Skip to main content

5 ways to show your support as an LGBTQ+ ally

28 Meh 2022

Mis Mehefin yw’r mis rydyn ni’n dathlu Balchder, ac yma yn TrC rydyn ni’n cefnogi’r gymuned LDHTC+ ac yn ystyried ein hunain yn gefnogwyr cadarn.

Heddiw, mae llawer ohonom yn gallu dathlu’n agored, ond mae normau o ran rhywedd i’w cwestiynu o hyd ac mae stereoteipiau i’w chwalu.  Yn TrC rydyn ni’n ymrwymo i hybu amrywiaeth ym mhob un o’n gweithgareddau, er mwyn hybu prosesau, ymarferion a diwylliant cynhwysol. 

Mae sawl ffordd fach y gallwch chi gefnogi LDHTC+ a dangos eich cefnogaeth i gydraddoldeb a chynwysoldeb i bawb:

 
Defnyddiwch ragenwau

Efallai y byddwch yn gofyn ‘pam mae’n rhaid i mi ddefnyddio rhagenwau?’

Wel, mae gan bob un ohonom ragenwau, ac rydyn ni’n eu defnyddio cannoedd o weithiau’r dydd: Fo/Fe/Ef, Hi, Fi, Ni, Nhw – dyma’r holl ragenwau rydyn ni’n eu defnyddio heb feddwl ddwywaith amdanyn nhw.

Mae cael eich camryweddu’n gallu bod yn brofiad sy’n peri gofid mawr, felly mae’n bwysig defnyddio’r rhagenwau sydd orau gan yr unigolyn.

Ffordd syml o gefnogi hyn yw drwy ychwanegu eich rhagenwau at eich llofnod e-bost, fel rydyn ni’n ei wneud yn TrC i hyrwyddo a chynnal amgylchedd cynhwysol. Felly, yn ogystal â chael cynllun cydraddoldeb, gall pob un ohonom ddewis gwneud y gwahaniaethau bach hyn, bob dydd.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ragenwau.

Pronouns-2

 
Osgoi gwneud tybiaethau

Mae pawb yn amlweddog. Felly, y ffordd rydyn ni'n dod yn gynhwysol yw deall nad yw pawb rydyn ni'n ey cyfarfod yn heteroywiol a/neu'n cisryweddol*, felly peidiwch â defnyddio iaith sy'n tynnu sylw at ryw benodol lle mae'r tybiaethau hyn yn cael ey hawgrymu. 

Er enghraifft, yn hytrach na holi rhywun am eu gŵr/gwraig, gofynnwch am eu partner.

*person y mae ei ymdeimlad o hunaniaeth bersonol a’i ryw yn cyfateb i’w ryw enedigol.

Mae pawb yn amlweddog. Felly, y ffordd rydyn ni'n dod yn gynhwysol yw deall nad yw pawb rydyn ni'n ey cyfarfod yn heteroywiol a/neu'n cisryweddol*, felly peidiwch â defnyddio iaith sy'n tynnu sylw at ryw benodol lle mae'r tybiaethau hyn yn cael ey hawgrymu. 

 

Codwch eich llais!

Arweiniwch y sgwrs – hyrwyddwch gydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gymryd rhan yn y sgyrsiau.

Pan fyddwch chi’n clywed rhywun yn dweud rhywbeth rydych chi’n ei wybod sy’n gallu bod yn sarhaus, yn niweidiol a/neu’n wahaniaethol, dywedwch rywbeth ac addysgwch bobl.

Yn hytrach na barnu rhywun sydd wedi ymddwyn yn amhriodol, addysgwch nhw. Dywedwch wrthyn nhw’n bwyllog pam y gallai’r hyn maen nhw wedi’i ddweud fod yn niweidiol... ‘Oeddet ti’n ymwybodol bod?’ a’u gwahodd i addysgu eu hunain am y gofod LDHTC+ .

pexels-rosemary-ketchum-2306779

 
Y pŵer i hyrwyddo

Mae llawer o achosion sy’n bwysig i’r gymuned LDHTC+ a’r ffordd orau o’u cefnogi yw drwy gymryd rhan yn eu gweithgareddau. Ewch i Balchder Cymru, ymunwch â grwpiau cymunedol lleol a meddwl sut gallwch chi fod yn gyfaill ar garreg eich drws.

Mae TrC mewn partneriaeth â Stonewall, elusen sydd wedi helpu i greu newid trawsnewidiol ym mywydau aelodau LGBTQ+ ledled y DU er 1989. Mae Stonewall yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol i chi gymryd rhan ynddyn nhw.

 Cliciwch yma i gael rhagor o syniadau am sut i gymryd rhan.

Pride 1-2

 
Dysgu’r hanes

Er mwyn deall yr uchod i gyd, lle da i ddechrau yw dysgu am hanes cymunedau LDHTC+ .

Terfysgoedd Stonewall yn America yn 1969 - cyfres o brotestiadau treisgar a digymell gan aelodau LDHTC+ yn erbyn cyrch gan yr heddlu ar y Stonewall Inn, Manhattan.

Mae gan wefan Stonewall  amrywiaeth o adnoddau i chi gael rhagor o wybodaeth.

Darllenwch fwy yma.

Pride history 2-2

Mae gweithredoedd yn fwy pwerus na geiriau!

I gael rhagor o wybodaeth am amcanion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru, darllenwch  yma.