Skip to main content

5 Years of Transport for Wales

25 Hyd 2023

Diweddariad gan Prif Swyddog Gweithredol TrC James Price

Wrth i ni ddathlu pum mlynedd ers i ni gymryd y cyfrifoldeb am y gwasanaethau rheilffyrdd ar ffurf Trafnidiaeth Cymru, dyma gyfle i fyfyrio, gan nodi pa mor bell yr ydym wedi cyrraedd a'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni. Ond hefyd, yn bersonol i mi fel y Prif Swyddog Gweithredol, rydym yn dal yn nyddiau cynnar cyflawni'r hyn yr ydym wedi'i addo ac edrychaf ymlaen at y deuddeg i ddeunaw mis nesaf, pan fydd ein cwsmeriaid yn elwa hyd yn oed yn fwy o'r gwaith trawsnewid sydd bellach ar y gweill.

Pan wnaethom gymryd yr awenau gan Arriva yn 2018, gwnaethom fabwysiadu fflyd o drenau oedd yn heneiddio ac roedd problemau capasiti (lle) parhaus. Dyw rhai o'r trenau hyn bellach ddim mewn gwasanaeth, rydym wedi llwyddo i uwchraddio neu ddisodli rhai eraill, ond yn bwysicaf oll, rydym wedi gallu dechrau defnyddio rhai o’n trenau newydd sbon ar y rhwydwaith. Pan wnaethom gymryd yr awenau, roedd llawer o'r trenau a etifeddwyd gennym yn anhygyrch, yn gadael gwastraff dynol ar draciau, yn gollwng dŵr ar deithwyr ac roeddent eisoes wedi bod yn weithredol am lawer hwy nag y dylent fod. Cymru oedd â'r fflyd gyfartalog hynaf yn y DU ac ers cymryd drosodd mae TrC naill ai wedi disodli neu uwchraddio/adnewyddu pob trên yn y fflyd.

197s in Cardiff central-32

Gan weithio gyda gwneuthurwyr trenau blaenllaw Stadler a CAF, mae gennym bellach drenau newydd sbon ar gwasanaethu ar rwydwaith Cymru a'r Gororau – 43 hyd yma, gyda dros 100 yn weddill. Bydd y trenau newydd hyn yn hanfodol i wella ein rhwydwaith.

Bydd pobl sydd eisoes wedi dechrau defnyddio rhai o'n trenau newydd (rwyf fi yn un o’r rheini) yn sylwi mor gyffyrddus yw’r seddi, mae ganddynt systemau aerdymheru modern a sgriniau gwybodaeth i deithwyr gyda gwybodaeth deithio amser real. Mae'r trenau hyn – sydd eisoes ar waith ar ein rhwydwaith - yn cynnig profiad llawer gwell i gwsmeriaid yn gyffredinol ac wrth i ni barhau i roi mwy o’r trenau hyn ar waith ar ein rhwydwaith, byddwn hefyd yn gallu adeiladu cydnerthedd ac amserlennu gwasanaethau yn well.

Mae'r gwelliant yn amlwg i'w weld yn ein mesurau perfformiad ar gyfer y ddau neu dri mis diwethaf. Mae'r ystadegau gwell yn gysylltiedig â nifer y trenau newydd rydym wedi'u hychwanegu at ein rhwydwaith, a byddwn yn gweld gwelliannau pellach wrth i ni barhau i ychwanegu mwy o drenau – tua un pob deg diwrnod.

Mae ein buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd sbon sydd wedi dechrau cludo teithwyr eleni yn sicr yn un o'n cyflawniadau mwyaf a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar gwsmeriaid. Dyma'r hyn rydyn ni wedi'i addo i gwsmeriaid ers y diwrnod cyntaf, ac mae bellach yn digwydd go iawn.

Taffs Well July 23-09

Ers 2018, rydym hefyd wedi cynyddu nifer y gwasanaethau rheilffyrdd ar ein rhwydwaith 20% ac rydym wedi buddsoddi £33 miliwn yn ein gorsafoedd yn unig, sy'n cyfateb i'r cyfanswm buddsoddiad a wnaeth y gweithredwyr blaenorol mewn 15 mlynedd.

Prosiect blaenllaw arall, y byddwn, heb os, yn cael beirniadaeth yn ei gylch, yw ein darpariaeth o Fetro De Cymru. Ers cymryd perchnogaeth o Reilffyrdd Craidd y Cymoedd ym mis Mawrth 2020, rydym wedi dechrau ar brosiect seilwaith cymhleth i drydaneiddio'r rhwydwaith; gan uwchraddio rheilffordd sy'n dyddio'n ôl i oes Fictoria. Rydym wedi gwneud hyn trwy gadw'r rhwydwaith ar agor a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu yn symud.

Mae wedi bod yn anodd i'n cwsmeriaid a'n cydweithwyr; rydym wedi gorfod ymdrin â phandemig byd-eang, tywydd gwlyb eithriadol a'r rhyfel yn yr Wcrain yn effeithio ar ein cadwyn gyflenwi.

Rydym wedi gorfod cau rhannau o'r rheilffordd (a byddwn yn parhau i wneud hynny); gan ddibynnu ar wasanaethau bws yn lle trên i gludo cwsmeriaid. Ar brydiau, mae ein cymdogion ar ochr y llinellau wedi cael eu haflonyddu'n eithriadol. Rydym yn ddiolchgar am eu hamynedd ac rydym yn parhau i weithio mor gyflym a diogel â phosibl.

A phum mlynedd wedi pasio ers i ni ddechrau ar ein cynlluniau manwl i adeiladu Metro De Cymru, rydym bellach mewn sefyllfa lle gall ein rhanddeiliaid, ein cwsmeriaid a phobl Cymru weld y cynnydd gwirioneddol rydym wedi'i wneud.

Mae ein depo gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf – cartref Metro De Cymru wedi'i adeiladu ac mae'n hawdd iawn i'w weld oddi o'r A470. Yna, mae ein Canolfan Reoli newydd ar gyfer y Metro, sydd bellach yn darparu signalau ac yn rheoli trenau i fyny ac i lawr lein y cymoedd. Rydym bellach wedi trydaneiddio 60km o drac gyda 110km arall i fynd ac mae ein trenau tram newydd sbon, cerbydau rheilffordd ysgafn cyntaf Cymru yn cael eu profi ar lwybrau Metro. Ar hyd linellau craidd y cymoedd, mae trac newydd, signalau, cyfarpar llinell uwchben a llawer o newidiadau ffisegol amlwg.

TaffsWell-July2023-015

Rydyn ni'n cyflwyno Metro De Cymru fesul cam, ac ym mis Mawrth eleni, fe wnaeth ein trenau Metro cyntaf ddechrau gwasanaethu ar hyd llinellau Craidd y Cymoedd. Mae ein trenau Dosbarth 231, ein trenau FLIRT - Fast Light Intercity and Regional Trains - eisoes yn gwella profiad y cwsmer, a dros y deunaw mis nesaf byddwn yn cyflwyno cyfanswm o dri deg pump o'r trenau hyn ynghyd â thri deg chwech o dramiau trydan (mae rhai ohonynt wrthi’n cael eu profi ar hyn o bryd).

Er y bu peth oedi o ran ein hamserlen ar gyfer cyflawni'r Metro a chynnydd yn ein costau, oherwydd COVID, yr argyfwng costau byw a chwyddiant diweddar, mae ein timau yn parhau i gyflawni er gwaethaf yr amgylchiadau heriol hyn, gan helpu i reoli'r costau hyn gymaint â phosibl.

Mae'r cynnydd rydym wedi'i wneud yn adeiladu Metro De Cymru yn un arall o'n cyflawniadau mawr dros y pum mlynedd diwethaf ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cam nesaf dros y flwyddyn i ddod. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi trydaneiddio rhagor o'r llinell, gyda rhannau o'r lein rhwng Aberdâr a Phontypridd a rhwng Merthyr Tudful ac Abercynon bellach wedi'i trydaneiddio.

O safbwynt sefydliadol, mae'n anodd ceisio crynhoi ein taith dros y pum mlynedd diweddaf gan fod cymaint wedi digwydd; rydym wedi gorfod esblygu'n barhaus a bod yn hyblyg yn ein dull o weithio wrth i'n cylch gwaith ehangu. Yn syml, rydym yn sefydliad gwahanol iawn i'r sefydliad oedden ni bum mlynedd yn ôl a bellach mae'r model busnes rydyn ni'n ei ddefnyddio yn wahanol iawn hefyd.

Taffs Well July 23-18

Bum mlynedd yn ôl, Keolis Amey oedd yn rheoli rhwydwaith Cymru a'r Gororau ac yn cyflawni eu contract i Drafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Heddiw, oherwydd y pandemig, mae'r rhwydwaith yng Nghymru mewn perchnogaeth gyhoeddus ac yn cael ei redeg gan TrC fel sefydliad nid-er-elw, sy'n llwyr eiddo i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y caiff yr holl refeniw ei ailfuddsoddi i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae hyn yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn TrC yn hynod falch ohono. Rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu system drafnidiaeth gyhoeddus effeithlon a bydd yr elw a gynhyrchir drwy'r system honno yn cael ei ailfuddsoddi ynddi, a thrwy'r model hwnnw byddwn yn gallu gwella bywydau'r rhai sy'n ei defnyddio.

Pan wnaethom lansio yn ôl yn 2018, roedd llawer o'r hyn yr oeddem yn ei wneud fel sefydliad yn gysylltiedig â rheilffyrdd. Fodd bynnag, rydym wedi tyfu ac esblygu, a heddiw rydym yn sefydliad trafnidiaeth aml-fodd, gyda chylch gwaith sy'n ehangu. Bellach mae gennym fwy o ddylanwad dros Deithio Llesol a gwasanaethau bysiau Cymru.

Yn y dyfodol, byddwn yn ystyried y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn ei chyfanrwydd ac yn nodi'r holl ddulliau gwahanol y gellir eu gwella, gyda dealltwriaeth glir o sut y gallwn gysylltu'r dulliau teithio hyn a chreu system fwy integredig.

Rydym ar daith i greu system drafnidiaeth i Gymru sydd ag un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn, system sy'n wirioneddol aml-fodd a fydd yn sbarduno newid yn y ffordd y mae pobl yn teithio tra hefyd yn lleihau'r galw am gymorthdaliadau ac yn cynyddu refeniw.

Un dangosydd amlwg o newid a thwf yn ein sefydliad yw os ydym yn cymharu niferoedd ein staff; yn 2018, lansio'r busnes gyda chant o gydweithwyr a heddiw, yn sgil prynu gwasanaethau rheilffyrdd, arlwyo a glanhau, Pullman Rail Ltd, Traveline Cymru a datblygiadau o fewn ein timau, mae dros 3,000 o bobl yn gweithio i ni.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, drwy arweinyddiaeth strategol Bwrdd TrC, fe wnaethom sefydlu ein Model Gweithredu newydd, sy'n golygu ein bod wedi ein strwythuro a'n symleiddio ar gyfer y dyfodol. Mae gweithio fel un tîm, gydag un set o amcanion, yn rhoi mwy o gyfleoedd i ni weithio ar y cyd a thrawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mewn ffordd sy’n wirioneddol aml-fodd.

Conwy-35

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru’ gyda ffocws ar uchelgeisiau ugain mlynedd a blaenoriaethau pum mlynedd. Yn Saesneg, golyga Llwybr Newydd 'new path' ac mae'n deg dweud bod Llywodraeth Cymru wir wedi nodi ffordd newydd o feddwl sy'n rhoi blaenoriaeth i bobl a newid yn yr hinsawdd a’u gwneud yn graidd i’n system drafnidiaeth.

Fel partner dibynadwy Llywodraeth Cymru, mae gennym rôl hanfodol wrth gyflawni sawl agwedd ar y strategaeth hon ac rydym hefyd yn darparu cyngor a dadansoddiad arbenigol ar faterion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth.

Rydym wedi profi ac addasu i'r newid parhaus hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond trwy gydol y cyfan bu rhai elfennau cyson i’n gwaith.

Yn gyntaf, mae ein diben fel sefydliad bob amser wedi parhau i fod yr un fath; mae gennym lawer o brosiectau parhaus o adeiladu Metro De Cymru i gyflwyno trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw gyda fflecsi (ein gwasanaeth bysiau), ond y rheswm yr ydym yn gwneud hyn oll yw er mwyn gwella bywydau'r rheini sy'n byw yng Nghymru a'r Gororau. Ein nod yw gwneud trafnidiaeth yng Nghymru yn wirioneddol gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Screenshot 2023-10-25 114352

Mae'r argyfwng hinsawdd yn fater y mae'r byd cyfan yn ceisio mynd i'r afael ag ef ac rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru gyda'u hagenda datgarboneiddio. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed sero net ar gyfer 2050 a'r targed cyffredin ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru yw bod yn sero net erbyn 2030.

Er mwyn helpu i gyflawni'r targedau uchelgeisiol hyn, mae angen i ni newid y ffordd y mae pobl yn teithio ledled Cymru a hyrwyddo ceisio annog pobl i symud o ddefnyddio'r car preifat a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a Theithio Llesol.

Er mwyn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhaid i ni wneud trafnidiaeth gynaliadwy'r opsiwn hawsaf, mwyaf deniadol a chyffredin i bobl. Mae llawer o'r hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud ac yn parhau i'w wneud yn golygu creu'r set gywir o wasanaethau a chynhyrchion ar gyfer y dyfodol a chynyddu parodrwydd a gallu pobl i'w defnyddio.

Yr ail nodwedd sydd gan TrC ers y diwrnod cyntaf yw angerdd ac arbenigedd diddiwedd ein staff. Ein gweithlu yw enaid ein sefydliad ac rwyf bob amser yn ddiolchgar am eu brwdfrydedd a'u hymdrech i

gyflawni. Yn TrC, rydym wedi pennu targedau uchel ac uchelgeisiol i'n hunain, ac rwy'n hyderus bod gennym y bobl iawn i gyrraedd y targedau hynny.

Hoffwn ddiolch i'n holl gydweithwyr, rhanddeiliaid a chwsmeriaid sydd wedi bod ar y daith drawsnewid hon gyda ni o'r diwrnod cyntaf. Nid yw wedi bod yn hawdd; nid yw'r lefel hon o newid yn digwydd dros nos ac nid ydym eto wedi cyrraedd y man lle rydym am ei gyrraedd. Ond rwy'n credu'n wirioneddol dros y deunaw mis nesaf, bydd ein gwaith caled yn dechrau talu ar ei ganfed gyda threnau newydd ychwanegol a Metro De Cymru yn cael ei ddarparu.

Yna, bydd ein pennod gyntaf ar ben; bydd y gwaith caled wedi dwyn ffrwyth a byddwn yn edrych ymlaen at yr ail bennod.