23 Mai 2022
Ydych chi wedi blino cael eich dal mewn traffig yn gynnar yn y bore? Neu fod ychydig o funudau’n hwyr i’ch trên i’r gwaith?
Yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni eisiau creu rhwydwaith trafnidiaeth integredig er mwyn i chi allu gadael y car gartref. Yn lle hynny, beth am ddewis cerdded neu feicio, neu fynd ar y trên neu’r bws. Mae llawer o fanteision i fod yn egnïol yn rheolaidd, gan gynnwys gwella eich lles meddyliol a chorfforol, a gellir cyflawni hynny drwy ddefnyddio dulliau llesol o gymudo i’r gwaith.
Darllenwch fwy i gael gwybod sut gallwch chi drawsnewid eich bore o giwiau hir i ddechrau braf a hamddenol i’ch diwrnod.
Cymryd eich boreau’n ôl
Mae cerdded neu feicio yn ffyrdd o deithio sy'n codi’r galon, yn enwedig yn y bore. Nid yn unig mae teithio llesol yn rhoi mwy o amser i chi ddeffro, ond mae hefyd yn rhoi ‘amser i chi’ gael cyfle i wrando ar bodlediad neu sgwrsio â ffrind.
Hefyd, gall beicio neu gerdded yn gyflym ostwng eich lefelau straen a’ch pwysedd gwaed. Mae’n ffordd syml o ymlacio ar ôl diwrnod hir yn y gwaith, sy’n golygu eich bod chi’n teimlo’n fwy hamddenol erbyn i chi gyrraedd adref.
Cynlluniwch eich taith gerdded gyda Cynlluniwr taith Traveline.
Gwella eich lles corfforol
Dydy pawb ddim eisiau treulio dwy awr yn y gampfa bob dydd i gadw’n heini. Ond mae cyfuno eich taith i’r gwaith i gynnwys taith gerdded, beicio neu hyd yn oed redeg neu fynd ar sgwter yn rheolaidd yn ffordd wych o gynnal eich lefelau ffitrwydd a lleihau eich lefelau straen.
Gall cerdded am 2.5 awr yr wythnos—dim ond 21 munud y dydd—leihau eich risg o glefyd y galon 30%!
Daliwch i symud i wella eich diwrnod
Mae symud eich corff y peth cyntaf yn y bore yn ffordd wych o ddechrau’r diwrnod ar nodyn cadarnhaol a pharatoi eich hun ar gyfer diwrnod da. Dydy hynny ddim yn golygu bod yn rhaid i chi redeg hanner marathon, ond gall beicio neu gerdded yn gyflym ryddhau’r endorffinau sydd eu hangen arnoch i deimlo’n bositif ac yn barod i wynebu’r diwrnod.
Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd? Mae Ovo bikes ar gael ar draws y ddinas ar gyfer taith iach a chyfleus yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, gyda llawer o leoliadau docio i ddewis ohonynt. Dewch o hyd i’ch lleoliad beics agosaf yma.
Gwella eich amgylchedd lleol
Mae opsiynau teithio cynaliadwy o fudd i’r amgylchedd, yn lleihau’r CO2 rydyn ni’n ei gynhyrchu bob dydd wrth ddefnyddio cerbydau modur, ac felly’n gwella ansawdd yr aer.
Er bod TrC yn parhau i ddatgarboneiddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth, gallwch chi helpu drwy wneud un newid syml i’ch taith ddyddiol i’r gwaith.
Hefyd, mae taith gerdded neu feicio bob dydd yn ffordd berffaith o fwynhau natur yn eich amgylchedd lleol. Yma yng Nghymru mae gennym olygfeydd hardd i fanteisio arnynt a gall treulio amser ym myd natur wella ein hwyliau.
Achub y dydd a’ch arian
Gyda chostau cynyddol petrol, does dim rhaid i'ch taith ddyddiol ychwanegu at eich biliau misol. Mae cerdded neu feicio yn ffordd wych o arbed arian ar betrol neu gostau teithio eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio i gynyddu teithio llesol ledled Cymru, cliciwch yma.
I wrando ar ein podlediad ‘Jest y Tocyn’ ar Deithio Llesol yng Nghymru, neu unrhyw un o bodlediadau eraill TrC, cliciwch yma.