23 Ion 2026
Mae'r dathliad blynyddol o gariad yng Nghymru ar ein gwarthaf, wrth i Ddiwrnod Santes Dwynwen ddod â rhamant a thraddodiad i gymunedau ledled y wlad. Ar 25 Ionawr, mae'r achlysur unigryw Cymreig hwn a gaiff ei ddathlu bob blwyddyn, yn anrhydeddu ein nawddsant cariadon ac yn creu cyfle i ddathlu rhamant, anwyldeb a chyfle i gysylltu â'r hanes sy'n ffurfio ein diwylliant.
❤️ Santes Dwynwen
Ymsefydlodd Dwynwen mewn lleiandy yn Ynys Môn, Eglwys Llanddwyn. Fe ddioddefodd Dwynwen dorcalon ei hun a gweddïodd y byddai eraill yn dod o hyd i hapusrwydd ac yn disgyn mewn cariad, yn wahanol iddi hi.
Er mwyn ei hanrhydeddu, bellach, Dydd Santes Dwynwen yw diwrnod mwyaf rhamantus y flwyddyn yng Nghymru. Mae’n ddiwrnod pan fydd pobl yn dangos cariad at ei gilydd trwy dreulio amser ystyrlon gyda'i gilydd gan gyfnewid cardiau ac anrhegion.
💌 Dyma 5 taith ramantus i'w mwynhau yng Nghymru'r Diwrnod Santes Dwynwen hwn
Rhuthun
Eisiau dathlu Dydd Santes Dwynwen yng Ngogledd Cymru? Beth am ymweld â thref farchnad ddiddorol Rhuthun, a gafodd, yn 2023, ei henwi fel y lle gorau i fyw yng Nghymru.
Byddai trefnu taith ramantus i’r dref hanesyddol hon fod yn ddigon ar ei ben ei hun, ond os hoffech chi fynd â’r rhamant un gam ymhellach, beth am aros yn Ngwesty a Sba Castell Rhuthun . Gallwch grwydro erwau o goetir, ymlwybro trwy'r gerddi Eidalaidd a mwynhau golygfeydd hyfryd. Chwilio am rywbeth hyd yn oed mwy moethus? Dewiswch ymhlith wahanol driniaethau sba sydd ar gael yn y castell, gan gynnwys Profiad Sba Coetir.
Beth am swper a ffilm ac aros mewn gwesty 5 * MANORHAUS. Mae eu sinema breifat yn fendigedig a chyda bwydlen unigryw, sy'n berffaith ar gyfer noson ramantus. Pryd 3 chwrs gyda chynnyrch tymhorol a blasau wedi'u hysbrydoli gan y ffilm, oll am £30 - rhamantus iawn ddwedwn ni.
I gyrraedd Rhuthun, teithiwch ar ein bysiau T51 a T8 neu ddefnyddio ein gwasanaeth bws fflecsi.
© Hawlfraint y Goron
Aberystwyth
Gyda golygfeydd panoramig o'r môr a digon o fwytai bwyd Môr y Canoldir rhagorol, mae Aberystwyth yn ddewis gwych ar gyfer Dydd Santes Dwynwen.
Os ydych yn hoff o olygfeydd a ddim mor hoff o risiau, mae Rheilffordd y Clogwyn Aberystwyth yn berffaith. Ewch ar y trên pren sy’n dringo Mynydd y Cyfansoddiad. Ar ben y copa, bydd caffi a bwyty clyd, camera obscura, a siop anrhegion yn eich disgwyl. Eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch gyda choffi a theisen gydag arfordir godidog yn y cefndir.
Yn caru bwyd rhagorol? Mae gan Aberystwyth fwytai sy'n gweini bwydydd rhyngwladol, o fwyd Eidalaidd yn Little Italy i Sbaen yn Ultracomia a Y Bañera. Mae llawer o dafarndai poblogaidd yn Aberystwyth a llawer ohonynt yn rhai annibynnol ar hyd strydoedd lliwgar a hudolus y dref a pha well ffordd o ddod a diwrnod rhagorol i ben mewn steil.
Mae gwasanaethau bws T1, T2 a T5 oll yn teithio i Aberystwyth.
Abertawe
Yn awyddus i fwynhau awyrgylch hamddenol gyda golygfeydd o'r môr, beth am fynd am grwydr hamddenol a rhamantus i Draeth Abertawe? Gallwch alw yn The Secret Beach Bar & Kitchen , mwynhau cwtsh a diod gyda'ch gilydd wrth edmygu'r tonnau yn y pellter.
Os mai beicio gyda'ch cymar sy'n mynd a'ch bryd, beth am logi un o feiciau Next a beicio i'r Mwmbwls? Mae llwybr beicio Bae Abertawe yn cynnig taith esmwyth gyda golygfeydd arfordirol hardd, gyda bwytai ar hyd y llwybr os hoffech fyrbryd haeddiannol hefyd.
Os mai gweithgaredd gyda'r nos hoffech chi fwynhau, mae’r dewis yn ddi-ddiwedd. Mae Lumberjack yn gaffi y gallwch chi a'ch cymar fwynhau pob math o gemau taflu a gemau bwrdd.
Ni fyddai unrhyw noson ramantus yn Abertawe yn gyflawn heb ymlwybro ar hyd y Stryd Wind eiconig. Yn llawn tafarndai, bariau a chlybiau, gallwch fwynhau coctels am bris rhesymol ar amseroedd penodol, cerddoriaeth fyw a chlybiau nos.
Neidiwch ar y T6 i gyrraedd Abertawe.
Aberteifi
Mae Aberteifi yn dref nad yw’n cael y sylw y mae'n ei haeddu. Mae’r dref farchnad hon yn cynnig dihangfa ramantus i ddau ar hyd yr arfordir. Gwisgwch yn gynnes, cyd-gerddwch ar hyd yr Afon Teifi a mwynhau golygfeydd godidog. Gallwch hefyd grwydro'r llwybrau arfordirol yng Ngheredigion a Sir Benfro y mae Aberteifi yn cysylltu â nhw - y ffordd berffaith o dreulio amser oriau rhamantus gyda'ch cymar.
Ar ôl mwynhau awyr iach ffres yr arfordir, beth am baned mewn caffi clud? Mae Aberteifi yn gartref i gaffi arobryn Crwst, y lle perffaith ar gyfer siocled poeth Cymreig rhagorol. I wneud dyddiau llwyd mis Ionawr yn fwy lliwgar, ymwelwch â'r rhes liwgar o siopau ym Marchnad Aberteifi
Os mai noson ramantus gyda'ch cymar yw'r gofyn, mae digon o ddewis. O goctel neu ddau yn The Copper Pot neu blatiau bwyd bach yn Yr Hen Printworks, mae'r dewis yn ddiddiwedd. Beth am ddod a'ch noson i ben gydag ychydig o ddawnsio yn The Cellar neu gerdded gyda'r nos ar hyd yr afon.
Neidiwch ar y T5 i gyrraedd Aberteifi.
Aberhonddu
Mae Aberhonddu yn dref farchnad fywiog ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n cynnig cymysgedd o ddiwylliant, hanes a thirweddau syfrdanol. P'un a ydych chi'n cynllunio taith diwrnod neu ddihangfa penwythnos, mae digon i'w wneud.
Mae Aberhonddu wedi'i leoli ger y porth i un o dirweddau naturiol mwyaf eiconig Cymru. Mae'r Parc Cenedlaethol yn adnabyddus am ei fynyddoedd dramatig, llynnoedd godidog, a llwybrau cerdded diddiwedd. Archwiliwch harddwch Bannau Brycheiniog trwy ymweld â The Castle, sy’n defnyddio cynnyrch cynhyrchwyr lleol.
Mae Pen y Fan yn tra-arglwyddiaethu dros Fannau Brycheiniog ac fe'i gelwir y mynydd uchaf yn Ne Cymru. Felly os ydych chi'n caru'r awyr agored, beth am ddringo’r pegwn enwog hwn - Pen-y-Fan? Os ydych chi'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gallwch ddal trên i Ferthyr Tudful o gyfeiriad y de neu o'r Drenewydd o gyfeiriad y gogledd. Oddi yno, neidiwch ar fws T4 a dod oddi arni yn Storey Arms.
Mae ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a dringo Pen-y-Fan yn ffordd berffaith o edmygu golygfeydd De Cymru wrth i ni ddathlu nawddsant cariadon Cymru ar 25 Ionawr. Bydd llawer o gyplau yn dewis golygfeydd ysgubol y mynydd fel lle i ymweld ag ef i ddathlu'r diwrnod.
© Hawlfraint y Goron
I drefnu eich taith gerdded nesaf gydag ysbrydoliaeth Santes Dwynwen, ewch i www.trc.cymru.