25 Mai 2021
Yn Trafnidiaeth Cymru (TrC) rydym ni'n falch iawn o fod yn symud ymlaen gyda'r gwaith o gyflwyno Metro De Cymru. Bydd yn trawsnewid yn llwyr y ffordd rydym yn teithio yn Ne-ddwyrain Cymru, gan wneud teithio o gwmpas yn haws ac yn gyflymach.
Y gwaith rydym ni'n ei wneud yw'r gwaith uwchraddio seilwaith rheilffyrdd mwyaf ers degawdau ac yn ôl y disgwyl mae llawer iawn angen ei wneud, a fydd yn effeithio ar ein cymdogion ar y rheilffordd.
Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) yw'r rheilffyrdd rydym ni'n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd ac maen nhw'n rhedeg rhwng Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Rhymni, Coryton a Chaerdydd.
Mae llawer o'r gwaith rydym ni'n ei wneud yn cynnwys clirio llystyfiant o ochr y lein, newid cynlluniau trac rheilffyrdd a pharatoi ar gyfer gosod seilbyst i'r mastiau ar gyfer y gwifrau pŵer uwchben. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau cyflymach ac amlach ar drenau tram trydan gwyrddach dros y blynyddoedd nesaf.
Fodd bynnag, wrth i wneud y gwaith hwn, bydd rhywfaint o aflonyddwch dros dro gan gynnwys newidiadau i wasanaethau, cau ffyrdd a gwaith peirianyddol yn y nos – i gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein llyfryn newydd Metro: Canllaw i gymunedau yma.
Ar gyfer y blog hwn, rydym ni wedi paratoi atebion i gwestiynau cyffredin i roi rhagor o wybodaeth i chi:
Pam mae angen cwblhau'r gwaith hwn nawr?
Rydym ni yng nghanol argyfwng hinsawdd. O ganlyniad i hyn, mae'n amlwg bod angen i ni leihau ein hallyriadau'n sylweddol. I Trafnidiaeth Cymru, mae hyn yn golygu dau beth: lleihau allyriadau ein trenau; ac annog pobl i symud o ddefnyddio eu ceir i drafnidiaeth gyhoeddus wyrddach a mwy effeithlon.
Mae trydaneiddio'r rheilffordd yn gam mawr tuag at gyflawni'r ddau nod hyn. Mae gan drenau sy'n cael eu pweru gan fatris a gwifrau uwchben ôl troed carbon llawer llai na'r trenau disel sy'n rhedeg ar ein rhwydwaith ar hyn o bryd, gan nad oes ganddyn nhw unrhyw allyriadau a'u bod yn defnyddio eu pŵer yn fwy effeithlon. Bydd y gwifrau uwchben yn cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy, ac rydym yn cydweithio â Riding Sunbeams ar brosiect Llinellau'r Cymoedd Gwyrdd i ddatblygu ffyrdd o harneisio ynni'r haul a'r gwynt.
Mae trenau trydan yn perfformio'n llawer gwell hefyd – maen nhw'n gallu cyflymu'n llawer cyflymach na threnau disel, sy'n lleihau amseroedd teithio, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau fel y Metro sy'n stopio mewn sawl gorsaf. Bydd hyn yn ei dro yn ein galluogi i redeg gwasanaethau amlach. O ganlyniad, bydd llwybrau'r Metro rhwng Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Rhymni a Chaerdydd yn cael eu cynyddu i bedwar gwasanaeth yr awr ar bob llwybr, gydag amseroedd teithio wedi'u lleihau i tua 50 munud. Fyddai hyn yn amhosibl ar ein rhwydwaith gyda threnau disel.
Mae disgwyl i'r gwasanaethau cyflymach ac amlach hyn arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr, gan y byddan nhw'n cynnig dewis amgen mwy deniadol i deithio mewn car.
Disgwylir i’r gwasanaethau cyflymach ac amlach hyn arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr, gan y byddan nhw’n darparu dewis deniadol yn lle teithio mewn car.
Rwy'n byw wrth ochr rheilffordd ond dydw i ddim yn defnyddio gwasanaethau rheilffordd – beth yw'r manteision i mi?
Bydd y trenau trydan newydd a fydd yn cael eu cyflwyno i rwydwaith y Metro unwaith y bydd y gwaith trawsnewid wedi'i gwblhau yn llawer tawelach na'r trenau presennol. Bydd hyn yn golygu na fydd ein cymdogion ar ochr y rheilffordd yn cael eu tarfu mwyach gan sŵn uchel trenau disel yn mynd heibio. Bydd dyfodiad y trenau newydd yn helpu i leihau llygredd aer lleol hefyd, yn ogystal â chyfrannu at ostyngiadau cenedlaethol yn ein hôl troed carbon.
Pam mae'r gwaith hwn yn digwydd yn y nos?
Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau bod y gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn cael ei gwblhau'n ddiogel. Y ffordd fwyaf diogel o wneud hyn yw gwneud y gwaith pan fydd y rheilffordd ar gau, fel nad oes unrhyw drenau'n rhedeg drwy ardaloedd lle mae gwaith yn cael ei gwblhau.
Mae cau'r rheilffordd am ddyddiau di-ben-draw yn creu anghyfleustra mawr i'r rhai sy'n defnyddio'r rheilffordd i deithio i'r gwaith, ymweld â theulu a ffrindiau, teithio i apwyntiadau meddygol a gwneud siopa hanfodol. Rydym ni am sicrhau cyn lleied o anghyfleustra â phosibl, ond sicrhau hefyd bod gwaith yn parhau ar y cyflymder cywir i ddarparu gwell gwasanaethau ar draws rhwydwaith y Metro erbyn diwedd 2023. Y ffordd rydym ni wedi dewis gwneud hyn yw gwneud y gwaith yn y nos ac ar benwythnosau yn bennaf, gan fod llai o bobl yn teithio bryd hynny.
Pam na allwch chi ddweud wrthym o flaen llaw y bydd gwaith yn digwydd ger fy nghartref?
Mae angen gwneud llawer iawn o waith i uwchraddio'r seilwaith rheilffyrdd. Mae hyn yn cynnwys sawl math gwahanol o waith, megis rheoli llystyfiant, adlinio neu newid trac, gosod seilbyst a chodi mastiau ar gyfer gwifrau uwchben. Bydd cwmpas y gwaith yn amrywio o leoliad i leoliad, gan nad oes dwy ran o rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd yr un fath, ac mae hyn yn ei dro yn effeithio ar sut rydym ni'n gwneud y gwaith hwn.
Ar gyfer gwaith ar raddfa fawr sy'n achosi mwy o darfu, fel newidiadau trac neu waith mawr i orsafoedd, gallwn hysbysu cymdogion ar ochr y rheilffordd gan fod y gwaith hwn yn cael ei gynllunio ymhell cyn iddo ddechrau. Fodd bynnag, ar gyfer gwaith fel rheoli llystyfiant a gosod seilbyst, rhaid i'n hamserlen ar gyfer cyflawni'r gwaith fod yn hyblyg ac yn ymatebol i wahanol amgylchiadau a bydd yn aml yn newid ar fyr rybudd. Er yn ddelfrydol y byddem ni am sicrhau bod cymdogion ar ochr y lein yn cael gwybod am waith aflonyddgar sy'n digwydd yn lleol, nid ydym ychwaith am fod yn hysbysu cymdogion am waith nad yw'n mynd yn ei flaen neu newidiadau yng nghwmpas y gwaith ar y funud olaf.
Pam ydych chi'n torri coed a llwyni?
Mae llawer o lystyfiant wedi tyfu ar ochr ein rheilffyrdd dros y 50 mlynedd diwethaf. O'r blaen, byddai cols o'r trenau stêm a arferai redeg i fyny ac i lawr y cymoedd wedi atal y llystyfiant hwn rhag tyfu. Fodd bynnag, ers i drenau disel gymryd lle'r trenau stêm, mae wedi tyfu'n naturiol heb reolaeth.
Mae hyn wedi creu problemau ehangach i'r rheilffordd, yn enwedig yn ystod tymor yr hydref lle gall llystyfiant ar ochr y lein greu amodau llithrig ar y rheiliau, ond hefyd problemau eraill fel canghennau isel yn taro trenau neu'n rhwystro signalau. O ganlyniad, gall hyn achosi oedi ac amharu ar wasanaethau ac achosi problemau diogelwch.
Mae angen torri'r llystyfiant er mwyn gallu adeiladu'r mastiau ar gyfer gwifrau uwchben. Bydd cael gwared ar y llystyfiant hwn hefyd yn sicrhau bod y Metro yn rheilffordd fwy diogel a mwy dibynadwy.
Pam nad ydych chi'n trydaneiddio rhwydwaith Cymru a'r Gororau i gyd?
Ar hyn o bryd, rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd yw'r unig ran o rwydwaith rheilffyrdd ehangach Cymru a'r Gororau y mae Trafnidiaeth Cymru yn berchen arno ac yn ei reoli'n uniongyrchol ar ôl prynu'r llinellau oddi wrth Network Rail ym mis Mawrth 2020, fel rhan o'r cynlluniau i ddatblygu Metro De Cymru. Mae gweddill rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn parhau i gael ei reoli gan Network Rail, sy'n adrodd i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU. O'r herwydd, ar hyn o bryd mae angen cymeradwyaeth Llywodraeth y DU i drydaneiddio a moderneiddio llinellau eraill.
Yn 2020, cyhoeddodd Network Rail yr achos busnes rhaglen interim ar gyfer ei Strategaeth Rhwydwaith Datgarboneiddio Tyniant, a oedd yn cynnig trydaneiddio'r rhan fwyaf o'r rhwydwaith, gan gynnwys y llwybrau allweddol sy'n cysylltu Gogledd, De a Gorllewin Cymru. Byddai llwybrau heb eu trydaneiddio yn cael eu gweithredu gan drenau sy'n cael eu pweru gan fatris neu drenau hydrogen. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda nhw i ddeall sut y gellir moderneiddio'r rhwydwaith fel y gallwn ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a gwyrddach ar draws y rhwydwaith cyfan.
Dyhead Llywodraeth Cymru yw i'r gwaith o reoli'r rheilffyrdd yng Nghymru gael ei ddatganoli i Gymru, a fydd yn ein galluogi i drydaneiddio a moderneiddio'r rhan fwyaf o'r rhwydwaith.