd yn eich cludo i Lwybr Watkin.

Gorsaf drenau Betws-y-Coed – O’r fan hon, ewch ar fws Sherpa S1 i Lanberis ar gyfer Llwybr Llanberis neu Pen y Pass ar gyfer Llwybr Pyg a Llwybr y Mwynwyr.

  • Llwybr Arfordir Sir Benfro

Camwch yn syth i Lwybr Arfordir Sir Benfro o orsafoedd megis Sir Benfro neu Dinbych y Pysgod.

Dewch o hyd i glogwyni dramatig, tywod euraidd, ac awyr iach y môr – a oes unrhyw beth ni ellir ei hoffi am Sir Benfro?

Cofiwch gynllunio ac archebu’ch tocynnau ymlaen llaw ar gyfer antur Pasg bythgofiadwy.

Ewch am bâr o esgidiau cerdded yn lle’r wyau Pasg ‘na a chychwynnwch antur ar drên ac ar droed gyda ni.

Mae’r daith mor werthfawr â’r cyrchfan!