Skip to main content

5 things you need to know before visiting the Eisteddfod

05 Awst 2024

Mae'r ŵyl wythnos o hyd sy’n dathlu popeth Cymraeg a Chymreig yn dod i Bontypridd. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi'i lleoli yn nhref enedigol Trafnidiaeth Cymru ac mae ar fin dod â chymunedau Cymru at ei gilydd drwy ŵyl o gelfyddydau a diwylliant.

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am yr Eisteddfod eleni.

Mae Pontypridd yn gartref i'r anthem genedlaethol.

Cyfansoddwyd Anthem Genedlaethol Cymru 'Hen Wlad Fy Nhadau' ym Mhontypridd gan dad a mab lleol, Evan James a James James.

Pan fyddwch yn ymweld â pharc Ynysangharad, edrychwch ar y gofeb efydd a godwyd er cof am Evan James a James James a gwrandewch ar yr anthem eiconig.

Eisteddfod-6-2

Dylech ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd Pontypridd

Mae'r Eisteddfod eleni wedi'i lleoli yng nghanol tref felly anogir ymwelwyr i deithio'n gynaliadwy a gadael y car gartref.

Mae gorsaf Pontypridd lai na 5 munud ar droed o'r Maes ac mae yna orsaf fysiau hefyd os ydych chi'n teithio o dref gyfagos. Mae gwasanaeth parcio a theithio ar gael hefyd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.

Bydd TrC yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i'ch cludo i'r Eisteddfod ac oddi yno’n ddiogel.

Gorsafoedd cyfagos a'r amseroedd a gymerir ar y trên

Caerdydd Canolog - 34 munud

Abercynon - 8 munud

Aberdâr – 30 munud

Merthyr – 33 munud

Bae Caerdydd – 30 munud

Mae dyluniad unigryw’r goron wedi'i ysbrydoli gan hen bont Pontypridd

Mae coron yr Eisteddfod eleni wedi ei dylunio gan Elan Rhys Rowlands. Mae'r dyluniad wedi'i ysbrydoli gan hen bont eiconig Pontypridd gyda chyfeiriad at yr anthem genedlaethol.

Dydy'r Eisteddfod ddim yn gorffen wrth gatiau'r parc.

Er bod yr Eisteddfod yn brysur gyda chystadlaethau a gweithgareddau, mae llawer o bethau i'w gwneud ym Mhontypridd ac o gwmpas y dref. Ewch am dro drwy'r dref, mwynhewch flas ar fwyd lleol ym marchnad draddodiadol Pontypridd a pheidiwch ag anghofio galw heibio Prince’s am bice ar y maen a phaned.

Mae nifer o ddigwyddiadau ymylol yn digwydd o gwmpas y dref gan gynnwys marchnad Gymreig yng Nghwr Stryd y Felin gerllaw. [dolen]

Mae Pontypridd yn agos i'r cymoedd os ydych chi am archwilio rhai trefi glofaol Cymru ac wrth gwrs, taith 30 munud yn unig yw hi ar y trên i Gaerdydd, y brifddinas.

Gallwch fwyta mewn steil ar eich ffordd i Dde Cymru

Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n cynnig gwasanaeth bwyty Dosbarth Cyntaf ar ein trenau? Ar wasanaethau penodol rhwng Abertawe a Manceinion a rhwng Caerdydd a Chaergybi, gallwch gael blas ar yr Eisteddfod wrth i chi deithio. Mae'r fwydlen 3 chwrs unigryw bellach ar gael ac mae'n cynnwys bacwn bara lawr, cawl cysurus, byrgyrs 'steddfod ac yn goron ar y cyfan – pwdin bara menyn bara brith.

TfW Eisteddfod menu-07-2 cropped

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Eisteddfod 2024.

Am ragor o wybodaeth am gynllunio eich taith i'r Eisteddfod, cliciwch yma

 

Ffynonellau - 

https://eisteddfod.cymru/node/1745 

https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Tourism/Thingstodo/Parks/YnysangharadWarMemorialPark/AboutthePark/EvanJamesStatue.aspx