13 Medi 2024
Beth am adael y car gartref y mis hwn a bachwch ar y cyfle i fwynhau'r golygfeydd godidog o'ch cwmpas wrth i chi deithio.
Gwerthfawrogwch y golygfeydd syfrdanol o ddec uchaf Sherpa'r Wyddfa neu beth am weld a fedrwch chi gael cipolwg ar gastell Caernarfon o'ch sedd? Hawdd yw archwilio Gogledd Cymru ar fws ac mae llawer o wasanaethau'n cynnig cysylltiadau â'n gwasanaethau trên hefyd.
P'un a ydych am fynd i fynydda ym mryniau Eryri neu os yw'n well gennych daith gerdded hanesyddol trwy dref Caernarfon, dyma 5 llwybr bws y dylech roi cynnig arnynt ym mis Medi yng Ngogledd Cymru.
Camwch yn ôl mewn amser gyda'r T2 i Gaernarfon
Wedi'i chyfoethogi gan hanes, mae Caernarfon yn dref wych i'w harchwilio yr hydref hwn. Diolch i wasanaeth T2 TrawsCymru rhwng Bangor ac Aberystwyth, mae'n hawdd cyrraedd a byddwch yn archwilio tir y castell mewn dim o dro. Yn syml, daliwch y bws T2 TrawsCymru y tu allan i orsaf drenau Bangor a byddwch yn gallu cyrraedd tref frenhinol Gwynedd o fewn tua 35 munud.
Crwydrwch Barc Cenedlaethol Eryri
P'un a ydych am gerdded i'r copa neu os yw'n well gennych daith ysgafn drwy'r parc, mae llwybr S1 Sherpa'r Wyddfa yn cynnig taith bws syfrdanol na chewch mo’i debyg yn unman. Trwy adael y car gartref, gallwch helpu i leddfu tagfeydd yn y parc cenedlaethol a byddwch yn mwynhau golygfeydd di-dor tra’n teithio. Mae gwasanaeth S1 yn rhedeg o Fetws-y-Coed i Gaernarfon.
Manteisiwch ar hyblygrwydd gwasanaethau Fflecsi ym Metws-y-Coed
- Mae Betws-y-Coed yn un o’n hardaloedd sydd wedi’u gwasanaethu gan fysiau Fflecsi, sy'n golygu y gallwch fwynhau teithio sy'n ymateb i'r galw. Yn syml, mewngofnodwch i'r ap, dewiswch eich man cychwyn a'ch cyrchfan a gallwch archebu taith ar adeg sy’n gyfleus i chi. Beth am archwilio pentref cyfagos Llanrwst neu os ydych am fentro ar antur, archebwch daith i Zip World ym Metws-y-Coed.
Darganfyddwch drysor cudd gyda'r T10
Yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri, dewch o hyd i bentref hyfryd Capel Curig. Neidiwch ar y bws T10 o Fetws-y-Coed a gwerthfawrogwch ddarlun perffaith yr olygfa hon. Gallwch barhau i Fangor neu Gorwen gan ddefnyddio'r gwasanaeth T10.
Ewch ar daith drydanol i Flaenau Ffestiniog ar y T22
Ar un adeg roedd hi’n dref mwyngloddio llechi, mae Blaenau Ffestiniog yn cynnig lleoliad unigryw sy'n swatio rhwng mynyddoedd y Moelwynion. Y newyddion gorau? Gallwch fwynhau taith ar fws cwbl drydanol, felly mae budd i'r amgylchedd hefyd. Gyda chyfleusterau gwefru di-wifr a USB yn ogystal â sgriniau gwybodaeth ar y bws, gallwch ymlacio a mwynhau taith dawel braf ar hyd y llwybr o Flaenau Ffestiniog i dref arfordirol Porthmadog ac yn olaf, i Gaernarfon.
Ydych chi’n ysu i ymweld ag ychydig mwy o leoliadau sydd eisoes ar eich rhestr deithio? Gallwch archwilio'r llwybrau hyn i gyd gan ddefnyddio un tocyn yn unig. Prynwch docyn 1bws ar unrhyw un o’n gwasanaethau bws a mwynhewch deithiau dyddiol neu wythnosol ar draws bron pob un o wasanaethau bws yng Ngogledd Cymru*. Os nad ydych chi’n gwybod beth yn union yw’ch cynllun am y diwrnod, yn syml, talwch drwy dapio i mewn a thapio allan a bydd pris eich tocyn yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar y teithiau rydych chi wedi'u gwneud, neu caiff ei gapio ar bris tocyn 1bws, pa un bynnag sydd rhataf.
Er mwyn cynllunio eich antur bws nesaf, ewch i Traveline Cymru.
*Mae tocyn 1bws yn ddilys ar yr holl wasanaethau bws lleol sy'n gweithredu yng Ngogledd Cymru (gan gynnwys siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam) ar wahân i wasanaeth 28 rhwng Yr Wyddgrug a'r Fflint. Nid yw chwaith yn ddilys ar wasanaethau i dwristiaid a weithredir gan fysiau awyr agored, ar wasanaethau coetsis National Express nac ar wasanaethau parcio a theithio. Derbynnir tocynnau 1Bws ar wasanaethau Fflecsi ond mae'n rhaid archebu teithiau drwy'r ap neu dros y ffôn o hyd.