Skip to main content

Explore 35 walks around the Welsh Coast by rail and foot.

20 Rhag 2024

Wyddoch chi y gallwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd llawer o arfordir trawiadol Cymru?

Mae Railwalks.co.uk wedi ymrwymo i hyrwyddo teithio cynaliadwy a hyrwyddo rhyfeddodau arfordir Cymru. Cymru yw eu man dechrau, a hynny am fod modd “cerdded o amgylch pob cam o arfordir Cymru” ac maent yn gwybod pa mor awyddus yw TrC i hyrwyddo defnyddio'r trên i gyrraedd llwybrau cerdded.

Maent wedi creu tudalen we bwrpasol sy'n arddangos 35 o deithiau cerdded sy’n para diwrnod anhygoel ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, llwybrau y mae modd eu cyrraedd ar y trên.

Mae gan y map deithiau cerdded arfordirol ar gyfer pob lefel ffitrwydd: ymlwybro o amgylch Bae Caerdydd i heicio ar hyd arfordir clogwynog Sir Benfro.

Mae llawer o fanteision i gyrraedd llwybrau cerdded ar y trên:

  • Teithio di-straen: Teithiwch ar y trên i gyrraedd eich taith gerdded neu olwynio – nid oes rhaid i chi boeni am ddod o hyd i le i barcio'r car na thagfeydd traffig.
  • Hwyl i'r teulu: Wyddoch chi y gall plant deithio am ddim ar ein gwasanaethau gydag oedolyn sy'n prynu tocyn? Mae'n ddiwrnod allan cost effeithiol i'r teulu.
  • Teithiau cerdded llinol: Mae cerdded rhwng gorsafoedd trenau yn golygu nad ydych chi'n dyblygu'r daith.

Mae Steve Melia, un o sylfaenwyr Railwalks ac awdur llyfrau teithio yn tynnu sylw at fantais allweddol arall:

“Mae cyrraedd llwybr cerdded arfordir Cymru gan ddefnyddio’r trên fantais arbennig dros yrru – does dim rhaid i chi fynd yn ôl i'r man lle gwnaethoch chi ddechrau.

Rydym yn gobeithio y bydd y tudalennau gwe newydd hyn yn annog llawer mwy o bobl i roi cynnig arni.”

Dywedodd Andy Stevenson, un arall a sefydlodd y busnes a dylunydd a gwneuthurwr:

“Mae wedi bod yn ymarfer mapio cymhleth ond yn werth chweil.

Rwy'n mawr obeithio y bydd y map yn helpu eraill i roi cynnig arni a manteisio ar gymaint o'r llwybrau y mae modd eu cyrraedd o ddefnyddio'r gorsafoedd trenau ar hyd yr arfordir."

Dywedodd Mel Lawton, Arweinydd ein Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol:

“Bydd yr adnodd hwn yn helpu mwy o bobl i deithio'n gynaliadwy a gweld dros eu hunain mor ysblennydd yw arfordir Cymru. Defnyddiwch railwalks.co.uk a'n gwefan i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich taith gerdded nesaf.”

Ydych chi'n barod i ddechrau ar eich taith gerdded gan ddefnyddio un o’r gorsafoedd trên ar hyd arfordir Cymru?

Rhowch eich esgidiau cerdded ymlaen, cyrraedd am eich tocyn trên a pharatoi i brofi Cymru un cam syfrdanol ar y tro!

Llwytho i Lawr